Treialu Cynnig Gofal Plant Cymru

0
515

GALLAI rhieni plant 3 neu 4 oed sy’n gweithio ac sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin fod yn gymwys am hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y Llywodraeth ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Bydd Cynnig Gofal Plant Cymru yn cael ei dreialu yn Sir Gaerfyrddin o fis Ionawr 2019 ymlaen fesul cam.

Gallai rhieni sy’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn ennill ar gyfartaledd isafswm wythnosol sy’n gyfwerth â 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol fod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno mewn camau yn Sir Gaerfyrddin, gan ddechrau ym mis Ionawr 2019 ar gyfer rhieni sy’n gymwys.  Dyma’r wardiau sy’n gymwys ar gyfer cam cyntaf y Cynnig; Glanymôr, Bigyn, Ty-isa, Lliedi, Llwynhendy, Dafen, Hengoed, Elli, Felin-foel a’r Bynea.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rwyf wrth fy modd bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn dod i Sir Gaerfyrddin.  Mae’n gynllun gwych ac rwy’n siŵr y bydd o fantais i nifer o rieni sy’n gweithio’n galed a’u plant hefyd.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin neu ffoniwch 01267 246555.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle