Graziers aim to reverse habitat management decline on Welsh common land/ Porwyr yn anelu at wyrdroi’r dirywiad o ran rheoli cynefin ar dir comin

0
588
Graziers Frances Gwillim and Clive Mills of Three Parishes, pictured with Farming Connect SMS facilitator Helen Barnes (left) on one of the bracken covered hillsides included in the application

Farmers with grazing rights to thousands of acres of common land in mid Wales have joined forces for a major project to remove bracken, improve public access and encourage wildlife.

 Three grazing associations – Llanfihangel-bryn-Pabuan, Llysdinam and Llanwrthwl – came together as one to bid for funding from the Sustainable Management Scheme (SMS), administered by the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014 -2020 and funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

The SMS provides financial support for a range of activities to manage natural resources and, in so doing, contributes to the wellbeing of rural communities.

 The bid by the grazing associations, made under the name of Three Parishes, was successful at the Expression of Interest (EOI) stage and has now applied for a grant of £695,300.

The three-year project, which will include measures to reintroduce cattle onto the commons and rebuild traditional stone walls, was one of nine projects that were successful in the EOI round.

Beef and sheep farmer Frances Gwillim, a non-active grazier, said that if the bid was successful, the benefits would extend much further than direct benefits to the graziers such as restoring wildlife habitats and employment creation.

It will attract more people to the hills because access will be improved and tracks and walls repaired and, with improved habitats, more breeds of birds will nest there, said Mrs Gwillim, of The Parc, Llanafan Fawr, near Builth Wells. There are plans to train people in new skills including stone walling and to develop a trial to investigate the hefting of hardy cattle onto the commons for habitat management.

 Bracken encroachment is a major problem on the 2500 hectares of common land included in the funding application.

 It is a risk to sheep health because it harbours ticks which infect flocks and cause illnesses such as louping ill and tick borne fever, and also threatens human health through Lyme disease.

 Aside from the health issues, it encroaches on public access, smothers plants and historic features and is unsuitable habitat for the many the species of wild bird that live on the common. By managing the bracken, the project will improve wildlife diversity by supporting several species including the golden plover, curlew and skylark.

The graziers and the wider community wanted to take control of the situation before it became unmanageable; the project will form part of the sustainable management planned for the area.

Helen Barnes helped to instigate the project as one of 15 Farming Connect SMS facilitators in Wales.

With her help and following meetings with graziers, local people and other stakeholders, Three Parishes submitted an Expression of Interest.

The application set out plans to use aerial spraying, bruising and weep wiping techniques to remove the bracken. Cattle would be reintroduced to help prevent the bracken returning by grazing.

“Our hills all join so it made sense to apply as one,’’ said Mrs Gwillim.

“We were very lucky to have the support of Helen and also Nick Myhill, who is a non-active grazier on one of the commons and also played a key part in the application.’’

Rights to graze the commons is linked to individual farms – there are 80 graziers on Llanfihangel-bryn-Pabuan, Llysdinam and Llanwrthwl commons although only 15 actively graze this land.

The project will also apply to a fourth common, Carngafallt at Llanwrthwl, which was included in the application.

Ms Barnes said Three Parishes would be represented at an open day at Talley on April 24th where there will be an opportunity to learn more about applying for SMS support.

The event will start at 10.00am at The Plough, Rhosmaen, Llandeilo.

“For further information regarding the open day, please visit https://wales.business-events.org.uk/en/events/sustainable-management-scheme-sms-open-day/ or contact Farming Connect on 08456 000813,’’ said Ms Barnes.

The 5th window to submit an Expression of Interest (EOI) for the SMS scheme will be open between May 21st and August 6th. Anyone interested in working with a Farming Connect facilitator should visit the Farming Connect website for further information.

 The Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020 is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Porwyr yn anelu at wyrdroi’r dirywiad o ran rheoli cynefin ar dir comin

Ymunodd ffermwyr sydd â hawliau pori ar filoedd o erwau o dir comin yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer prosiect pwysig i glirio rhedyn, gwella mynediad i’r cyhoedd ac annog bywyd gwyllt.

Mae tair cymdeithas bori – Llanfihangel Brynpabuan, Llysdinam a Llanwrthwl – wedi dod at ei gilydd i roi cais am gyllid o’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) a weinyddir gan Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau i reoli adnoddau naturiol, ac wrth wneud hynny, yn cyfrannu at les cymunedau lleol.

Bu’r cais gan y cymdeithasau pori, a wnaed dan yr enw ‘Three Parishes’, yn llwyddiannus ar y cam Mynegi Diddordeb ac mae’n awr wedi gwneud cais am grant o £695,300.

Roedd y prosiect tair blynedd, fydd yn cynnwys camau i ailgyflwyno gwartheg ar y comin ac ailadeiladu waliau cerrig traddodiadol, yn un o naw prosiect a fu’n llwyddiannus yn y rownd mynegi diddordeb.

Dywedodd y ffermwr bîff a defaid Frances Gwillim, sydd â hawliau pori nad yw’n eu defnyddio ar hyn o bryd, petai’r cais yn llwyddiannus, y byddai’r manteision yn ymestyn yn llawer pellach na manteision uniongyrchol i’r porwyr fel adfer cynefinoedd bywyd gwyllt a chreu gwaith.

Bydd yn denu mwy o bobl i’r bryniau oherwydd bydd mynediad yn cael ei wella a’r traciau a’r waliau yn cael eu trwsio, a gyda’r gwelliant i’r cynefinoedd, bydd mwy o rywogaethau o adar yn nythu yno, dywedodd Mrs Gwillim, o’r Parc, Llanafan Fawr, ger Llanfair ym Muallt. Mae cynlluniau i hyfforddi pobl mewn sgiliau newydd gan gynnwys codi waliau cerrig a datblygu cynllun treialu i ymchwilio i sicrhau bod gwartheg caled yn sefydlu cynefin ar y comin i reoli’r cynefin.

Daeth ymlediad rhedyn yn broblem fawr ar y 2500 hectar o dir comin sy’n cael ei gynnwys yn y cais am arian.

Mae’n risg i iechyd defaid oherwydd bod trogod yn cuddio ynddo sy’n heintio diadelloedd, ac mae’n fygythiad i iechyd dynol hefyd trwy afiechyd Lyme.

Heblaw am y problemau iechyd, mae’n amharu ar fynediad y cyhoedd, yn tagu planhigion a nodweddion hanesyddol ac nid yw’n gynefin addas i lawer o rywogaethau o adar gwyllt sy’n byw ar y comin. Trwy reoli’r rhedyn, bydd y prosiect yn gwella’r amrywiaeth o fywyd gwyllt trwy gynnal nifer o rywogaethau gan gynnwys y cwtiad aur, y gylfinir a’r ehedydd.

Roedd y porwyr a’r gymuned ehangach am reoli’r sefyllfa cyn iddi fynd yn rhy bell; bydd y prosiect yn rhan o’r rheoli cynaliadwy a gynllunnir ar gyfer yr ardal.

Roedd Helen Barnes yn un fu’n helpu i gychwyn y prosiect fel un o’r 15 o hwyluswyr SMS Cyswllt Ffermio yng Nghymru.

Gyda’i help hi ac yn dilyn cyfarfodydd gyda phorwyr, pobl leol a rhanddeiliaid eraill, cyflwynodd grŵp ‘Three Parishes’ eu Datganiad o Ddiddordeb.

Roedd y cais yn nodi cynlluniau i ddefnyddio chwistrellu o’r awyr, cleisio a gwlychu chwyn (weed wiping) i gael gwared ar y rhedyn. Byddai gwartheg yn cael eu hail-gyflwyno i helpu i atal y rhedyn rhag dychwelyd trwy bori.

“Mae ein tir ni i gyd yn taro felly roedd yn gwneud synnwyr i ni ymgeisio fel un,” dywedodd Mrs Gwillim.

“Roeddem yn lwcus iawn o gael cefnogaeth Helen a hefyd Nick Myhill, sydd â hawliau pori nad yw’n eu defnyddio ar un comin ac a chwaraeodd ran allweddol yn y cais.”

Mae’r hawliau i bori’r comin yn cael eu cysylltu â ffermydd unigol – mae 80 o borwyr ar gomin Llanfihangel Brynpabuan, Llysdinam a Llanwrthwl er mai dim ond 15 sy’n pori’r tir mewn gwirionedd.

Bydd y prosiect yn weithredol hefyd ar bedwerydd comin, Carngafallt yn Llanwrthwl, sydd wedi ei gynnwys yn y cais.

Dywedodd Ms Barnes y bydd y Tri Phlwyf yn cael eu cynrychioli mewn diwrnod agored yn Nhalyllychau ar 24 Ebrill pan fydd cyfle i ddysgu rhagor am wneud cais am gefnogaeth SMS.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.00am yn y Plough, Rhosmaen, Llandeilo.

“Am ragor o wybodaeth am y diwrnod agored, ewch i https://wales.business-vents.org.uk/cy/digwyddiadau/diwrnod-agored-cynllun-rheoli-cynaliadwy-sms/ neu cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000813,’’ dywedodd Ms Barnes.

Bydd y 5ed ffenestr i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun SMS yn agor rhwng 21 Mai a 6 Awst. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda hwylusydd Cyswllt Ffermio fynd i wefan Cyswllt Ffermio am ragor o wybodaeth.

Ariennir Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle