Welsh Government: £12m programme to transform delivery of health, care and support in West Wales | Llywodraeth Cymru: Prosiect gwerth £12m i drawsnewid y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gorllewin

0
598

Health Secretary, Vaughan Gething has announced £12m for an ambitious programme to modernise and improve health and social care in West Wales.

The money will support a range of initiatives that shift services from hospital to people’s homes and communities making it easier for people to access the care they need, stay well and keep their independence.

Led by the Regional Partnership Board, the West Wales programme is the latest to receive funding from the Welsh Government’s £100m Transformation Fund. The Fund has been created to support key actions from the Welsh Government’s long term plan for health and social care, A Healthier Wales.

The programme includes:

  • New use of technology to enable monitoring of individuals with health conditions, or at risk of developing them, within their homes.  Helping people look after themselves, reducing isolation and  providing rapid wrap-around support within communities on a 24/7 basis
  • Bringing services together, speeding up plans to offer health, social care and other support from one place closer to home
  •  Building community resilience, improving access to activities that help people feel involved, safe and fulfilled in their neighbourhoods.

Mr Gething said: “With an increase in life expectancy and our continued public health challenges, our health and social care services will face even greater demand in the future. In order to meet that demand we need to truly transform the way we deliver care in the future.

This will require better integration of health, social services and the third sector to deliver care closer to home and reduce pressure on hospitals. A Healthier Wales sets out how can achieve this and our Transformation Fund will deliver that vision by funding projects that have potential to scale up to be used across Wales.”

Chair of West Wales Regional Partnership Board Councillor Jane Tremlett said: “We are delighted to have been awarded this investment and opportunity to deliver further integration between health and care in our region for the benefit of our communities. Our initial three projects will focus on technology, strengthened integration and more community based support to make a real difference in people’s lives.

We are confident that each of these areas will not only benefit citizens in our area but could potentially lead change across Wales and further afield. We are keen also to develop other areas of regional work through development of staff and other partners to maximise social value and to engage meaningfully with our citizens.”

Notes to Editors

The following organisations and representatives make up the West Wales Partnership Board:
Hywel Dda University Health Board
Ceredigion County Council
Pembrokeshire County Council
Carmarthenshire County Council
Ceredigion Association of Voluntary Organisations (for the three CVCs in West Wales)
Social Care Wales
Care Forum Wales
User and Carer representatives

Prosiect gwerth £12m i drawsnewid y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gorllewin

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £12m ar gyfer prosiect i foderneiddio a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gorllewin.

Bydd yr arian yn cefnogi amrywiaeth o fentrau sy’n symud gwasanaethau o’r ysbyty i gartrefi a chymunedau pobl gan ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt, aros yn iach a chadw eu hannibyniaeth.

Dan arweiniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, y prosiect hwn yw’r diweddaraf i gael cyllid o Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy’n gronfa o £100m. Crëwyd y Gronfa i gefnogi camau gweithredu allweddol yng nghynllun iechyd a gofal cymdeithasol tymor hir Llywodraeth Cymru, sef Cymru Iachach.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Defnydd newydd o dechnoleg i alluogi monitro unigolion sydd â chyflyrau iechyd, neu mewn perygl o’u datblygu, yn eu cartrefi.  Helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain, gan leihau arwahanrwydd a darparu cefnogaeth cofleidiol gyflym o fewn cymunedau ar sail 24/7
  • Dod â gwasanaethau at ei gilydd, cyflymu cynlluniau i gynnig iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth arall o un lle yn nes at gartref
  •  Meithrin gwydnwch cymunedau, gwella mynediad i weithgareddau sy’n helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, yn ddiogel ac yn cael boddhad yn eu cymdogaethau.

Dywedodd Mr Gething: “Gyda disgwyliad oes yn codi a heriau iechyd y cyhoedd yn parhau, bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu mwy o alw fyth arnynt yn y dyfodol. Er mwyn diwallu’r galw hwnnw, mae’n rhaid i ni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gofal yn y dyfodol.

Bydd angen integreiddio iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector yn well i ddarparu gofal yn agosach i gartrefi a lleihau’r pwysau ar ysbytai. Mae Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn a bydd ein Cronfa Trawsnewid yn cyflawni’r weledigaeth honno drwy ariannu prosiectau sydd â’r potensial i ehangu a chael eu defnyddio ym mhob rhan o Gymru.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Jane Tremlett: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y buddsoddiad hwn a’r cyfle i sicrhau rhagor o integreiddio rhwng iechyd a gofal yn ein rhanbarth er budd ein cymunedau. Bydd ein tri phrosiect cychwynnol yn canolbwyntio ar dechnoleg, integreiddio cryfach a mwy o gymorth yn y gymuned i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Rydym yn hyderus y bydd pob un o’r ardaloedd hyn nid yn unig o fudd i ddinasyddion yn ein hardal ond y gallent o bosibl arwain newid ledled Cymru a thu hwnt. Rydym hefyd yn awyddus i ddatblygu meysydd eraill o waith rhanbarthol drwy ddatblygu staff a phartneriaid eraill i sicrhau’r gwerth cymdeithasol mwyaf ac i ymgysylltu’n ystyrlon â’n dinasyddion.”

Nodyn i Olygyddion

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cynnwys y sefydliadau a’r cynrychiolwyr a ganlyn:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Caerfyrddin
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
Cyngor Gofal Cymru
Fforwm Gofal Cymru
Cynrychiolwyr Defnyddwyr a Gofalwyr


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle