Hywel Dda launches 90-day countdown to Welsh Language Standards/Hywel Dda yn lansio ymgyrch ddynesu 90 diwrnod tuag at Safonau’r Gymraeg

0
643

Hywel Dda University Health Board is today (1 March 2019) launching a 90-day countdown campaign to ensure all of our staff are familiar with the new Welsh Language Standards ahead of their introduction on 30 May 2019.

We’re asking all of our staff to get ready and to familiarise themselves with the statutory duties that the new Standards will bring, and our responsibilities as a health board to ensure we provide excellent bilingual services to all.

The introduction of the Standards means that, from [30 May 2019], health boards must follow other public bodies in giving equal prominence to both the Welsh and English languages, as well as promoting and facilitating the use of the Welsh language, making it easier for people to use in their day-to-day-life.

The Standards aim to make it clear to organisations what their duties are in relation to the Welsh language; make it clearer to Welsh speakers about the services they can expect to receive in Welsh, make Welsh language services more consistent and improve their quality, ensuring important messages are reaching patients in their first language and making people feel more valued.

Enfys Williams, Welsh Language Services Manager at Hywel Dda, said: “Here at Hywel Dda we acknowledge and celebrate that in our communities in West Wales, we have a high proportion of our population – whether patients, service users or carers – who wish to, and have a need to, communicate with the health service using their first language through the medium of Welsh.

“It is important that our Welsh speaking population feel confident to use Welsh as an ordinary part of everyday life. They should be able to do so in all manner of formal and informal situations, and Welsh language services should be accessible and of a high standard so people are able to use them as easily as possible.”

Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda University Health Board, added: “The Welsh Language Standards are nearly upon us and I’d like to set out very clearly that these are everyone’s responsibility, as the Welsh language needs to have parity with the English language across all of our services.

“The standards are also very clear that people have a right to receive their care and live day-to-day in the language of their choosing, and I would remind all of our staff that in the work you do every day communication is so important to us and to be able to do that in the language you choose goes to the heart of what it is to be in the NHS.”

Follow the link for more information and to access the health board’s compliance notice: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/97834

Hywel Dda yn lansio ymgyrch ddynesu 90 diwrnod tuag at Safonau’r Gymraeg

Heddiw, (1 Mawrth), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio ymgyrch ddynesu 90 diwrnod i sicrhau bod ein holl staff yn gyfarwydd â Safonau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, a hynny cyn iddynt gael eu cyflwyno ar 30 Mai 2019.

Rydym yn gofyn i’n holl staff ymbaratoi ac ymgyfarwyddo â’r dyletswyddau statudol a ddaw yn sgil y Safonau newydd, ynghyd â’n cyfrifoldebau, fel bwrdd iechyd, i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol i bawb.

Trwy gyflwyno’r Safonau, mae’n golygu y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd, o [30 Mai 2019] ymlaen, roi amlygrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, fel ei gilydd, yn ogystal â hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywyd bob dydd.

Nod y Safonau yw egluro i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg; egluro i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg; sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn fwy cyson, a gwella eu hansawdd, gan sicrhau bod negeseuon pwysig yn cyrraedd cleifion yn eu mamiaith a bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fwy.

Dywedodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg yn Hywel Dda: “Yma yn Hywel Dda, rydym yn cydnabod ac yn dathlu bod yna gyfran uchel o’r boblogaeth yn ein cymunedau yng Ngorllewin Cymru – boed y rheiny’n gleifion, yn ddefnyddwyr gwasanaethau neu’n ofalwyr – sy’n dymuno cyfathrebu â’r gwasanaeth iechyd gan ddefnyddio eu mamiaith trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod ar yr unigolion hynny angen gwneud hyn.

“Mae’n bwysig bod ein poblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhan arferol o’u bywyd bob dydd. Dylent fod yn gallu gwneud hynny mewn pob math o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, a dylai gwasanaethau cyfrwng Cymraeg fod yn hygyrch ac o safon uchel, fel y gall pobl eu defnyddio mor rhwydd â phosibl.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Safonau’r Gymraeg born â chyrraedd, a hoffwn nodi’n glir iawn fod y rhain yn gyfrifoldeb i bawb, gan fod angen i’r Gymraeg fod yn gydradd â’r Saesneg ledled ein holl wasanaethau.

“Mae’r Safonau hefyd yn nodi’n glir iawn fod gan bobl yr hawl i gael eu gofal ac i fyw o ddydd i ddydd yn eu hiaith ddewisol, a hoffwn atgoffa ein holl staff fod cyfathrebu mor bwysig i ni yn y gwaith a wnewch bob dydd, a bod y gallu i wneud hynny yn yr iaith a ddewiswch wrth galon yr hyn y mae bod yn y GIG yn ei olygu.”

Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth ac i ddarllen yr hysbysiad cydymffurfio: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/97835


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle