Illegal felling of protected trees highlighted by Park Authority signs/Arwyddion Awdurdod y Parc yn tynnu sylw at dorri coed gwarchodedig yn anghyfreithlon

0
640

The Pembrokeshire Coast National Park Authority has resorted to the unprecedented step of erecting two temporary information signs on land at Upper Burrows in Freshwater East where protected trees were felled and abandoned.

In 2017 more than 30 trees in a woodland protected by a Tree Preservation Order (TPO) and owned by the Authority and a local resident, were illegally cut down.

Park Authority Director of Park Direction and Planning, Jane Gibson said: “This is the worst breach of a TPO I have encountered, with felling on land that didn’t belong to the perpetrator, and the Authority is left to undertake remedial work to selectively clear, coppice and replant the site at significant cost.”

Park Authority Countryside Manager (South) Tim Jones said: “Nobody would have commissioned such work unless they stood to benefit from it, and the police are continuing to investigate, but we need more evidence.

“The bilingual advertisement will highlight the criminal act at the site of the felling in the Upper Burrows area of Freshwater East and will provide details of the £1,000 reward for information.

“If you know who might have done this or commissioned the work, please contact Dyfed-Powys Police on 101 or the Authority on 01646 624800.”

For more information on trees in Pembrokeshire Coast National Park, including an interactive map of TPOs, please visit www.pembrokeshirecoast.wales/trees.

Arwyddion Awdurdod y Parc yn tynnu sylw at dorri coed gwarchodedig yn anghyfreithlon

Am y tro cyntaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi penderfynu codi dau arwydd dros dro ar dir yn Upper Burrows yn Freshwater East lle cafodd coed gwarchodedig eu torri a’u gadael.

Yn 2017, cafodd mwy na 30 o goed a oedd yn cael eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed ac a oedd yn eiddo i’r Awdurdod ac un o drigolion yr ardal, eu torri i lawr yn anghyfreithlon.

Dywedodd Jane Gibson, Cyfarwyddwr Cyfeiriad a Chynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Dyma’r achos gwaethaf o dorri Gorchymyn Diogelu Coed i mi ei weld erioed, gan fod y coed wedi cael eu torri ar dir nad oedd yn eiddo i’r troseddwr a gan fod yr Awdurdod yn gorfod gwneud gwaith adfer i glirio, prysgoedio ac ailblannu’r safle am gost sylweddol.”

Dywedodd Tim Jones, Rheolwr Cefn Gwlad Awdurdod y Parc (De): “Ni fyddai neb wedi comisiynau gwaith o’r fath oni bai y byddent yn elwa’n ariannol ar hynny, ac mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio, ond mae angen mwy o dystiolaeth arnom.

“Bydd yr hysbyseb dwyieithog yn tynnu sylw at drosedd a ddigwyddodd ar y safle, sef torri coed yn ardal Upper Burrows o Freshwater East, a bydd yn darparu manylion y wobr o £1,000 am wybodaeth.

“Os ydych chi’n gwybod pwy allai fod wedi gwneud hyn neu fod wedi comisiynu’r gwaith, ffoniwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu’r Awdurdod ar 01646 624800.”

I gael rhagor o wybodaeth am goed ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan gynnwys map rhyngweithiol o’r Gorchmynion Diogelu Coed, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/trees.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle