National Park Marine Plastic Session Buoyed by Travel Busary Offer

0
969

The Pembrokeshire Coast National Park Authority is encouraging local primary schools to take advantage of a travel bursary that will help them access a new education day themed around marine plastic and its impact on the environment.

The new Plastic in the Sea session involves a workshop to introduce the issue, a trip to view the Coast exhibition at Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre in St Davids and a practical session to investigate the plastic problem on a nearby beach.

National Park Authority Education Ranger, Tom Bean said: “This new session for schools responds to the enthusiasm to learn more about marine litter and turn the tide on the issue.

“The Coast exhibition at Oriel y Parc, which includes artwork and natural specimens from the collections of Amgueddfa Cymru-National Museum Wales, explores how plastic has impacted on everyday life and details a project on plastic pollution by the museum’s Youth Forum Group.

“The session is suitable both as an introduction to marine plastic as well as a consolidation of classroom learning.”

A Key Stage Two teacher who accompanied her trip said: “The children particularly enjoyed the exhibition, which gave them a unique opportunity to see how plastic has affected the wildlife around our coast.

“The Rangers were incredibly informative and inspirational while sharing their own experiences with the children. The exhibition generated many questions from the pupils which we have looked into further back at school.”

The cost per pupil for the one-day session is £4.50. A £100 travel bursary is available per school group towards the cost of transport thanks to a partnership between the UK’s National Parks and Forest Holidays.

Nationally, the Forest Holiday partnership will see up to 6,000 young people experience and explore the best of the UK countryside, in order to improve their well-being and to ensure that National Parks are valued, understood and cared for into the future.

For more information on the National Park Authority’s other school sessions visit www.pembrokeshirecoast.wales/education.

To book on behalf of your school email discovery@pembrokeshirecoast.org.uk or call 01646 624800. 

Bwrsariaeth deithio yn hwb i sesiwn ar blastig morol yn y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog ysgolion cynradd lleol i fanteisio ar fwrsariaeth deithio a fydd yn help iddynt gymryd rhan mewn diwrnod addysg newydd sy’n canolbwyntio ar blastig morol a’i effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r sesiwn newydd, Plastig yn y Môr, yn cynnwys gweithdy i gyflwyno’r pwnc, trip i weld arddangosfa’r Arfordir yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yng Nhyddewi a sesiwn ymarferol i ymchwilio i broblem plastig ar draeth gerllaw.

Dywedodd Tom Bean, Parcmon Addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’r sesiwn newydd hon i ysgolion yn ymateb i’r diddordeb brwd mewn dysgu mwy am sbwriel morol a throi’r fantol ar y mater.

“Mae arddangosfa’r Arfordir yn Oriel y Parc, sy’n cynnwys gwaith celf a sbesimenau naturiol o gasgliadau Amgueddfa Cymru, yn archwilio sut mae plastig wedi effeithio ar fywyd bob dydd ac mae’n disgrifio prosiect ar lygredd plastig gan Grŵp Fforwm Ieuenctid yr amgueddfa.

“Mae’r sesiwn yn addas fel cyflwyniad i blastig morol ac i ategu gwersi a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth.”

Dywedodd athrawes Cyfnod Allweddol Dau a aeth ar y trip gyda’i phlant: “Mwynhaodd y plant yr arddangosfa yn arbennig – rhoddodd gyfle unigryw iddynt i weld sut mae plastig wedi effeithio ar y bywyd gwyllt o gwmpas ein harfordir.

“Roedd y Parcmyn yn llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth wrth rannu’u profiadau nhw gyda’r plant. Denodd yr arddangosfa lawer o gwestiynau oddi wrth y disgyblion ac rydym wedi ymchwilio ymhellach iddynt yn ôl yn yr ysgol.”

Mae’r sesiwn undydd yn costio £4.50 y disgybl. Mae bwrsariaeth deithio o £100 ar gael fesul grŵp ysgol tuag at y costau cludiant, diolch i bartneriaeth rhwng Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a Forest Holidays.

Yn genedlaethol, bydd partneriaeth Forest Holidays yn gweld hyd at 6,000 o bobl ifanc yn profi ac archwilio’r gorau o gefn gwlad y Deyrnas Unedig, er mwyn gwella’u lles a sicrhau bod Parciau Cenedlaethol yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall ac y gofelir amdanynt i’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau eraill Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ysgolion ewch i www.arfordirpenfro.cymru/addysg.

I neilltuo lle ar ran eich ysgol, anfonwch ebost at discovery@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle