Ras yr Iaith (Race for the Language) and Mentrau Iaith Cymru offer organisations and community groups the opportunity to apply for a grant to promote the Welsh language in their communities.
In July 2018, over 2,000 people, from 15 towns, including
Wrexham, Menai Bridge, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth,
Haverfordwest, Carmarthen, Ammanford, Llanelli, Ystradgynlais, Pontardawe,
Clydach, Porthcawl, Caerphilly, ran to celebrate the Welsh language. Grants of
between £150 and £750 are available to organisations that are located in the
towns mentioned, following an application that shows priority to promoting the
Welsh language.
Siôn Jobbins, Chair of Ras yr Iaith says;
“After the success of Ras yr Iaith for the third time this
year, we are proud to see how the race has expanded over the years to new areas
of the country. We hope to see the race grow again in 2020. An important part
of Ras yr Iaith is to distribute grants from the money raised during the race,
for local organisations to promote and increase the use of the Welsh language.
We are pleased to be able to invite organisations to apply for the grants again
this year”
Lowri Jones, Chair of
Mentrau Iaith Cymru says;
“It was great to see the race starting and ending in the east of
the country this year, with the Mentrau Iaith in those areas organising a leg
of the race for the first time. We were very happy to welcome Ras yr Iaith to
the region to spread the races message to new places. The Mentrau are proud to
play an important role in organising Ras yr Iaith. The race is a great
opportunity for the public to volunteer in Welsh, and for the Welsh language,
something that we are giving a greater focus to in organizing the 2020 Ras yr
Iaith”
Volunteers
The message of Ras yr Iaith in 2018 focused on the
importance of volunteering towards the Welsh language, therefore, this year,
there is an emphasis on the use of volunteers as a conditional part of the
grant applications.
Rhedadeg Cyf and Mentrau Iaith Cymru, organizers of Ras
yr Iaith, would like to thank the main national sponsor, BT, and our other
national sponsors, Aberystwyth University, Tinopolis, Llaeth y Llan, Gwent
Police and Crime Commissioner’s Office, Dyfed-Powys Police and Crime
Commissioner, Brecon Carreg, Golwg, and the University of Wales Trinity Saint
David. Thanks also to the local organisations and companies who sponsored the
race, and to the runners and volunteers, who made the event possible.
For more information visit: www.rasyriaith.cymru
Closing date for applications is 08/02/2019
Cyhoeddi grantiau Ras yr Iaith i hyrwyddo’r Gymraeg
Mae Ras yr Iaith a Mentrau Iaith Cymru yn cynnig y cyfle i fudiadau a grwpiau cymunedol geisio am grant er mwyn hybu’r Iaith Gymraeg yn eu cymunedau.
Ym mis Gorffennaf 2018, rhedodd dros 2,000 o bobl o 15 tref, yn
cynnwys Wrecsam, Porthaethwy, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth,
Hwlffordd, Caerfyrddin, Rhydaman, Llanelli, Ystradgynlais, Pontardawe, Clydach,
Porthcawl, a Caerffili, i ddathlu’r iaith Gymraeg. Mae grantiau rhwng £150 a
£750 ar gael i fudiadau sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd y trefi uchod, yn dilyn
cais fydd yn dangos blaenoriaeth at hyrwyddo’r Gymraeg.
Dywed Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith.
“Wedi
llwyddiant Ras yr Iaith am y trydydd tro eleni, rydym yn falch o weld y ras yn
enhangu dros y blynyddoedd i ardaloedd newydd o’r wlad. Rydym yn gobeithio
gweld y ras yn tyfu eto yn 2020. Rhan bwysig o Ras yr Iaith yw dosbarthu
grantiau o’r arian a godwyd yn ystod y ras i fudiadau lleol er mwyn hyrwyddo’r
iaith Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni. Rydym yn falch i allu gwahodd
mudiadau eto eleni i ymgeisio am y grantiau”
Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;
“Roedd
hi’n braf iawn eleni gallu dechrau a gorffen y ras yn y Dwyrain gyda’r Mentrau
Iaith yn yr ardaloedd hynny yn trefnu cymal am y tro cyntaf. Roeddem yn hapus
iawn i groesawu Ras yr Iaith i’r rhanbarth er mwyn gwasgaru neges y Ras i
lefydd newydd. Mae’r Mentrau yn falch iawn o chwarae rhan bwysig wrth drefnu
Ras yr Iaith. Mae’r ras yn gyfle gwych i’r cyhoedd wirfoddoli yn y Gymraeg ac
er mwyn y Gymraeg, rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno fwyfwy wrth drefnu Ras
yr Iaith 2020.”
Gwirfoddolwyr
Roedd neges Ras yr Iaith 2018 yn canolbwyntio ar bwysigrwydd
gwirfoddolwyr tuag at y Gymraeg, felly, yn ychwanegol eleni, mae yna bwyslais
ar ddefnydd gwirfoddolwyr fel rhan amodol o’r ceisiadau grant.
Hoffai Rhedadeg Cyf a Mentrau Iaith Cymru, trefnwyr y ras, ddiolch
i’r prif noddwr cenedlaethol, BT, ac ein noddwyr cenedlaethol eraill, Prifysgol
Aberystwyth, Tinopolis, Llaeth y Llan, Swyddfa Comisiynydd Yr Heddlu a
Throseddu Gwent, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Brecon Carreg, Golwg,
a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Diolch hefyd i’r mudiadau, sefydliadau,
a chwmnïau lleol a noddodd y ras, ac i’r rhedwyr a’r gwirfoddolwyr am wneud y
digwyddiad yn bosib.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.rasyriaith.cymru
Dyddiad cau y ceisiadau yw 08/02/2019
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle