Choosing your health services this Easter| Dewis eich gwasanaethau iechyd y Pasg hwn

0
592

Doctors and nurses are urging local people to add health into their list of spring clean jobs this Easter.

Staff at Hywel Dda University Health Board are reminding people of the need to think early about repeat prescriptions, and opening hours of GP surgeries and community pharmacies as we approach the Easter Holidays.

And choosing well when you need health advice or support – by using NHS Direct or visiting your pharmacy – can have a hugely positive impact on busy Emergency Departments during peak holiday periods.

Mr Jeremy Williams, A&E consultant and clinical lead for unscheduled care said: “The best way the public can help our frontline staff, and ensure that they and their families can be seen quickly, is to use other health services and reserve our Emergency Departments for serious or life threatening situations. Ultimately this helps us to save lives.”

The Choose Well guidance can also help people choose the right health service to best meet their individual needs – and to ensure emergency services are there for when we need them most. For example, did you know your local Pharmacist can give you free, confidential advice, support and treatment on a range common ailments and any emergency medicine you may need without booking an appointment? The list of common ailments can be found at http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy

Some community pharmacies offer a Triage and Treat service to help you if you have had a low level injury and will save you a visit to a doctor or a hospital accident and emergency department. The types of injuries that can be treated in the pharmacy under this service without an appointment are minor abrasions, superficial cuts and wounds, sprains and strains, eye complaints such as sand in the eye, removal of items from the skin such as a splinter or shell and minor burns. There are also now 6 Pharmacy Walk-In Centres located throughout Hywel Dda offering a range of enhanced services.

You can find out more information from the website, where a free mobile phone app is available, which provides a GPS facility to locate the nearest services to you, as well as information leaflets with local contact numbers www.hywelddahb.wales.nhs.uk/choosewell

You can also print out this handy list of local pharmacy opening times over the Bank Holidays: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/46867

GPs advise that you get repeat prescriptions in as early as possible to avoid any delay.

Tregaron GP Dr Sion James, GP lead for North Ceredigion, added: “It is important to be prepared and organised with your medications at all times but particularly approaching a Bank Holiday. Lots of services, your local Pharmacist and a round the clock GP out of hours, are available if you have an urgent problem when your surgery is closed.”

If you are unwell and need to contact a GP out of hours or NHS Direct Wales dial 111.

If you need any urgent dental care over the Easter period you can contact your dental practice to access advice and care. If you do not have access to a dental practice, please contact NHS Direct on 111 where an appointment can be arranged for you if required.

For urgent social care out of hours, contact:
Carmarthenshire – 01558 824283
Ceredigion – 0845 6015392
Pembrokeshire – 08708 509508

If you are worried about the way you are feeling or behaving, or you are struggling to manage on your own, don’t be afraid to ask for help. Speak to your GP or ring the C.A.L.L. Mental Health Helpline on 0800 132 737, text ‘help’ to 81066 or visit www.callhelpline.org.uk

You could also check your medicine cabinet in advance to check you have a good supply of over the counter medicines which are useful to manage conditions at home. Here are some items you should keep in a child safe cupboard:

  • Pain killing medicine e.g. paracetamol
  • Rehydration mixture
  • Indigestion remedy
  • Plasters
  • Thermometer

In an emergency, life threatening situation, call 999 and ask for an ambulance. If you need treatment that cannot wait but is not an emergency and you don’t know where to go, contact NHS Direct Wales on 111.

Dewis eich gwasanaethau iechyd y Pasg hwn

Mae meddygon a nyrsys yn annog pobl leol i ychwanegu iechyd at eu rhestr ar gyfer y Pasg.

Mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn atgoffa pobl o’r angen i feddwl yn gynnar am bresgripsiynau amlroddadwy, ac oriau agor meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol wrth i ni nesáu at Wyliau’r Pasg. Gall wneud dewis doeth pan fyddwch angen cyngor neu gymorth iechyd – drwy ddefnyddio Galw Iechyd Cymru neu ymweld â’ch fferyllfa – gael effaith gadarnhaol iawn ar Adrannau Achosion Brys sy’n brysur yn ystod cyfnodau gwyliau.

Dywedodd Mr Jeremy Williams, Ymgynghorwr Achosion Brys ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu: “Y ffordd orau y gall y cyhoedd helpu ein staff rheng flaen, a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn cael eu gweld yn gyflym, yw defnyddio gwasanaethau iechyd eraill a chadw ein Adrannau Achosion Brys ar gyfer sefyllfaoedd difrifol neu sy’n bygwth bywyd. Yn y pen draw mae hyn yn ein helpu i achub bywydau.”

Gall y canllawiau Dewis Doeth hefyd helpu pobl i ddewis y gwasanaethau iechyd cywir er mwyn diwallu eu hanghenion iechyd unigol eu hunain – ac i sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael pan fydd arnom eu hangen fwyaf. Er enghraifft, a wyddech chi fod eich Fferyllydd lleol yn gallu rhoi cyngor, cymorth a thriniaeth gyfrinachol i chi ar gyfer amrywiaeth o fân anhwylderau, yn ogystal ag unrhyw feddyginiaeth frys a allai fod arnoch ei hangen, a hynny’n rhad ac am ddim a heb orfod gwneud apwyntiad? Mae’r rhestr o fân anhwylderau i’w gweld yn http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy

Mae rhai fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth Brysbennu a Thrin hefyd, a hynny i’ch helpu os byddwch wedi cael anaf lefel isel. Bydd hyn yn arbed ymweliad â’r meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty. Mae’r mathau o fân anafiadau y gellir eu trin yn y fferyllfa o dan y gwasanaeth hwn, a hynny heb apwyntiad, yn cynnwys mân grafiadau, toriadau a chlwyfau arwynebol, ysigiadau a streifiadau, cwynion am y llygaid, er enghraifft tywod yn y llygaid, tynnu eitemau o’r croen, er enghraifft fflawiau, a mân losgiadau. Erbyn hyn mae 6 Chanolfan Galw i Mewn Fferyllol wedi’u lleoli ledled Hywel Dda sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y wefan, lle mae rhif ffôn symudol ac ap rhad ac am ddim ar gael, sy’n darparu cyfleuster meddygon teulu er mwyn dod o hyd i’r gwasanaethau sydd agosaf atoch, yn ogystal â thaflenni gwybodaeth â rhifau cyswllt lleol www.hywelddahb.wales.nhs.uk/choosewell

Gallwch hefyd argraffu’r rhestr ddefnyddiol hon o amserau agor y fferyllfeydd lleol dros y Gwyliau Banc: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/56476 Mae Meddygon teulu yn cynghori eich bod yn cyflwyno eich presgripsiynau mlroddadwy cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi.

Ychwanegodd Dr Sion James, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tregaron ac Arweinydd Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion: “Mae’n bwysig bod yn barod a threfnus gyda’ch meddyginiaethau bob amser ond yn enwedig wrth agosáu at Wyl y Banc. Mae llawer o wasanaethau ar gael os oes gennych broblem frys pan fydd eich meddygfa ar gau, gan gynnwys gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddyg Teulu yn ystod y dydd a’r nôs.”

Os ydych chi’n sâl ac angen cysylltu â meddyg teulu y tu allan i oriau neu Galw Iechyd Cymru deialwch 111.

Os bydd arnoch angen gofal deintyddol brys dros gyfnod y Pasg, gallwch gysylltu â’ch deintyddfa i gael cyngor a gofal. Os na fydd gennych fynediad i ddeintyddfa, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 111, lle bydd apwyntiad yn gallu cael ei drefnu ar eich cyfer, os bydd angen.

I gael gofal cymdeithasol brys y tu allan i oriau, cysylltwch â’r canlynol:
Sir Gaerfyrddin – 01558 824283
Ceredigion – 0845 6015392
Sir Benfro – 08708 509508

Os byddwch y pryderu ynghylch sut yr ydych yn teimlo neu’n ymddwyn, neu os byddwch yn brwydro i ymdopi ar eich pen eich hun, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Siaradwch â’ch meddyg teulu, neu ffoniwch Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. ar 0800 132 737, tecstiwch ‘help’ i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk

Gallech hefyd edrych ar eich cwpwrdd moddion o flaen llaw i wneud yn siwr bod gennych gyflenwad da o feddyginiaethau dros y cownter sy’n ddefnyddiol i reoli cyflyrau yn y cartref. Dyma rai eitemau y dylech gadw mewn cwpwrdd sydd allan o gyrraedd plant:

  • Meddyginiaeth lleddfu poen e.e. paracetamol
  • Cymysgedd ail-hydradu
  • Meddyginiaeth diffyg traul
  • Plasteri
  • Thermomedr

Mewn argyfwng neu sefyllfa sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans. Os oes angen triniaeth na all aros ond nid yw’n achos brys ac nad ydych yn gwybod ble i fynd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 111.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle