Hywel Dda yn galw am help cymunedau’r canolbarth a’r gorllewin i ennill y frwydr yn erbyn y ffliw

0
463

Mae rhaglen flynyddol Hywel Dda i annog pobl mewn grwpiau cymwys ledled y canolbarth a’r gorllewin i gael brechiad i’w gwarchod rhag y ffliw, firws a all achosi salwch difrifol, yn cael ei lansio heddiw (Dydd Iau, 27 Medi). Bydd hyn yn ategol at yr ymgyrch Curwch Ffliw genedlaethol a fydd yn lansio ar 3 Hydref dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Eleni, mae Hywel Dda wedi datblygu ymgyrch leol â’r nod o ddwyn holl drigolion canolbarth a gorllewin Cymru ynghyd i fynd i’r afael â’r broblem hon ar y cyd fel un cymuned. Mae’r thema arwyr fel petai’n galw ar bobl i’r gad ac i fod yn “amddiffynwyr ffliw” a chael eu brechu. Bydd hyn yn amddiffyn yr unigolyn yn ogystal â chleifion, eu teuluoedd, cyd-weithwyr a chymdogion rhag dal y ffliw.

Cyflwynir y thema ar draws safleoedd Hywel Dda trwy ddefnyddio ffurf weledol a negeseuon sydd wedi’u datblygu i ddal y llygad, yn aros yn y cof ac yn annog pobl i wneud yr ymdrech i gael y brechlyn ffliw.

Yn rhanbarth Hywel Dda, mae gennym heriau penodol ynghylch derbyn y brechiad ffliw. Felly, er bod yr ymgyrch yn galw ar bawb i gael ei frechu, mae hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar grwpiau sy’n gymwys i gael brechiad am ddim sy’n cynnwys staff y GIG, merched beichiog, pobl sydd â rhai cyflyrau iechyd hir-dymor penodol (gweler rhestr lawn isod), a phawb sy’n 65 oed neu hŷn. Rydym hefyd yn annog pawb, boed yn gymwys i gael brechlyn GIG am ddim ai peidio, i gael y brechiad i helpu i atal lledaeniad y ffliw.

Mae plant rhwng dwy a deg oed (oed ar 31 Awst 2018) yn gymwys hefyd wrth i’r rhaglen frechu ar gyfer plant gael ei hymestyn eto eleni. Pigiad bach yw’r brechiad ar gyfer oedolion, ond i blant chwistrell trwyn syml yw’r brechiad. Gall plant rhwng dwy a thair oed dderbyn y brechiad drwy chwistrell trwyn yn eu meddygfa a bydd y rhai yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol 1 i 6 yn gallu ei gael yn yr ysgol.

Er mwyn cefnogi’r egwyddor bod angen i bob un ohonom gyd-weithio er mwyn ennill y frwydr yn erbyn y ffliw, mae Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Aelodau Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cynnal eu sesiwn brechu eu hunain yng nghyfarfod y Bwrdd heddiw yng Ngheredigion i ddangos eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r ymgyrch.

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wrth lansio’r ymgyrch heddiw, ei bod yn hanfodol bod y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf yn manteisio ar y brechiad am ddim: “Mae ffliw yn gallu bod yn salwch sy’n peryglu bywyd i rai pobl sy’n wynebu risg oherwydd eu hoedran, problem iechyd sylfaenol, neu am eu bod yn feichiog. Yn anffodus, mae ffliw yn lladd pobl yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae ffliw yn lledaenu’n rhwydd iawn. Bydd ymestyn y rhaglen i gynnwys mwy o blant eleni’n helpu i’w gwarchod rhag dal y ffliw, a bydd hefyd efallai yn eu hatal rhag ei ledaenu i eraill yn y gymuned sy’n agored iawn i niwed. Yr wyf yn galw’n arbennig ar rieni plant 2-3 i frechu eu plant eleni gyda’r chwistrell trwynol syml, gan fod yr ystadegau’n dangos bod cyn lleied â chwech o blant 2-3 oed sydd wedi’u brechu yn atal un achos o ffliw – mae gan y grŵp oedran hwn y cyfle gorau o bawb i helpu i atal lledaeniad y ffliw – nhw yw ein harwyr amddiffynnol pennaf.

“Mae pobl yn gallu bod yn ddifrifol wael gyda’r ffliw a brechiad y ffliw yw’r ffordd orau o warchod rhagddo, felly galwaf ar bob un yn ardal Hywel Dda gan gynnwys ein staff i’n helpu i atal lledaeniad y firws hwn trwy gael eu brechu a’n helpu i ddiogelu ein cymuned leol y gaeaf hwn.”

Er bod y mwyafrif o frechlynnau ffliw y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd, mae brechlyn am ddim hefyd ar gael i rai oedolion cymwys mewn llawer o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Mae gofalwyr, gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio, Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol ac, am y tro cyntaf eleni, mae gan bobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal a sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid yr hawl i gael y brechlyn hefyd. Caiff ei argymell hefyd bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael y brechlyn am ddim i amddiffyn eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Gallant siarad â’u hadran iechyd galwedigaethol neu gyflogwr ynghylch ble a phryd y gallant gael eu brechlyn.

Gwybodaeth bwysig ar y ffliw a’r brechlyn

Salwch anadlol yw ffliw sy’n cael ei achosi gan feirws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae’r symptomau’n ymddangos yn sydyn yn gyffredinol ac maen nhw’n gallu cynnwys tymheredd uchel, oerfel, cur pen, peswch, y corff yn brifo a blinder.

Mae feirws y ffliw yn cael ei ledaenu mewn dafnau sy’n cael eu chwistrellu i’r aer pan fydd person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Hefyd gall cyswllt â dwylo neu arwynebau sydd wedi’u llygru ledaenu haint. Gall ledu’n gyflym, yn enwedig mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.

Disgwylir i ffliw fynd ar led bob gaeaf, ond mae’r mathau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly mae’n bwysig cael brechiad ffliw bob blwyddyn, yn ddelfrydol cyn i ffliw ddechrau mynd ar led.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org neu drwy chwilio am ‘Curwch Ffliw’ neu ‘Beat Flu’ ar Twitter a Facebook.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle