Making Tax Digital (MTD) Compliant for April 2019 – Farming Connect provides support and guidance for Welsh farm businesses ahead of the new legislation

0
839

Making Tax Digital (MTD) Compliant for April 2019 – Farming Connect provides support and guidance for Welsh farm businesses ahead of the new legislation

 

All farm and forestry businesses which have a taxable turnover that exceeds the VAT registration threshold of £85,000 per annum will need to keep their records digitally, using Making Tax Digital (MTD) functional compatible software, from 1 April 2019 onwards. 

 

This VAT registration threshold excludes the Basic Payment and any other agricultural grants or subsidies. All farmers reaching that threshold will need to either create their VAT return digitally using such software for return periods, or instruct an accountant or business adviser to undertake this on their behalf, from 1 April 2019 onwards.

 

The new legislation means this will be a non-negotiable challenge for thousands of UK businesses, as HMRC has made it clear that it is only in very rare circumstances that some businesses may be considered exempt.

 

For farm and forestry businesses registered with Farming Connect, help is at hand to explain what is needed, thanks to a series of Making Tax Digital (MTD) evening events delivered by Menter a Busnes, which will be provided at locations throughout Wales from early January onwards. All places must be booked in advance and each event will run from 7.30 pm to 9.30pm.

 

Eirwen Williams, director of rural programmes with Menter a Busnes, which delivers Farming Connect on behalf of the Welsh Government, explained that the two-hour sessions will be quite informal and include the opportunity for a Q&A.They will be delivered by a number of leading rural accountancy firms in Wales, all selected for their expertise in providing tax and financial advice on digital requirements for agricultural businesses.

 

“For many farmers and foresters, attending one of these events might be their first introduction to the new legislation, but our aim is to ensure that everyone attending leaves with a clear understanding what is required of them, through straightforward, easily understood presentations.

 

“Although many individuals will be understandably nervous of change, we hope that these events will give attendees the information they need to plan ahead and capitalise on the opportunities of digital financial management,” said Mrs. Williams.

 

Eirian Humphreys, a director of LHP chartered accountants in Carmarthen will deliver a tranche of events in South West Wales. 

 

Mr.Humphreys explained that it’s essential that any farm and forestry businesses who haven’t already moved over to online VAT systems, prepare for the new legislation as soon as they can. 

 

He emphasised that pleading age or disability, lack of computer skills or living in a geographic location without access to broadband will not exempt a business from the new legislation. MrHumphreys added that if for any reason they are unable to tackle this themselves, their accountants should be able to help them, provided they are conversant with the new legislation and have invested in the necessary software.    

 

“The switch from manual to digital record-keeping; changes to VAT return submission and challenging time frames for introducing the new software now essential for this ‘digital compliant’ legislation will be a challenge for many farmers, especially the less computer-literate ones.

 

“On a more positive note, many accountants in Wales are already working with farmers who have been operating digital tax systems for many years, inputting their own ‘real time’ data, and as we ourselves know from experience, these tend to be the most successful businesses,” said Mr. Humphreys. 

 

Many of the more progressive farmers in Wales are already conversant with MTD and freely admit that digital management has transformed the way they run their business. The system not only gives them instant access to their accounts but because banking data is fed in directly from banks, the information is always up to date. Digital ‘cloud’ accounting technology which MDT will rely upon, is acknowledged as being one of the most secure online systems in the world.

 

“Many clients say they wish the MTD system had been available years ago, because it’s enabling them to keep their costs down by giving them a much clearer understanding of their business which means they can benchmark where they stand financially on a quarterly, monthly or even daily basis,” said Mr Humphreys.

 

Farming Connect will also introduce a new fully-funded ICT training programme in the new year. Pitched at all levels of expertise, from complete IT novices to those with more experience, the new programme will help many individuals strengthen their skills as they not only gear up for the new digital legislation but learn how to modernise their business management systems. 

 

For further information on Farming Connect’s fully-funded ICT training programme, which includes training courses, together with optional home visits and workshops arranged throughout Wales, visit www.gov.wales/farmingconnect

 

For dates and locations of the Farming Connect ‘Making Tax Digital (MDT) events visit www.gov.wales/farmingconnect. All places must be booked in advance by calling the Farming Connect Service Centre on 08456 000 813. 

 

 

For further information about the new legislation, visit https://www.gov.uk/government/publications/making-tax-digital-how-vat-businesses-and-other-vat-entities-can-get-ready/making-tax-digital-how-vat-businesses-and-other-vat-entities-can-get-ready

 

 

South West:

Dyddiad Siaradwr Lleoliad
05/02/2019 Eirian Humphreys, LHP ClwbGolffPenrhos Golf Club, Llanrhystud, Aberystwyth, SY23 5AY
07/02/2019 Eirian Humphreys, LHP GwestyFfostrasol Arms, Llandysul, SA44 4SY
11/02/2019 Eirian Humphreys, LHP GwestyLamphey Court Royal Hotel, Llandyfai / Lamphey, Sir Benfro / Pembrokeshire, SA71 5NT
14/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Llwyngwair Manor, Trefdraeth / Newport, Sir Benfro / Pembrokeshire, SA42 0LX
19/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Clwb Rygbi Llanymddyfri / Llandovery Rugby Club, Church Bank Playing Fields, Llanymddyfri / Llandovery

Caerfyrddin / Carmarthenshire

SA20 0BA

21/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Gwesty’r Ivy Bush Hotel, 11 Stryd Spilman / Spilman Street, Caerfyrddin / Carmarthen, SA31 1LG

 

Mid and South East:

Dyddiad Siaradwr Lleoliad
06/02/2019 Joanna Roderick / Rebecca Saunders Jones – WJ James and Co Gwesty Brecon Castle Hotel, Castle Square, Aberhonddu / Brecon, LD3 9DB
12/02/2019 Nick Park – Green and Co Tafarn Hogshead Pub, Great Tredam, Llandeilo Gresynni / LlantilioCrossenny, Y Fenni / Abergavenny, NP7 8TA    
19/02/2019 Nick Park – Green and Co Gwesty a ChwbGolff St Mary’s Hotel and Golf Club, St Mary’s Hill, Pencoed, CF35 5EA
11/02/2019 Katie Powell – Whittingham Riddell Gwesty’r Elephant and Castle Hotel, Stryd Broad Street, Y Drenewydd / Newtown, SY16 2BQ  

 

Cydymffurfio â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) erbyn Ebrill 2019 – Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ac arweiniad i fusnesau fferm Cymru cyn y ddeddfwriaeth newydd

 

Bydd angen i bob busnes fferm a choedwigaeth sydd â throsiant trethadwy sy’n uwch na’r trothwy cofrestru ar gyfer TAW, sef £85,000 y flwyddyn, gadw eu cofnodion yn electronig, gan ddefnyddio meddalwedd weithredol sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), o 1 Ebrill 2019 ymlaen. 

 

Mae’r trothwy cofrestru TAW hwn yn eithrio’r Taliad Sylfaenol ac unrhyw gymorthdaliadau neu grantiau amaethyddol eraill.  Bydd angen i bob ffermwr sy’n cyrraedd y trothwy hwnnw naill ai creu eu ffurflen TAW yn ddigidol gan ddefnyddio meddalwedd o’r fath ar gyfer cyfnodau ffurflen, neu gyfarwyddo cyfrifydd neu gynghorydd busnes i wneud hyn ar eu rhan, o 1 Ebrill 2019 ymlaen.

 

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd hon yn her nad yw’n agored i drafodaeth ar gyfer miloedd o fusnesau yn y DU, oherwydd bod CThEM wedi mynegi’n glir mewn amgylchiadau prin iawn yn unig y gellir ystyried bod rhai busnesau wedi’u heithrio.

 

Ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth sydd wedi cofrestru â gwasanaeth Cyswllt Ffermio, mae help wrth law i esbonio’r hyn sydd ei angen, trwy gyfres o ddigwyddiadau gyda’r nos Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) wedi’u darparu gan gwmni Menter a Busnes, a gynhelir mewn lleoliadau ledled Cymru o ddechrau mis Ionawr ymlaen.  Mae’n rhaid archebu pob lle ymlaen llaw a bydd pob digwyddiad yn rhedeg o 7.30pm hyd 9.30pm.

 

Eirwen Williams yw cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru. Esboniodd y bydd y sesiynau dwy awr yn eithaf anffurfiol ac yn cynnwys y cyfle i gael sesiwn holi ac ateb.  Bydd nifer o gwmnïau cyfrifyddu gwledig blaenllaw yng Nghymru yn eu darparu, pob un wedi’i ddewis am ei arbenigedd wrth ddarparu cyngor treth ac ariannol am y gofynion digidol i fusnesau amaethyddol.

 

“Ar gyfer llawer o ffermwyr a choedwigwyr, efallai mai mynychu un o’r digwyddiadau hyn fydd eu cyflwyniad cyntaf i’r ddeddfwriaeth newydd, ond ein nod yw sicrhau y bydd pawb sy’n mynychu’n gadael â dealltwriaeth glir o’r hyn sydd ei angen ganddynt, trwy gyflwyniadau syml, hawdd eu deall.

 

“Er y bydd llawer o unigolion, yn ddealladwy, yn nerfus o ran newid, rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi i’r mynychwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio ymlaen llaw a manteisio ar gyfleoedd rheolaeth ariannol ddigidol,” meddai Mrs. Williams.

 

Bydd Eirian Humphreys, cyfarwyddwr cyfrifwyr siartredig LHP yng Nghaerfyrddin yn darparu cyfres o ddigwyddiadau yn Ne Orllewin Cymru. 

 

Esboniodd Mr. Humphreys ei bod yn hanfodol bod unrhyw fusnesau fferm a choedwigaeth nad ydynt eisoes wedi symud i systemau TAW ar-lein yn paratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd cyn gynted ag y gallant. 

 

Pwysleisiodd ni fydd pledio oed neu anabledd, diffyg sgiliau cyfrifiadur neu fyw mewn lleoliad daearyddol heb fynediad at fand eang yn golygu bod busnes wedi’i eithrio o’r ddeddfwriaeth newydd.   Ychwanegodd Mr. Humphreys os na fyddant yn gallu mynd i’r afael â hyn eu hunain am unrhyw reswm, yna dylai eu cyfrifwyr allu eu helpu, cyn belled â’u bod yn gyfarwydd â’r ddeddfwriaeth newydd ac wedi buddsoddi yn y feddalwedd ofynnol.    

 

“Bydd y newid o gadw cofnodion â llaw i ddigidol; newidiadau i gyflwyno ffurflenni TAW ac amserlenni heriol ar gyfer cyflwyno’r feddalwedd newydd, sydd bellach yn hanfodol ar gyfer y ddeddfwriaeth ‘sy’n cydymffurfio â digidol’ hon, yn her i lawer o ffermwyr, yn enwedig y rheiny sy’n llai hyddysg mewn cyfrifiadura.

 

“Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae llawer o gyfrifwyr yng Nghymru eisoes yn gweithio â ffermwyr sydd wedi bod yn gweithredu systemau treth digidol ers llawer o flynyddoedd, yn mewnbynnu eu data ‘amser real’ eu hunain, ac rydym yn gwybod o brofiad, mai’r rhain sy’n tueddu i fod y busnesau mwyaf llwyddiannus,” meddai Mr. Humphreys. 

 

Mae llawer o’r ffermwyr mwy blaengar yng Nghymru eisoes yn gyfarwydd â MTD ac yn cyfaddef yn rhwydd bod rheolaeth ddigidol wedi trawsnewid y ffordd maent yn rhedeg eu busnes.  Mae’r system yn rhoi mynediad ar unwaith iddynt at eu cyfrifon ac, oherwydd bod y data bancio’n cael ei fwydo’n uniongyrchol o fanciau, mae’r wybodaeth bob amser yn gyfredol.  Bydd MDT yn dibynnu ar dechnoleg cyfrifyddu ‘cwmwl’ digidol, a chydnabyddir bod y dechnoleg hon ymhlith y systemau ar-lein mwyaf diogel yn y byd. 

 

“Mae llawer o gleientiaid yn dweud eu bod yn dymuno y byddai’r system MTD wedi bod ar gael flynyddoedd yn ôl, oherwydd ei bod yn galluogi iddynt gadw eu costau i lawr trwy roi dealltwriaeth llawer cliriach o’u busnes iddynt, sy’n golygu y gallant feincnodi eu sefyllfa ariannol bob chwarter, mis neu ddiwrnod hyd yn oed,” meddai Mr. Humphreys.

 

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn cyflwyno rhaglen hyfforddi TGCh wedi’i hariannu’n llawn yn y flwyddyn newydd. Wedi’i hanelu at bob lefel o arbenigedd, o ddechreuwyr TG llawr i’r rheiny â mwy o brofiad, bydd y rhaglen newydd yn helpu llawer o unigolion i gryfhau eu sgiliau wrth iddynt baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth ddigidol newydd yn ogystal â dysgu sut i foderneiddio eu systemau rheoli busnes. 

 

I gael gwybodaeth bellach am raglen hyfforddiant TGCh Cyswllt Ffermio sydd wedi’i hariannu’n llawn, sy’n cynnwys cyrsiau hyfforddiant, ynghyd ag ymweliadau â’r cartref dewisol a gweithdai wedi’u trefnu ledled Cymru, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

 

I gael dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau Gwneud Treth yn Ddigidol (MDT) Cyswllt Ffermio ewch i www.gov.wales/farmingconnect.   Mae’n rhaid archebu pob lle ymlaen llaw trwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. 

 

 

I gael gwybodaeth bellach am y ddeddfwriaeth newydd, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/making-tax-digital-how-vat-businesses-and-other-vat-entities-can-get-ready/making-tax-digital-how-vat-businesses-and-other-vat-entities-can-get-ready

 

De Orllewin:

Dyddiad Siaradwr Lleoliad
05/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Clwb Golff Penrhos, Llanrhystud, Aberystwyth, SY23 5AY
07/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Gwesty Ffostrasol Arms, Llandysul, SA44 4SY
11/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Gwesty Brenhinol Lamphey Court, Llandyfai, Sir Benfro, SA71 5NT
14/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Llwyngwair Manor, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0LX
19/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Clwb Rygbi Llanymddyfri, Meysydd Chwarae Banc yr Eglwys, Llanymddyfri

Sir Gaerfyrddin

SA20 0BA

21/02/2019 Eirian Humphreys, LHP Gwesty’r Ivy Bush, 11 Stryd Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LG

 

 

 

 

 

Canolbarth a De Ddwyrain:

Dyddiad Siaradwr Lleoliad
06/02/2019 Joanna Roderick / Rebecca Saunders Jones – WJ James and Co Gwesty Brecon Castle, Sgwâr y Castell, Aberhonddu, LD3 9DB
12/02/2019 Nick Park – Green and Co Tafarn Hogshead, Treadam Fawr, Llandeilo Gresynni, Y Fenni, NP7 8TA    
19/02/2019 Nick Park – Green and Co Gwesty a Chwb Golff St Mary’s, St Mary’s Hill, Pencoed, CF35 5EA
11/02/2019 Katie Powell – Whittingham Riddell Gwesty’r Elephant and Castle, Stryd Llydan, Y Drenewydd, SY16 2BQ  

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle