Really Wild Festival booking forms now available

0
641

A festival that celebrates all things inspired by nature and rural life is returning to St Davids on Saturday 25 and Sunday 26 May 2019.

The Really Wild Food and Countryside Festival will be held at Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre from 10am-5pm on both days of the Spring Bank Holiday weekend, returning to the site where the event originated in 2004.

Oriel y Parc’s Administration, Retail & Events Co-ordinator, Katie Murphy said: “The Really Wild Festival is a friendly, informal and fun event that brings together all that our countryside and wild places have to share with us, including produce, crafts and activities.

“To maintain the original ethos of the festival, the products on display or for sale will need to include ingredients from the wild or have a very close connection with the countryside.

“Application forms are now available for producers and businesses that wish to attend the event. Spaces will be allocated on a first come, first served basis. Please note the deadline for applications is 1 April 2019.”

The festival will be held in and around the Oriel y Parc grounds and will be free to enter.

Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre in owned and run by the Pembrokeshire Coast National Park Authority and is the home of Amgueddfa Cymru-National Museum Wales in Pembrokeshire.

For more information including booking forms for concessions and exhibitors visit www.orielyparc.co.uk/reallywild.

To discuss your application email reallywild@pembrokeshirecoast.org.uk or call 01437 720392.

Ffurflenni archebu ar gyfer yr Ŵyl Hynod Wyllt nawr ar gael

Mae’r ŵyl sy’n dathlu popeth a ysbrydolir gan fyd natur a bywyd gwledig yn dychwelyd i Dyddewi ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mai 2019.

Cynhelir yr Ŵyl Hynod Wyllt Bwyd a Chefn Gwlad (Really Wild Food and Countryside Festival) yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc rhwng 10am-5pm ar ddau ddiwrnod penwythnos Gŵyl Banc y Gwanwyn, a bydd yn dychwelyd i’r safle lle dechreuodd y digwyddiad yn 2004.

Dywedodd Katie Murphy, Cydlynydd Gweinyddu, Manwerthu a Digwyddiadau Oriel y Parc: “Mae’r Ŵyl Hynod Wyllt yn ddigwyddiad cyfeillgar, anffurfiol a llawn hwyl sy’n dwyn ynghyd bopeth sydd gan ein cefn gwlad a lleoedd gwyllt i’w rhannu gyda ni, gan gynnwys cynnyrch, crefftau a gweithgareddau.

“Er mwyn cynnal ethos gwreiddiol yr ŵyl, bydd yn rhaid i’r cynnyrch sy’n cael ei arddangos neu ei werthu gynnwys cynhwysion o’r gwyllt neu fod â chysylltiad agos iawn â chefn gwlad.

“Mae ffurflenni cais nawr ar gael i gynhyrchwyr a busnesau sy’n dymuno dod i’r digwyddiad. Bydd llefydd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin. Sylwch mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1 Ebrill 2019.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar dir Oriel y Parc a gerllaw, ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, ac yn eu rheoli, a dyma gartref Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys ffurflenni archebu ar gyfer consesiynau ac arddangoswyr ewch i www.orielyparc.co.uk/reallywild.

I drafod eich cais, anfonwch e-bost at reallywild@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01437 720392.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle