Pupils visit South Wales Police to taste how far training has evolved in 50th anniversary celebrations

0
598

Pupils from Brynmenyn Primary School, Bridgend, recently visited South Wales Police to experience elements of police training first hand, and to compare how far training has come in the 50 years since the Force was established.

Officers offered the year six pupils a range of activities that highlighted what it takes to complete the initial police training programme at South Wales Police, and compared it to elements of policing from 50 years ago.

Pupils observed current recruits receiving their Officer Safety and Taser Training and had the opportunity to ask current recruits questions. They also took part in a fitness beep test and were able to try on police uniform and kit. They watched a demonstration with the police dogs and mounted section with the day rounded off with a tour of the South Wales Police Heritage Centre where they looked back at how officers were trained 50 years ago and beyond.

The school visit forms part of South Wales Police 50th Anniversary events to be held throughout  2019. In June 1969, the predecessor forces of Merthyr Tydfil, Glamorgan, Swansea, and Cardiff came together and a new force came into being. From that day, South Wales Police, or South Wales Constabulary as it was known initially, has grown to become one of the best performing forces in the country.

Chief Constable Matt Jukes said,

“Throughout 2019, we will be taking a good look back at the past five decades, celebrating our achievements over the years and each month focusing on a different theme. This month is learning and development. We hope our 50th will provide opportunities such as this for our communities to get involved, and to take a look behind the scenes at the work we do today.

South Wales Police has an extremely rich history and one we are proud to share with the communities we serve.”

Mrs Dale, Headteacher at Brynmenyn School said,

“Our pupils thoroughly enjoyed their visit to South Wales Police. As year 6 pupils with Secondary school around the corner it is good opportunity to get them thinking about their futures and career paths in a fun and creative way.

They particularly enjoyed their visit to the South Wales Police Heritage Centre and looking at how far policing and training has evolved in 50 years history and of course meeting Reuben the horse and Wilson the dog.”

Disgyblion yn ymweld â Heddlu De Cymru i weld cymaint y mae hyfforddiant wedi newid yn y dathliadau hanner canmlwyddiant

Yn ddiweddar, gwnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr ymweld â Heddlu De Cymru i brofi elfennau o hyfforddiant yr heddlu yn uniongyrchol, ac i weld cymaint y mae’r hyfforddiant wedi datblygu ers sefydlu Heddlu De Cymru 50 mlynedd yn ôl.

Cynigiodd y swyddogion amrywiaeth o weithgareddau i ddisgyblion blwyddyn chwech a oedd yn dangos yr hyn yr oedd ei angen i gwblhau rhaglen hyfforddiant cychwynnol Heddlu De Cymru, a chymharu hynny ag elfennau plismona 50 mlynedd yn ôl.

Gwyliodd y disgyblion recriwtiaid presennol yn cael Hyfforddiant Diogelwch Swyddogion a Hyfforddiant Taser a chawsant gyfle i ofyn cwestiynau i’r recriwtiaid presennol. Gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn prawf ffitrwydd beep a chawsant gyfle i wisgo lifrai a chit yr heddlu. Gwnaethant wylio arddangosiad gyda chŵn yr heddlu a cheffylau’r heddlu a daeth y diwrnod i ben gyda thaith o amgylch Canolfan Dreftadaeth Heddlu De Cymru, lle roedd y disgyblion wedi edrych yn ôl ar y ffordd yr oedd swyddogion yn cael eu hyfforddi hanner canrif yn ôl a thu hwnt.

Mae’r ymweliad ysgol yn rhan o’r digwyddiadau a gynhelir drwy gydol 2019 i ddathlu Hanner Canmlwyddiant Heddlu De Cymru. Ym mis Mehefin 1969, daeth heddluoedd rhagflaenol Merthyr Tudful, Morgannwg, Abertawe a Chaerdydd at ei gilydd a sefydlwyd heddlu newydd. O’r diwrnod hwnnw, mae Heddlu De Cymru, neu Gwnstabliaeth De Cymru fel y’i gelwid yn wreiddiol, wedi tyfu i fod yn un o’r heddluoedd sy’n perfformio orau yn y wlad.  

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Matt Jukes,

“Drwy gydol 2019, byddwn yn edrych yn ôl dros y pum degawd diwethaf, gan ddathlu ein cyflawniadau dros y blynyddoedd. Byddwn yn canolbwyntio ar thema wahanol bob mis. Dysgu a datblygu sydd dan sylw y mis hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dathliadau yn hanner cant yn darparu cyfleoedd fel hyn i’n cymunedau gymryd rhan, a chymryd cipolwg y tu ôl i’r llenni ar y gwaith rydym yn ei wneud heddiw.

Mae gan Heddlu De Cymru hanes cyfoethog iawn ac rydym yn falch iawn o’i rannu gyda’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Dywedodd Mrs Dale, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynmenyn,

“Roedd ein disgyblion wir wedi mwynhau eu hymweliad â Heddlu De Cymru. Fel disgyblion blwyddyn 6 sydd ar fin symud ymlaen i’r ysgol uwchradd, mae’n gyfle da i’w hannog i ystyried eu dyfodol a’u llwybrau gyrfa mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

Roeddent wedi mwynhau ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Heddlu De Cymru yn benodol, gan edrych ar gymaint mae plismona a hyfforddiant wedi datblygu mewn 50 mlynedd ac, wrth gwrs, cyfarfod â Reuben y ceffyl a Wilson y ci.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle