Applications for funded childcare scheme now open to all areas/Cynllun gofal plant a ariennir ar agor i bob ardal

0
596

Applications for a funded early education and childcare scheme are now open to eligible parents across the whole of Neath Port Talbot.

Known as the ‘Childcare Offer Neath Port Talbot’, the scheme provides up to 30 hours a week of funded early education and childcare for eligible working parents of 3 to 4 year olds.

The Offer is available for up to 48 weeks of the year from the term after the child’s third birthday until the September following their fourth birthday or when they are offered a full-time education place. It includes 12.5 hours of early education and 17.5 hours of childcare each week during term time, and 30 hours of childcare per week for up to nine weeks of the school holidays.

To be eligible, parents must be living within Neath Port Talbot, have a child who is 3 or 4 years old, and earn on average a weekly minimum equivalent of 16 hours at national minimum wage or national living wage. Parents can apply to the scheme up to 12 weeks before their child is due to become eligible for the Offer.

If you are in a lone parent family you need to be working, and if you are in a two parent family you both need to be working. If you are self-employed or on a zero hours contract you need to be able to prove this by providing the relevant documents.

The scheme was initially launched last September to 14 pilot areas across Neath Port Talbot. To date, the scheme has received over 500 applications from parents, and over 100 childcare providers have registered to deliver the scheme.

Councillor Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture, said:

“The Childcare Offer helps us to support working parents through reducing the strain on family income and helping to ensure childcare is not a barrier to taking up employment.”

“The scheme also supports the Council’s commitment to give every child in Neath Port Talbot the best possible start in life through accessing early education.”

The Childcare Offer is funded by Welsh Government and delivered by Neath Port Talbot Council’s Family Information Service.

For further information and to apply for the Childcare Offer, visit www.nptfamily.com/childcareoffer.

Cynllun gofal plant a ariennir ar agor i bob ardal

Gall rhieni cymwys ledled Castell-nedd Port Talbot gyflwyno cais am gynllun addysg gynnar a gofal plant a ariennir erbyn hyn.

Mae’r cynllun, a adwaenir fel ‘Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot’, yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir i rieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant rhwng 3 a 4 oed.

Mae’r cynnig ar gael am hyd at 48 o wythnosau’r flwyddyn, o’r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed i’r mis Medi sy’n dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed neu pan gynigir lle mewn addysg amser llawn iddo. Mae’n cynnwys 12.5 awr o addysg gynnar ac 17.5 awr o ofal plant bob wythnos yn ystod y tymor, a 30 awr o ofal plant yr wythnos am naw wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i rieni fod yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chanddynt blentyn 3 neu 4 oed, ac mae’n rhaid iddynt fod yn ennill gyfwerth ag o leiaf 16 awr yr wythnos ar isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol. Gall rhieni gyflwyno cais am y cynllun hyd at 12 wythnos cyn i’w plentyn fod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Os ydych mewn teulu ag un rhiant, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio ac os ydych mewn teulu â dau riant, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch chi fod yn gweithio. Os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych ar gontract dim oriau, mae’n rhaid i chi fod yn gallu profi hyn drwy ddarparu’r dogfennau perthnasol.

Lansiwyd y cynllun i ddechrau fis Medi diwethaf mewn 14 o ardaloedd peilot yng Nghastell-nedd Port Talbot. Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi derbyn dros 400 o geisiadau gan rieni ac mae dros 90 o ddarparwyr gofal plant wedi cofrestru i gyflwyno’r cynllun.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,

“Mae’r cynnig gofal plant yn ein helpu i gefnogi rhieni sy’n gweithio drwy leihau’r straen ar incwm y teulu a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i gael cyflogaeth.”

“Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi ymrwymiad y cyngor i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy gael mynediad at addysg gynnar.”

Ariennir y Cynnig Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael mwy o wybodaeth ac i gyflwyno cais am y Cynnig Gofal Plant, ewch i http://www.nptfamily.com/childcareoffer?lang=cy-gb.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle