Help prevent snow problems in the Preseli Hills/Helpwch i atal problemau ym Mryniau’r Preseli yn ystod yr eira

0
467

With heavy snow forecast for Pembrokeshire, members of the public are being reminded of the simple steps they can take to ensure that litter and access issues can be avoided.

In previous years many items used for sledging have been left behind on farmers’ fields in the Preseli Hills, while vehicular access has been blocked when people flock to the area to enjoy the snow.

Pembrokeshire Coast National Park Authority Rangers will be erecting temporary signage in the area to indicate which areas of land are private and will also be liaising with local landowners.

National Park Authority Health and Tourism Policy Officer Hannah Buck said: “We do want people to get out and enjoy the National Park, but at the same time, in farming areas activities such as sledging can cause harm to animals, damage fencing and cause access problems for local people.

“People should take care not to damage fencing, gates and walls and be mindful when parking as blocking access can cause accidents, in addition to obstructing emergency services vehicles, farmers looking after livestock and local residents.

“Litter doesn’t just spoil the beauty of the countryside, it can be dangerous to wildlife and farm animals and can spread disease.”

For more advice on how to enjoy the National Park safely and responsibly, visit www.pembrokeshirecoast.wales.

Helpwch i atal problemau ym Mryniau’r Preseli yn ystod yr eira

 

Gyda’r rhagolwg ar gyfer Sir Benfro yn addo eira trwm, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hatgoffa o’r camau syml y gallant eu cymryd i sicrhau y gellir osgoi problemau sbwriel a mynediad.

 

Yn y blynyddoedd blaenorol, mae nifer o eitemau sledio wedi cael ei adael ar gaeau ffermwyr ar Fryniau’r Preseli, tra bod mynediad i gerbydau wedi cael ei atal pan fydd pobl yn heidio i’r ardal i fwynhau’r eira.

 

Bydd Parcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn codi arwyddion dros dro yn yr ardal i nodi pa dir sy’n breifat a byddant hefyd yn cysylltu â thirfeddianwyr lleol.

 

Dywedodd Hannah Buck Swyddog Polisi Iechyd a Thwristiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rydyn ni am i bobl fynd allan i fwynhau’r Parc Cenedlaethol, ond mewn ardaloedd ffermio mae gweithgareddau megis sledio yn gallu niweidio anifeiliaid, dinistrio ffensys ac achosi problemau hygyrchedd i bobl leol.

“Dylai pobl gymryd gofal i beidio dinistrio ffensys, gatiau a waliau, a bod yn wyliadwrus wrth barcio gan fod blocio mynediad achosi damweiniau, yn ogystal â rhwystro cerbydau gwasanaethau brys, ffermwyr sy’n gofalu am dda byw a thrigolion lleol.

“Mae sbwriel nid yn unig yn amharu ar brydferthwch cefn gwlad ond mae hefyd yn gallu bod yn beryglus i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm ac mae’n gallu lledaenu heintiau.”

Am ragor o gyngor ar sut i fwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel ac yn gyfrifol ewch i www.arfordirpenfro.cymru.​

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle