THE OPEN UNIVERSITY IN WALES CELEBRATES ITS 50th YEAR

0
793
Dr John Evans

Today (23rd April) The Open University (OU) in Wales celebrates its official 50th birthday and marks the first day of year long celebrations across Wales.

Across the year, the OU in Wales will commemorate the lives and hard work of all of those that have studied, taught and worked for the OU by telling their stories.

Events will be happening across Wales, including a series of Open Talks and an OU archive exhibition coming to Cardiff.

The OU, the UK’s biggest distance learning provider, has come a long way since its inauguration in 1969 and is as relevant, radical and open today as ever. Introduced by Harold Wilson (Prime Minister 1964–1970) as “the university of the air” the concept of open learning for all, allowing people of lower-incomes to access learning through books, TV and radio.

Shortly after its foundation in 1969, the first Director of the OU in Wales, Harfod Williams, was appointed. Since then, 213,863 students have passed through their virtual doors.

One of the very first students to join the OU in Wales is Dr John Evans. He completed his first degree whilst working two miles underground in the Cwmgwili Colliery in Carmarthenshire in the early 1970s.

Crime Files ITV Penelope John Clip

He has since gone on to complete four degrees with the OU in Wales and a doctorate with Swansea University. His qualifications have enabled him to become a teacher, lecturer and writer.

John said: “I’m often asked what a university education has done for me. My response is that it has provided me with a view of the world that an ordinary working-class man such as myself might not have had otherwise.

“In my first session everyone went around introducing themselves and there were architects, teachers and the like. To this day I vividly remember how everyone stared at me as I said “John, coal miner”.

“Believe it or not, I equate the creation of The Open University with the creation of the NHS in 1948 and how much it’s made a difference. It has changed my life considerably.”

A special photography collection, titled ‘The Open University: 50 years’ has also been launched as part of the celebrations. The collection includes newly released archive images dating from 1969, as well as ten photographs shot by renowned photographer Chris Floyd of amazing students from across the UK.

Of those featured in the distinctive collection is Cardiff born Felix Asare-Donkoh. Felix graduated from the OU in Wales last year and gained his BSc in Engineering remotely while stationed away from home. In order to study in the challenging conditions, Asare-Donkoh had to waterproof his books so he could continue to study in challenging conditions. He said of his OU experience:

“What I’ve achieved would have been impossible without the OU. The flexibility and support they offered me meant I didn’t have to choose between my career and my education. Because of that I was able to get hands-on, practical experience in the armed forces that has been incredibly relevant to my degree. It was tough at times, but every minute of hard-work was worth it.”

Louise Casella, Director of The Open University in Wales, said: “John and Felix are just two of the amazing graduates to have studied with The Open University in Wales.

“As well as looking back and celebrating all of those who have shaped the OU into what it is today, we’re also looking forward to the future and how we can continually innovate and provide open learning opportunities to all.

“Throughout the coming months, we’ll be celebrating a fantastic 50 years by telling the stories of those who have studied and taught with us. Our students and staff are at the heart of what we do and have grown with us over the last five decades. Now is their time to celebrate and shine.”

To share your Open University story and join in the celebrations, please email Wales-External-Affairs@open.ac.uk 

To get involved on social media, tweet @OUCymru and #OU50.

 

Y BRIFYSGOL AGORED YNG NGHYMRU YN DATHLU HANNER CAN MLWYDDIANT

Heddiw (23 Ebrill) mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn dathlu ei phen-blwydd swyddogol yn 50 ac yn nodi’r diwrnod cyntaf mewn blwyddyn o ddathliadau ledled Cymru.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru yn dathlu bywydau a gwaith caled pawb sydd wedi astudio, addysgu a gweithio i’r Brifysgol Agored drwy adrodd eu straeon.

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys cyfres o Sgyrsiau Agored ac arddangosfa archifau’r Brifysgol Agored yng Nghaerdydd.

Mae’r Brifysgol Agored, darparwr dysgu o bell mwyaf y DU, wedi newid cryn dipyn ers y dechrau ym 1969, ac mae mor berthnasol, radical ac agored ag erioed. Cafodd ei chyflwyno gan Harold Wilson (Prif Weinidog 1964–1970) fel “prifysgol yr aer” yn cynnig dysgu agored i bawb gan alluogi pobl ar incymau is i gael mynediad at ddysgu drwy lyfrau, y teledu a’r radio.

Yn fuan ar Ă´l ei sefydlu ym 1969, penodwyd Cyfarwyddwr cyntaf y Brifysgol Agored yng Nghymru, Harfod Williams. Ers hynny, mae 213,863 o fyfyrwyr wedi pasio drwy ei drysau rhithwir.

Un o’r myfyrwyr cyntaf i ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru oedd Dr John Evans. Cwblhaodd ei radd gyntaf tra’n gweithio ddwy filltir o dan y ddaear ym Mhwll Glo Cwmgwili yn Sir Gâr ar ddechrau’r 1970au.

Ers hynny mae wedi cwblhau pedair gradd gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ynghyd â doethuriaeth gyda Phrifysgol Abertawe. Mae ei gymwysterau wedi ei alluogi i fod yn athro, darlithydd ac awdur.

Dywedodd John: “Mae pobl yn aml yn gofyn i fi beth mae addysg prifysgol wedi’i wneud i fi. Mae wedi fy ngalluogi i edrych ar y byd mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosib fel arall i ŵr dosbarth gweithiol cyffredin fel fi.

“Yn fy sesiwn gyntaf gwnaeth pawb gyflwyno eu hunain ac roedd yna benseiri, athrawon a’r math. Hyd heddiw, rwy’n cofio’n iawn sut edrychodd pawb arna i pan ddwedais i “John, glöwr”.

“Credwch neu beidio, yn fy marn i mae creu’r Brifysgol Agored ar yr un lefel â chreu’r GIG ym 1948, o ran y gwahaniaeth mae wedi’i wneud. Mae wedi newid fy mywyd yn sylweddol.”

Mae casgliad ffotograffiaeth arbennig, yn dwyn y teitl ‘Y Brifysgol Agored: 50 mlynedd’ hefyd wedi’i lansio fel rhan o’r dathliadau. Mae’r casgliad yn cynnwys darluniau archif sydd newydd eu rhyddhau o 1969, ynghyd â deg ffotograff a dynnwyd gan y ffotograffydd enwog Chris Floyd o fyfyrwyr rhyfeddol o bob rhan o’r DU.

Ymysg y rheini sy’n cael sylw yn y casgliad unigryw mae Felix Asare-Donkoh o Gaerdydd. Graddiodd Felix o’r Brifysgol Agored yng Nghymru y llynedd a chyflawnodd ei BSc Peirianneg o bell ar ôl cael ei orsafu i ffwrdd o gartref. Bu’n rhaid i Asare-Donkoh wneud ei lyfrau’n wrth-ddŵr fel y gallai barhau i astudio dan amgylchiadau heriol. Wrth sôn am ei brofiad gyda’r Brifysgol Agored, dywedodd:

“Allwn i ddim fod wedi cyflawni hyn heb y Brifysgol Agored. Mae’r hyblygrwydd a’r cymorth a roddwyd i fi yn golygu nad oedd yn rhaid dewis rhwng fy ngyrfa ac addysg. Oherwydd hynny bu’n bosib i fi gael profiad ymarferol yn y lluoedd arfog, sydd wedi bod yn arbennig o berthnasol i’m gradd. Roedd yn anodd ar brydiau, ond mae pob munud o waith caled wedi bod yn werth chweil.”

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru: “Dim ond dau o’r graddedigion anhygoel sydd wedi astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru yw John a Felix.

“Ynghyd ag edrych yn ôl a dathlu’r bobl sydd wedi siapio’r Brifysgol Agored, rydym hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol ac i weld sut gallwn arloesi’n barhaus a chynnig cyfleoedd dysgu agored i bawb.

“Drwy gydol y misoedd nesaf, byddwn yn dathlu 50 mlynedd wych drwy adrodd straeon y bobl sydd wedi astudio ac addysgu gyda ni. Mae ein myfyrwyr a’n staff wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud ac wedi tyfu gyda ni dros y pum degawd diwethaf. Nawr yw eu hamser i ddathlu a disgleirio.”

I rannu eich stori am y Brifysgol Agored ac ymuno yn y dathliadau, e-bostiwch


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle