Over 500 parents are now accessing the Childcare Offer scheme/Dros 500 o rieni’n elwa bellach o’r cynllun gofal plant

0
586

Over 500 working parents across Neath Port Talbot are now accessing an early education and childcare scheme.

The Neath Port Talbot Childcare Offer provides up to 30 hours a week of funded early education and childcare for eligible working parents of 3 to 4 year olds.

Since the scheme was launched last September, over 500 parents have had their applications approved, and over 100 childcare providers have registered to deliver the scheme.

The Offer is available for up to 48 weeks of the year from the term after the child’s third birthday until the September following their fourth birthday or when they are offered a full-time education place. It includes 12.5 hours of early education and 17.5 hours of childcare each week during term time, and 30 hours of childcare per week for up to nine weeks of the school holidays.

Councillor Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture, said:

“The Childcare Offer helps us to support working parents through reducing the strain on family income and helping to ensure childcare is not a barrier to taking up employment.”

“The scheme also supports the Council’s commitment to give every child in Neath Port Talbot the best possible start in life through accessing early education.”

“I would encourage all eligible parents to find out more about the scheme and how to apply by visiting our website.”

To be eligible, parents must be living within Neath Port Talbot, have a child who is 3 or 4 years old, and earn on average a weekly minimum equivalent of 16 hours at national minimum wage or national living wage. Parents can apply to the scheme up to 12 weeks before their child is due to become eligible for the Offer.

If you are in a lone parent family you need to be working, and if you are in a two parent family you both need to be working. If you are self-employed or on a zero hours contract you need to be able to prove this by providing the relevant documents.

The Childcare Offer is funded by Welsh Government and delivered by Neath Port Talbot Council’s Family Information Service.

Dros 500 o rieni’n elwa bellach o’r cynllun gofal plant

Mae dros 500 o rieni sy’n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot yn elwa o gynllun gofal plant addysg gynnar.

Mae cynnig gofal plant Castell-nedd Port Talbot yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu i rieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio ac sy’n gymwys ar gyfer y cynllun.

Ers lansio’r cynllun fis Medi diwethaf, cymeradwywyd ffurflenni cais dros 500 o rieni, ac mae dros 100 o ddarparwyr gofal plant wedi cofrestru i gyflwyno’r cynllun.

Mae’r cynnig ar gael am hyd at 48 wythnos y flwyddyn o’r tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn dair oed tan y mis Medi’n dilyn ei bedwerydd pen-blwydd neu pan gaiff lle addysg amser llawn ei gynnig iddo. Mae’n cynnwys 12.5 awr o addysg gynnar ac 17.5 awr o ofal plant bob wythnos yn ystod y tymor, a 30 awr o ofal plant yr wythnos am hyd at naw wythnos o’r gwyliau ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,

“Mae’r cynnig gofal plant yn ein helpu i gefnogi rhieni sy’n gweithio drwy leihau’r baich ar incwm teuluol a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i dderbyn cyflogaeth.”

“Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi ymrwymiad y cyngor i roi’r dechrau gorau posib i bob plentyn yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy roi mynediad at addysg gynnar iddynt.

“Hoffwn annog yr holl rieni cymwys i gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i gyflwyno cais drwy ymweld â’n gwefan.

I fod yn gymwys, rhaid bod rhieni’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot a bod ganddynt blentyn sy’n 3 neu’n 4 oed, ac yn ennill ar gyfartaledd swm wythnosol sydd o leiaf gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol. Gall rhieni gyflwyno cais i’r cynllun hyd at 12 wythnos cyn i’w plentyn ddod yn gymwys ar gyfer y cynnig.

Os ydych yn deulu rhiant sengl, rhaid eich bod yn gweithio, ac os ydych yn deulu dau riant, rhaid bod y ddau ohonoch yn gweithio. Os ydych yn hunangyflogedig neu ar gontract dim oriau, bydd angen i chi brofi hyn drwy ddarparu’r dogfennau perthnasol.

Ariennir y cynnig gofal plant gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth a chyflwyno cais am y cynnig gofal plant, ewch iwww.nptfamily.com/childcareoffer.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle