For the first time in its history, Hywel Dda University Health Board has an over-arching strategy, describing a vision for improving the health and well-being of its population during the next 20 years.
Board members approved A Healthier Mid and West Wales strategy in a full Board meeting held in Carmarthenshire Council Chamber today (Thursday 29 November).
The strategy is not solely about medical or clinical care, but is driven by emphasis on how we change culture and focus more on prevention, early intervention and community care to keep people well. It acknowledges this will only be achieved by working with partners, including local people, on all elements of life that affect our health and well-being.
The vision is for a mid and west Wales where âindividuals, communities and the environments they live, play and work in are adaptive, connected and mutually supportiveâ, which means people are âresilient and resourceful and enabled to live joyful, healthy and purposeful lives with a strong sense of belongingâ. The aim is to achieve this by working towards three strategic goals â starting and developing well, living and working well and growing older well.
Chairman Bernardine Rees said: âThis is a momentous occasion as it is the first time our health board has a strategy in place for how it will help keep people well and provide sustainable health and care for the population it serves. We recognise anxieties still exist in our communities and so we will continue to come to them in their localities to involve them as partners every step of the way, and demonstrate how we can make improvements.â
Chief Executive Steve Moore added: âThis strategy is aligned to the ambitions set out by the Welsh Government in A Healthier Wales to integrate with partners, particularly with local authorities but also others, and have a whole system approach to care which is focused on health, well-being and preventing illness. We are hugely grateful to everyone who has been involved in this journey to date, partners, the public and our staff who are our greatest asset and whom we will continue to involve.â
More detailed plans on what will be done to achieve the boardâs vision and strategic goals will come back before the health board in January and March of next year and will be closely monitored through the Board and its governance structure to ensure it is now part of the usual business of work and focus remains during transition on quality and safety of services.
Some early examples of work already in motion or which are to be progressed in year one, are described in the strategy and include:
- To demonstrate what community based care could look like to local people, early implementers of health and well-being centres and integrated community networks will be established in Cardigan, Fishguard, Llandysul, Lampeter, Llanelli and Pembroke Dock. This wonât prohibit work to enhance community care in other areas, or schemes already underway for example Cylch Caron in Tregaron, and Cross Hands.
- Care navigators in the community will help people understand and use community based services, which will be built around seven integrated localities so they can be responsive to the specific needs of their populations (North and South Ceredigion, North and South Pembrokeshire, Amman and Gwendraeth, Taf, Tywi and Teifi). Community and hospital based services will be assessed and consideration made of the full seven-days of the week, so we can expand services with the most positive impact for patients.
- Consultation recommendations in September made no decision on whether to close beds at Amman Valley and South Pembrokeshire hospitals so the health board will now work with these communities, and others, to explore different types of beds – whether in existing community hospitals, at home or another setting.
- Work to build a new hospital in the south of the Hywel Dda area for urgent and planned care will begin now. This will include scoping and feasibility studies for sites between Narberth and St Clears. The new hospital is critical to the health boardâs plans for re-organised local hospitals, and if not achieved for any reason, plans would need to be re-considered and the board would go back out to engage with the public. It is anticipated a new hospital would be operational by 2027.
The types of service expected to be included in each of the health boardâs current hospitals (Bronglais, Glangwili, Prince Philip, Withybush) are outlined in the document on pages 35 to 37 (https://bit.ly/2BxMNs9). There will be further opportunities for staff, patients, carers, people living and working in our communities and partners interested in or delivering health and care to influence pathways of care.
Board members discussed during the meeting the need to closely monitor progress and ensure the health board delivers its commitments to the public so it builds confidence in the NHS. The closer integration with partners, particularly the three local authorities was welcomed.
Local authority representative Jonathan Griffiths said: âExisting models of collaboration are going on every day of the week, but this is about scaling that work up. It is an opportunity to make a great impact and I formally confirm the commitment from local authorities around an integrated approach.â
The strategy will be launched with the public in the New Year, including publication of a summary and alternative versions to reach specific audiences. This will be supported by ongoing information and opportunities to engage and talk with the health board through locality based events and relationships.
In the meantime, if you are interested in shaping the future health and well-being of the population or the design of services, you can join the involvement scheme Siarad Iechyd Talking Health at www.talkinghealth.wales.nhs.uk or phone 01554 899 056.
Y bwrdd iechyd yn cymeradwyo’r strategaeth gyntaf ar gyfer iechyd a gofal
Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda strategaeth drosfwaol, sy’n disgrifio gweledigaeth ar gyfer gwella iechyd a lles ei phoblogaeth yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
Mewn cyfarfod o’r Bwrdd llawn a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw (ddydd Iau 29 Tachwedd), cymeradwywyd strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach gan aelodau’r Bwrdd.
Nid yw’r strategaeth yn ymwneud â gofal meddygol neu glinigol yn unig; yn hytrach, mae’n cael ei llywio gan bwyslais ar y modd yr ydym yn newid diwylliant ac yn canolbwyntio mwy ar atal, ymyrraeth gynnar a gofal cymunedol i gadw pobl yn iach. Mae’n cydnabod mai dim ond trwy weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys pobl leol, a hynny mewn perthynas â phob elfen o fywyd sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n lles, y gellir cyflawni hyn.
Mae’r weledigaeth yn un ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru lle bo ‘unigolion, cymunedau a’r amgylcheddau y maent yn byw, yn chwarae ac yn gweithio ynddynt yn rhai ymaddasol, cysylltiedig, a chefnogol, y naill ochr i’r llall’, gan olygu bod pobl yn ‘wydn ac yn ddyfeisgar, ac yn gallu byw bywydau llawen, iach a phwrpasol, ac iddynt ymdeimlad cryf o berthynâ. Y nod yw cyflawni hyn trwy weithio tuag at dri nod strategol â dechrau a datblygu’n dda, byw a gweithio’n dda, a heneiddio’n dda.
Dywedodd y Cadeirydd, Bernardine Rees: “Mae hwn yn achlysur pwysig gan mai dyma’r tro cyntaf i’n bwrdd iechyd fod â strategaeth ar waith o ran y modd y bydd yn helpu i gadw pobl yn iach ac yn darparu iechyd a gofal cynaliadwy ar gyfer y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu. Rydym yn cydnabod bod yna bryderon yn bodoli o hyd yn ein cymunedau, ac felly byddwn yn parhau i ddod atynt yn eu hardaloedd er mwyn eu cynnwys fel partneriaid bob cam o’r ffordd, ac amlygu’r modd y gallwn wneud gwelliannau.”
Dywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore: “Mae’r strategaeth hon yn cyd-fynd â’r uchelgeisiau a amlinellir gan Lywodraeth Cymru yn Cymru Iachach i integreiddio â phartneriaid, yn enwedig ag awdurdodau lleol, ond eraill yn ogystal, a meddu ar ymagwedd system gyfan at ofal, sy’n canolbwyntio ar iechyd, lles ac atal salwch. Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith hon hyd yn hyn â y partneriaid, y cyhoedd a’n staff, ein hased mwyaf â a byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn rhan o’r daith i ddod.”
Bydd cynlluniau manylach ar yr hyn a wneir i gyflawni gweledigaeth a nodau strategol y bwrdd yn cael eu cyflwyno i’r bwrdd iechyd ym mis Ionawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddant yn cael eu monitro’r fanwl gan y Bwrdd a’i strwythur llywodraethu er mwyn sicrhau eu bod bellach yn rhan o’r busnes gwaith arferol, a bod ffocws yn parhau ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau yn ystod y cyfnod pontio.
Mae’r strategaeth yn disgrifio rhai enghreifftiau cynnar o waith sydd eisoes yn cael ei wneud, neu sydd i’w ddatblygu ym mlwyddyn un, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- Er mwyn dangos sut beth y gallai gofal cymunedol fod i bobl leol, bydd gweithredwyr cynnar canolfannau iechyd a lles a rhwydweithiau cymunedol, integredig yn cael eu sefydlu yn Aberteifi, Abergwaun, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan, Llanelli a Doc Penfro. Ni fydd hyn yn gwahardd gwaith i wella gofal cymunedol mewn ardaloedd eraill, na chynlluniau sydd eisoes ar y gweill, er enghraifft Cylch Caron yn Nhregaron, a Cross Hands.
- Bydd hwyluswyr gofal yn y gymuned yn helpu pobl i ddeall a defnyddio gwasanaethau yn y gymuned, a fydd yn cael eu saernĂŻo o amgylch saith ardal integredig fel y gallant ymateb i anghenion penodol eu poblogaethau (Gogledd a De Ceredigion, Gogledd a De Sir Benfro, Aman a Gwendraeth, Taf, Tywi a Theifi). Bydd gwasanaethau cymunedol ac mewn ysbytai yn cael eu hasesu, a rhoddir ystyriaeth i saith niwrnod llawn yr wythnos fel y gallwn ehangu gwasanaethau a sicrhau’r effaith fwyaf cadarnhaol i gleifion ar yr un pryd.
- Nid oedd argymhellion yr ymgynghoriad ym mis Medi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylid cau gwelyau yn ysbytai Dyffryn Aman a De Sir Benfro ai peidio, felly bydd y bwrdd iechyd ‘nawr yn gweithio gyda’r cymunedau hyn, ynghyd ag eraill, i archwilio mathau gwahanol o welyau â boed mewn ysbytai cymunedol cyfredol, yn y cartref, neu mewn lleoliad arall.
- Bydd y gwaith i adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn dechrau ‘nawr. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau cwmpasu a dichonolrwydd ar gyfer safleoedd rhwng Arberth a SanclĂŞr. Mae’r ysbyty newydd yn hanfodol i gynlluniau’r bwrdd iechyd i ail-drefnu ysbytai lleol, ac os na chyflawnir hyn am unrhyw reswm, byddai angen ailystyried y cynlluniau, a byddai’r bwrdd yn mynd yn Ă´l allan i ymgysylltu â’r cyhoedd.
Rhagwelir y byddai ysbyty newydd yn weithredol erbyn 2027.
Yn y ddogfen, amlinellir y mathau o wasanaethau y disgwylir iddynt gael eu cynnwys ym mhob un o ysbytai cyfredol y bwrdd iechyd (Bronglais, Glangwili, y Tywysog Philip, Llwynhelyg), a hynny ar dudalennau 35 i 37 (https://bit.ly/2BxMNs9). Bydd staff, cleifion, gofalwyr, pobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau, a phartneriaid sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal neu sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal, yn cael rhagor o gyfleoedd i ddylanwadu ar lwybrau gofal.
Yn ystod y cyfarfod, trafododd aelodau’r Bwrdd yr angen i fonitro cynnydd yn fanwl ac i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni ei ymrwymiadau i’r cyhoedd er mwyn meithrin hyder yn y GIG. Croesawyd yr integreiddio agosach â phartneriaid, yn enwedig y tri awdurdod lleol.
Dywedodd cynrychiolydd yr awdurdodau lleol, Jonathan Griffiths: âMae’r modelau cydweithio presennol yn mynd rhagddynt bob dydd o’r wythnos, ond mae hyn yn golygu cynyddu’r gwaith hwnnw. Mae’n gyfle i gael effaith fawr, ac rwy’n cadarnhau’n ffurfiol yr ymrwymiad sydd gan yr awdurdodau lleol i weithredu dull integredig.â
Bydd y strategaeth yn cael ei lansio i’r cyhoedd yn y Flwyddyn Newydd, a bydd hyn cynnwys cyhoeddi crynodeb a fersiynau amgen er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd penodol. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wybodaeth a chyfleoedd parhaus i ymgysylltu a siarad â’r bwrdd iechyd, a hynny trwy ddigwyddiadau a pherthnasoedd yn yr ardaloedd lleol.
Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu iechyd a lles y boblogaeth yn y dyfodol neu mewn cynllunio gwasanaethau, gallwch ymuno â’r cynllun cynnwys Siarad Iechyd/Talking Health yn www.siaradiechyd.wales.nhs.uk neu ffoniwch: 01554 899 056
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle