Clydach Community Council has released a new short film showcasing the attractions of this pleasant Swansea Valley village. Released to coincide with St. David’s Day celebrations, the film aims to highlight the range of work opportunities, amenities and leisure activities available to those living in the area. It also provides a glimpse of the natural beauty found throughout the Swansea Valley.
Chair of the Community Council, Matthew Bailey, said: “Clydach ward, which covers Clydach, Graigfelen and some of Glais, is a beautiful part of the Swansea Valley. By highlighting all that the area has to offer, the Community Council aims to promote the village to newcomers and increase villagers’ pride in their community.”
Commissioned by the Community Council and produced by local media company SgriptCyf., the film will be screened by businesses and amenities throughout the village. The film can also be seen on the Community Council’s new website, also launched today.
The Community Council’s new, bilingual website offers a one-stop-shop not only for council documents and business but also provides information and contact details for a variety of local groups, societies, clubs and facilities in Clydach, Glais and Graigfelen.
Visit the website to view the film and marvel at what Clydach has to offer: www.clydach.wales
Craffu ar Glydach –
Cyngor Cymuned yn hyrwyddo’i ardal yng Nghwm Tawe gyda ffilm a gwefan newydd
Mae Cyngor Cymuned Clydach wedi rhyddhau ffilm fer newydd sy’n arddangos rhai o atyniadau’r pentref hyfryd hwn yng Nghwm Tawe. Wedi’i ryddhau i gyd-fynd â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, mae’r ffilm yn ceisio amlygu yr ystod o gyfleoedd gwaith, cyfleusterau a gweithgareddau hamdden sydd ar gael i’r rhai sy’n byw yn yr ardal. Mae hefyd yn rhoi cipolwg ar y harddwch naturiol sydd i’w weld ledled Cwm Tawe.
Meddai Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Matthew Bailey: “Mae ward Clydach, sy’n cwmpasu Clydach, Graigfelen a rhan o’r Glais, yn ardal hardd o Gwm Tawe. Drwy dynnu sylw at yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig, mae’r Cyngor Cymuned yn anelu at hyrwyddo’r pentref i newydd-ddyfodiaid a chynyddu balchder y pentrefwyr yn eu cymuned.”
Comisiynwyd y ffilm gan y Cyngor Cymuned a’i chynhyrchu gan gwmni cyfryngau lleol, Sgript Cyf. Bydd y ffilm yn cael ei dangos gan fusnesau a chyfleusterau ledled y pentref a gellir ei gweld ar wefan newydd y Cyngor Cymuned, a lansiwyd heddiw hefyd.
Mae gwefan ddwyieithog newydd y Cyngor Cymuned yn cynnig siop un-stop nid yn unig ar gyfer dogfennau a busnes y cyngor ond mae hefyd yn darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer amrywiaeth o grwpiau, cymdeithasau, clybiau a chyfleusterau yng Nghlydach, Glais a Graigfelen.
Ewch i’r wefan er mwyn gweld y ffilm a rhyfeddu at yr oll sydd gan Clydach i’w gynnig: www.clydach.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle