Hywel Dda Health Board: Health professionals say: don’t wait until it’s too late for flu protection / Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn dweud: peidiwch ag aros nes y bydd hi’n rhy hwyr i chi eich diogelu eich hun rhag y ffliw.

0
712

As influenza is now circulating in communities in West Wales, health professionals are reminding people that they can still protect themselves through vaccination. Of high concern locally is the fact that more people are beginning to be admitted to hospitals in the region with complications resulting from catching the flu.

Dr Joanne McCarthy, Consultant in Public Health Microbiology at Glangwili Hospital, Carmarthen said:

‘We are now seeing cases of flu in our hospitals and in the community across Hywel Dda. While most people are aware of the horrible symptoms flu itself can bring, many are not aware of the potentially fatal complications of flu.

During or following a bout of flu, secondary bacterial pneumonia can develop. We often see people becoming very unwell with pneumonia, with some requiring intensive care and sadly some not recovering. Additionally, the risk of having a heart attack is six times higher when a patient has flu compared to when they do not have the virus, a shocking statistic that really highlights just how serious flu can be.

Older people and those with chronic conditions are more likely to be affected by flu complications, and it is therefore essential that these individuals do all they can to protect themselves.’

Rhys Sinnett, from the Hywel Dda Public Health Team said:

‘The main type of flu circulating in Wales currently is influenza A(H1N1). The latest information suggests that it is well-matched to the vaccine strain and therefore significant protection is expected from the vaccine.

We know there have been supply issues of vaccine this year, but you can still obtain your vaccine from local pharmacies and in a number of areas direct from your GP. We are just at the start of the flu season and it is definitely not too late to get yourself protected!’

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn dweud: peidiwch ag aros nes y bydd hi’n rhy hwyr i chi eich diogelu eich hun rhag y ffliw.

Gan fod y ffliw bellach yn cylchredeg mewn cymunedau yng Ngorllewin Cymru, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn atgoffa pobl y gallant eu diogelu eu hunain o hyd trwy gael brechiad. Yr hyn sy’n bryder mawr yn lleol yw’r ffaith bod rhagor o bobl yn dechrau cael eu derbyn i ysbytai yn y rhanbarth o ganlyniad i gymhlethdodau sy’n deillio o ddal y ffliw.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Ymgynghorydd mewn Microbioleg Iechyd Cyhoeddus yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin: “Rydym bellach yn gweld achosion o ffliw yn ein hysbytai ac yn y gymuned ledled Hywel Dda. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o symptomau ofnadwy y ffliw, nid oes llawer yn ymwybodol o gymhlethdodau angheuol posibl y ffliw.

“Yn ystod neu yn dilyn pwl o’r ffliw, gall niwmonia bacterol eilaidd ddatblygu. Rydym yn aml yn gweld pobl yn mynd yn sâl iawn gyda niwmonia, a rhai yn gorfod cael gofal dwys, ac eraill, yn drist iawn, ddim yn gwella. Yn ychwanegol at hyn, mae’r perygl o gael trawiad ar y galon chwe gwaith yn uwch pan fydd gan glaf y ffliw na phan nad oes ganddo’r firws – ystadegyn brawychus sy’n tynnu sylw at ba mor ddifrifol yw’r ffliw.

“Mae cymhlethdodau’r ffliw yn fwy tebygol o effeithio ar bobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau cronig, ac felly mae’n hanfodol bod yr unigolion hyn yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w diogelu eu hunain.”

Dywedodd Rhys Sinnett, o Dîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda:

“Y prif fath o ffliw sy’n cylchredeg yng Nghymru ar hyn o bryd yw ffliw A(H1N1). Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu ei fod yn cydweddu’n dda â theip y brechlyn, ac felly disgwylir i’r brechlyn sicrhau diogelwch sylweddol.

“Gwyddom fod yna broblemau wedi bod eleni o ran cyflenwi’r brechlyn, ond gallwch ei gael o hyd o fferyllfeydd lleol ac, mewn sawl ardal, yn uniongyrchol gan eich meddyg teulu. Rydym ar drothwy tymor y ffliw ac, yn sicr, nid yw’n rhy hwyr i chi eich diogelu eich hun!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle