‘Midwife calling’ – Hywel Dda to receive special delivery of new standardised home birth bags / ‘Bydwraig yn galw’ – Hywel Dda i gael bagiau safonol newydd ar gyfer geni yn y cartref

0
747
Call the Midwife’ stars Linda Bassett and Leonie Elliott (Nurse Phyllis Crane and Nurse Lucille Anderson) with Lynn Hurley, Lead Midwife for Community and Midwife Led Units

Community midwives across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire will be taking part in a national trial of home delivery bags thanks to charity Baby Lifeline.

Hywel Dda University Health Board is the only Welsh health board to have been selected for this pilot.

Lynn Hurley, Lead Midwife for Community and Midwife Led Units for Hywel Dda said: “We are very excited to be a part of the trial and it is particularly significant as we are the only Welsh health board taking part.

“We were selected to due to the large land mass that we cover and because of our home delivery rate.

“Our community midwives look forward to having new and standardised bags in order to promote a safe and high quality service for both mothers and midwives, and myself and midwifery colleague Rebecca Johnson have worked hard to ensure that this standard is achieved through our work with Baby Lifeline.

“On behalf of the health board I’d like to thank Baby Lifeline for enabling us to take part in this trial which I hope is eventually rolled out across Wales.”

Stars of the BBC’s popular show ‘Call the Midwife’ Linda Bassett and Leonie Elliott (Nurse Phyllis Crane and Nurse Lucille Anderson) launched the home delivery bags in London on Friday March 1 and Lynn was invited to attend this special event.

Mother and baby charity Baby Lifeline provides ongoing training for maternity healthcare professionals, including midwives and paramedics who may attend births outside hospitals. Over the past two years Baby Lifeline has trained over 1,000 community midwives across the UK. Its expert professionals of frontline midwives, paramedics and obstetricians came to realise that there was an urgent need to standardise equipment carried by midwives to births in the community, as well as the processes to keep the equipment and supplies up to date.

Baby Lifeline Founder and Chief Executive Judy Ledger said: “Baby Lifeline provides specialist emergency training to community midwives and paramedics. From the training provided, frontline community midwives reiterated the same thing that nationally, there is no standardisation in what equipment is carried to community births.

“We are working very closely with community midwifery teams from six NHS Trusts to trial Baby Lifeline approved bags to demonstrate the value of standardisation. What’s very important is that we’ve also developed the right processes to make sure the contents are replenished and kept up to date. Our dedicated health professionals have total confidence the trial will be a success, and they hope that other NHS Trusts across the country will adopt these bags.”

An expert working group has developed a rucksack style bag with adjustable straps and optional wheels. It is compartmentalised and colour coded to make it easier to identify equipment quickly. The bag includes everything from scissors to cut the cord, to a hat and towels to dry and warm the new born baby, as well as equipment for emergencies that, although rare, can occur.

Starting in April 2019, 42 of these bags will be trialled by frontline midwives across the UK.

Bydwraig yn galw’ – Hywel Dda i gael bagiau safonol newydd ar gyfer geni yn y cartref

Bydd bydwragedd cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cymryd rhan mewn treial cenedlaethol i fagiau geni yn y cartref, diolch i’r elusen, Baby Lifeline.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r unig fwrdd iechyd yng Nghymru i gael ei ddewis ar gyfer y peilot hwn.

Dywedodd Lynn Hurley, Bydwraig Arweiniol ar gyfer Unedau Cymunedol ac Unedau dan Arweiniad Bydwragedd ar gyfer Hywel Dda: “Rydym wedi’n cyffroi o gael bod yn rhan o’r treial, ac mae’n arbennig o arwyddocaol gan mai ni yw’r unig fwrdd iechyd o Gymru sy’n cymryd rhan.

“Cawsom ein dewis o ganlyniad i’r ardal fawr o dir yr ydym yn ei gwasanaethu ac oherwydd ein cyfradd genedigaethau yn y cartref.

“Mae ein bydwragedd cymunedol yn edrych ymlaen at gael bagiau safonol newydd, er mwyn hybu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel ar gyfer mamau a bydwragedd, fel ei gilydd. Rydw i a’m cydweithwraig ym maes bydwreigiaeth, Rebecca Johnson, wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y safon hon yn cael ei chyflawni trwy ein gwaith gyda Baby Lifeline.

“Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn ddiolch i Baby Lifeline am ein galluogi i gymryd rhan yn y treial hwn. Y gobaith yw y bydd y treial yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru yn y pen draw.”

Lansiwyd y bagiau geni yn y cartref yn Llundain ar (Mawrth 1) gan sêr sioe boblogaidd y BBC, Call the Midwife, Linda Bassett a Leonie Elliott (Nyrs Phyllis Crane a Nyrs Lucille Anderson), a gwahoddwyd Lynn i fod yn bresennol yn y digwyddiad arbennig hwn.

Mae’r elusen ar gyfer mamau a babanod, Baby Lifeline, yn darparu hyfforddiant parhaus ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys bydwragedd a pharafeddygon sy’n cael eu galw i enedigaethau y tu allan i ysbytai. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Baby Lifeline wedi hyfforddi dros 1,000 o fydwragedd cymunedol ledled y Deyrnas Unedig. Sylweddolodd ei weithwyr proffesiynol arbenigol, yn eu plith bydwragedd rheng flaen, parafeddygon ac obstetregwyr, fod yna angen brys i safoni’r offer y mae bydwragedd yn cario gyda nhw i enedigaethau yn y gymuned, yn ogystal â’r prosesau i gadw’r offer a’r cyflenwadau yn gyfredol.

Dywedodd Sefydlydd a Phrif Weithredwr Baby Lifeline, Judy Ledger: “Mae Baby Lifeline yn darparu hyfforddiant brys arbenigol i fydwragedd cymunedol a pharafeddygon. Yn sgil yr hyfforddiant a ddarperir, dywedodd bydwragedd cymunedol y rheng flaen yr un peth, sef nad oes yna safon yn genedlaethol o ran pa offer sy’n cael ei gario i enedigaethau yn y gymuned.

“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda thimoedd bydwragedd cymunedol o chwe Ymddiriedolaeth GIG i dreialu bagiau a gymeradwyir gan Baby Lifeline, a hynny er mwyn amlygu gwerth safoni. Yr hyn sy’n bwysig iawn yw ein bod hefyd wedi datblygu’r prosesau cywir i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei ailgyflenwi a’i gadw’n gyfredol. Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwbl hyderus y bydd y treial yn llwyddiannus, ac maent yn gobeithio y bydd Ymddiriedolaethau GIG eraill ledled y wlad yn mabwysiadu’r bagiau hyn.”

Mae gweithgor arbenigol wedi datblygu bag ar ffurf sach deithio, ac iddo strapiau y gellir eu haddasu ac olwynion dewisol. Mae’n cynnwys adrannau a chodau lliw er mwyn hwyluso’r gwaith o adnabod yr offer yn gyflym. Mae’r bag yn cynnwys popeth o siswrn i dorri llinyn y bogail, i het a thywelion i sychu a chynhesu’r baban newydd anedig, yn ogystal â chyfarpar ar gyfer achosion brys, sydd, er eu bod yn brin, y gallu codi.

Gan ddechrau ym mis Ebrill 2019, bydd 42 o’r bagiau hyn yn cael eu treialu gan fydwragedd rheng flaen ledled y Deyrnas Unedig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle