BYDD Huw Irranca-Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn ymweld ag Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yfory (20 Medi, 2018) i gwrdd â chleifion sydd wedi elwa o fuddsoddiad mewn gofal integredig.
Bydd y Gweinidog yn galw i weld y Tîm Ymateb Acíwt sydd yn cefnogi cleifion i aros yn eu cartrefi am hirach neu’n helpu i ryddhau pobl yn gynharach o’r ysbyty a hynny drwy roi meddyginiaethau drwy wythïen a thriniaethau tebyg iddynt.
Caiff gwaith y tîm ei ariannu gan Gronfa Gofal Integredig. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6.5miliwn mewn cyllid refeniw i Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru er mwyn cefnogi modelau blaengar ac integredig o ofal fel y Tîm Ymateb Acíwt.
Mae’n ysgogydd allweddol o ran symud gofal yn agosach i gartref, yn unol â Strategaeth Cymru Iachach a gafodd ei chyhoeddi ym mis Mehefin gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd a’r Gweinidog.
Bydd Mr Irranca-Davies yn ymuno â Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn nes ymlaen. Mae’r Bwrdd yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd i ddarparu gofal integredig.
Dywedodd Huw Irranca Davies: “Trwy ‘Cymru Iachach’, sef ein cynllun tymor hir ar gyfer GIG Cymru, rydym eisiau gweld llai o ddibyniaeth ar ysbytai a mwy o ofal yn agosach i gartref. Mae’r Tîm Ymateb Acíwt yn enghraifft wych o’r cynllun hwn ar waith ac mae’n dda cael cyfle i weld ac i glywed, o lygad y ffynnon, am y manteision y mae’r tîm yn eu cynnig i gleifion.
“Rwy’n blês bod y tîm yn un o’r cynlluniau i gael budd o’r Gronfa Gofal Integredig. Rydym wedi darparu £6.5miliwn drwy’r Gronfa i brosiectau yng Ngorllewin Cymru, sy’n cefnogi pobl i aros yn annibynnol ac i dderbyn gofal yn agosach i gartref ac yn sgil hynny, lleihau’r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG a gofal cymdeithasol.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru: “Rydym wrth ein boddau bod y Gweinidog yn ymweld â ni i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn newid bywydau pobl yng ngorllewin Cymru.
“Trwy’r Gronfa Gofal Integredig, rydym wedi gallu ailfodelu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod darpariaeth ddi-fwlch rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn y pen draw o fantais i’r cleifion ac yn cefnogi gwellhad cyflymach a lle bo’n bosibl, yng nghyfforddusrwydd eu cartref.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle