Hywel Dda Health Board: Gwasanaeth neges destun newydd er mwyn gwella profiad y claf

0
1149

Mae’r bwrdd iechyd yn ychwanegu at y ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu trwy gyflwyno gwasanaethau neges destun newydd er mwyn gwella profiad y claf ac i leihau’r siawns eich bod chi’n colli apwyntiad.

Rydym yn gweithio’n gyson i leihau amseroedd aros ar gyfer ein cleifion, a’r wythnos hon rydym wedi lansio gwasanaeth neges destun i unrhyw un sydd wedi cofrestru ei rif ffôn symudol â ni ac sydd ar restr aros ar hyn o bryd, yn holi a ydynt am barhau ar y rhestr ai peidio. Gall cleifion optio-allan o gael y negeseuon testun unrhyw bryd.

Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn lansio gwasanaeth atgoffa mewn neges destun ar gyfer yr adrannau cleifion allanol cyn bo hir er mwyn sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o unrhyw apwyntiadau sydd ar y gweill, ac i leihau’r nifer o apwyntiadau sy’n cael eu colli. Ar hyn o bryd, mae hyn yn costio tua £4 miliwn y flwyddyn i’r bwrdd iechyd.

Meddai Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg “Yn yr oes ddigidol hon, rydym yn cydnabod y bydd nifer fawr o’n poblogaeth yn elwa o gael negeseuon testun os ydynt ar restr aros am apwyntiad, yn arbennig felly os nad oes arnynt angen yr apwyntiad mwyach. Bydd hyn yn ein helpu i ryddhau lle yn y system ac yn sicrhau y gallwn redeg ein gwasanaethau mewn modd llawer mwy effeithiol.”

Meddai Stephanie Hire,Rheolwr Cyffredinol Gofal wedi’i Drefnu “Er bod y galw am wasanaethau cleifion allanol mewn ysbytai yn uchel, gwyddon fod 30,000 o apwyntiadau yn cael eu colli bob blwyddyn yn Hywel Dda sy’n dod ar gost uchel i’r bwrdd iechyd ac yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar y person sydd wedi colli’r apwyntiad hwnnw ond hefyd ar amseroedd aros, ar gleifion eraill ac ar ein clinigwyr. Felly, rydym yn falch o allu cyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn er budd pawb.”

Mae mwy o wybodaeth ar negeseuon testun ar gael er ein gwefan: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/tecst


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle