Bydd y band traddodiadol Cymreig Allan Yn Y Fan yn dathlu eu 22ain blwyddyn ar y ffordd gyda rhyddhau eu sengl gyntaf ym mis Medi, gyda thaith Ewropeaidd fawr i ddilyn yn yr Hydref.
Mae dau drac ar y sengl, a gyhoeddir ar label Steam Pie, sef “Ym Mhontypridd” a “Gorthrwm y Gweithiwr”. Mae’r band yn credu mai hwn yw’r recordiad cyntaf erioed o gân “Gorthrwm y Gweithiwr” sy’n cyfeirio ar frwydrau gweithwyr yn erbyn meistri haearn Beaufort, Glynebwy yng nghanol y 19eg ganrif.
Mae cyhoeddiadau’r daith a’r sengl CD yn dangos y band o flaen pont un cwmpas eiconig William Edwards dros yr Afon Taf ym Mhontypridd. Wedi’i chodi yn 1756, hi oedd am 40 mlynedd y bont un cwmpas fwyaf ym Mhrydain.
Caiff teitl y daith hefyd ei ysbrydoli gan y pontydd cerddorol y mae cefnogwyr y band wedi eu galluogi i’w codi dros y degawdau, a adlewyrchir gan ddychwelyd i Lwcsembwrg, Spiegelberg, Ystradgynaiais ac Abertyleri.
Mae’r ddihareb “A Fo Ben Bid Bont” hefyd yn flaenllaw m meddyliau’r band.
Mae Allan Yn Y Fan yn arbennig o falch i fod yn ymweld am y tro cyntaf ar y daith hon â Papenburg lle byddant yn perfformio’r cyngerdd cyntaf yn safle Altei Droste sydd newidd ei adfer; cyngerdd premiere yn Theatr Siwdio Staatsschauspiel yn Dresden, ynghyd ag ymweliadau cyntaf i Lanelli, Croesoswallt a Llanidloes.
Cyhoeddir “Ym Mhontypridd/Gorthrwm y Gweithiwr” ar 7 Medi.
Dyddiadadau’r daith lawn yw:-
14/09/18 Theatr Brycheiniog ABERHONDDU
27/09/18 Chateau Bettemberg LWCSEMBWRG
28/09/18 Alte Drostei PAPENBURG Yr Almaen
29/09/18 Gemeinde Halle Jux SPIEGELBERG Yr Almaen
30/09/18 Kleines Haus Staatsschauspiel DRESDEN Yr Almaen
01/10/18 West Flügel SYKE Germany
05/10/18 Theatr Ffwrnes LLANELLI
13/10/18 Ystafell Digwyddiadau LLANIDLOES
14/10/18 Hermon Chapel Arts Centre CROESOSWALLT
16/11/18 Neuadd Les YSTRADGYNLAIS
17/11/18 Y Met ABERTYLERI
23/11/Neuadd Pentref Y REDWIG, Casnewydd
01/12/18 Theatr y Farchnad LEDBURY
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle