Hywel Dda Health Board: Double success for Hywel Dda University Health Board at MediWales Innovation Awards 2018 / Llwyddiant dwbl ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2018

0
716

Hywel Dda are delighted to announce we received two awards at the recent Medi Wales Innovation Awards. The awards were attended by guests from the NHS, government, academia and industry to celebrate the year’s biggest achievements in the Welsh life sciences sector.

The black tie event was held at Cardiff’s National Museum of Wales and was delivered with support from BioWales, the Welsh Government’s Healthcare Technology, Strategy & Innovation Team and Health & Care Research Wales.

Our achievements were recognised in the NHS Collaboration with Industry Award Category for our Pulmonary Rehabilitation Team, who have developed the Virtual Pulmonary Rehabilitation (VIPAR) service to connect standard lung rehabilitation services to local village halls and community independent living centres via video conferencing. They worked in partnership with Comcen and Polycom to deliver the technical needs for the system.

Commenting on this award Michelle Dunning, Senior Primary Care Locality Manager said “The team are delighted to have won this award. Our project has demonstrated that technology can enhance service delivery especially in rural areas to benefit our citizens.

“Working with the Bevan Commission and in partnership with industry has brought the concept of virtual service delivery to life. The support from Matthew Sims (Comcen) has been invaluable throughout the project. This really was true collaboration by all involved in the development of the VIPAR service”.

The second award, Research Excellence in NHS Wales was won by our Research and Development Team who developed the LungCAST study, which has the largest cohort in the world looking at the immediate and long-term impact of continued smoking and quitting of patients after a lung cancer diagnosis on survival, quality of life and treatment complications.

We know that 85% of lung cancer diagnoses are caused by smoking, and researchers in this study believe that smoking after diagnosis may affect the course of the condition. The research could help to support patients through specialist smoking cessation advice, to improve quit rates leading to an increase in survival rates.

Professor Keir Lewis head of the Clinical Research Centre said ““We are honoured to win the Research Excellence Award.  Smoking is a major cause of lung cancer and can affect patient outcomes and response to treatment. Our dedicated service has been developed in partnership with Swansea University, Public Health Wales and the Wales Cancer Network to support quit attempts and help improve survival in patients with cancer.

Dr Rachel Gemine, Grant and Innovation Manager at Hywel Dda continued “We would like to express our gratitude to all the patients and staff across the UK who have been involved in these studies and thank you to MediWales for the recognition of their hard work and dedication.”

Llwyddiant dwbl ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2018

Double success for Hywel Dda University Health Board at MediWales Innovation Awards 2018 / Llwyddiant dwbl ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Ngwobrau Arloesedd MediWales 2018

Mae’n bleser o’r mwyaf gan Hywel Dda gyhoeddi ein bod wedi cael dwy wobr yng Ngwobrau Arloesedd MediWales. Daeth gwesteion o’r GIG, y Llywodraeth, y byd academaidd a’r byd diwydiant i’r achlysur gwobrwyo, i ddathlu llwyddiannau mwyaf y flwyddyn yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad tei du yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hynny gyda chymorth BioCymru, Tîm Technoleg, Strategaeth ac Arloesedd Gofal Iechyd Llywodraeth Cymru, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cydnabuwyd ein cyflawniadau yn y Categori Gwobr Cydweithrediad y GIG â Diwydiant, a hynny am waith ein Tîm Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint. Mae’r tîm wedi datblygu’r Gwasanaeth Rhithwir i Adsefydlu Cleifion Yr Ysgyfaint (VIPAR) er mwyn cysylltu gwasanaethau adsefydlu’r ysgyfaint safonol â neuaddau pentrefi lleol a chanolfannau byw’n annibynnol yn y gymuned, a hynny trwy fideogynadledda. Gweithiodd y tîm mewn partneriaeth â Comcen a Polycom, a ddarparodd y gofynion technegol ar gyfer y system.

Wrth sôn am y wobr hon, dywedodd Michelle Dunning, Uwch-reolwr Ardal Gofal Sylfaenol, “Mae’r tîm wrth ei fodd am ei fod wedi ennill y wobr hon. Mae ein prosiect wedi dangos y gall technoleg wella’r broses o ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, er lles ein dinasyddion.

“Mae gweithio gyda Chomisiwn Bevan ac mewn partneriaeth â diwydiant wedi dod â’r cysyniad o ddarparu gwasanaeth rhithwir yn fyw. Mae’r gefnogaeth gan Matthew Sims (Comcen) wedi bod yn amhrisiadwy trwy gydol y prosiect. Dyma i chi gydweithrediad go iawn gan bawb sy’n rhan o’r broses o ddatblygu’r gwasanaeth VIPAR”.

Enillydd yr ail wobr, sef Rhagoriaeth Ymchwil yn GIG Cymru, oedd ein Tîm Ymchwil a Datblygu, a ddatblygodd yr astudiaeth LungCAST. Mae gan yr astudiaeth hon y cohort mwyaf yn y byd yn edrych ar effaith uniongyrchol a hirdymor smygu parhaus, ynghyd ag effaith rhoi’r gorau i smygu, wedi i gleifion gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint, ar oroesiad, ansawdd bywyd a chymhlethdodau o ran triniaethau.

Gwyddom fod 85% o’r diagnosau o ganser yr ysgyfaint yn cael eu hachosi gan smygu, ac mae ymchwilwyr yn yr astudiaeth hon yn credu y gall smygu ar ôl diagnosis effeithio ar drywydd y cyflwr. Trwy gyngor arbenigol ar roi’r gorau i smygu, gallai’r ymchwil helpu i gefnogi cleifion fel bod y cyfraddau rhoi gorau i smygu yn arwain at welliant yng nghynnydd y cyfraddau goroesi.

Dywedodd yr Athro Keir Lewis, pennaeth y Ganolfan Ymchwil Glinigol, “Mae ennill y wobr Rhagoriaeth Ymchwil yn anrhydedd i ni. Mae smygu yn un o brif achosion canser yr ysgyfaint, a gall effeithio ar ganlyniadau cleifion a’r modd y maent yn ymateb i driniaeth. Datblygwyd ein gwasanaeth penodedig mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Iechyd y Cyhoedd Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru, a hynny er mwyn cefnogi ymdrechion i roi’r gorau i smygu, a helpu i wella cyfraddau goroesi y cleifion sydd â chanser.

Dywedodd Dr Rachel Gemine, Rheolwr Grantiau ac Arloesedd yn Hywel Dda, “Hoffem ddiolch i’r holl gleifion a staff ledled y Deyrnas Unedig a fu’n rhan o’r astudiaethau hyn, a diolch i chi, MediWales, am gydnabod eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle