Centre’s pioneering research helping to shape future strategy for ageing in Wales/Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru

0
645
Swansea University Registrar Andrew Rhodes, Deputy Minister Julie Morgan, Professor Vanessa Burholt, Director of CADR and Associate Directors of CADR Professor Gill Windle, of Bangor University and Dr Rebecca Sims, from Cardiff University.

A ground-breaking research centre – the Centre for Ageing and Dementia Research – led by Swansea University is set to play a key role in shaping the future care of older people in Wales.

Deputy Minister for Health and Social Services Julie Morgan said: “The work that CADR is doing around ageing is absolutely crucial, and the Welsh Government is very committed to working in this area.”

Speaking during a fact-finding visit to the University, she said:  “With so many people living so much longer, obviously we want them to be able to have a good, healthy time. Research does show that the last few years of people’s lives are not always healthy.”

Describing the centre’s work as marvellous, she said: “It will help the Welsh Government to determine a strategy not only for ageing but for loneliness and isolation.”

After being welcomed by Professor Vanessa Burholt, Director of CADR, and University Registrar Andrew Rhodes, Mrs Morgan met members of the Centre’s team and heard about its latest projects.

CADR members explained how they involve the public to ensure that Centre’s research addresses the needs of older people, people with dementia and carers. Working with policy makers and practitioners CADR’s research is used to improve services for older people in Wales.

The Deputy Minister said: “One of our ideas behind devolution was to bring policy-makers and practitioners closer to the people, and I think that this has been one of the great successes of devolution, that we are able to communicate.”

As a member of the Welsh Government’s cross-party group on dementia, Mrs Morgan is involved in discussing issues facing people living with dementia in Wales and recommending improvements.

Established in 2015, CADR is a collaboration between Swansea, Bangor and Cardiff Universities. A world-class research centre, the centre brings together scientists with expertise in genetics, psychology, social science and social policy to address key questions on ageing and dementia.

Professor Burholt said: “CADR is shaping a new breed of interdisciplinary researchers with new visions for future scientific challenges.

“We have been able to create research partnerships and collaborations with the NHS, government, industry and the third sector, resulting in tangible benefits to health, wellbeing and independence in later life.” 

Following Mrs Morgan’s visit the Centre hosted an open event aimed at raising awareness about its work and latest research.

The centre highlighted current opportunities for the public to get involved in CADR such as joining the Advisory Board or helping develop and steer research on ageing with a disability, hospital discharge information, Welsh language in care contexts, and dementia and continence issues.   CADR is also eager to recruit new volunteers for its Lay Members Group which ensures research findings and reports are written in clear English.

Anyone interested in getting involved with CADR’s ongoing work should contact cadr@swansea.ac.uk or call 01792 513734.

Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru

Bydd canolfan ymchwil arloesol – y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe –  yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

Meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Mae’r gwaith mae CADRyn ei wneud ar heneiddio yn hollbwysig, ac mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig iawn i weithio yn y maes hwn.”

Gan siarad yn ystod ymweliad â’rBrifysgol i gasglu gwybodaeth, meddai:  “Gan fod cynifer o bobl yn byw gymaint yn hirach nawr, mae’n amlwg ein bod yn awyddus iddynt allu byw bywydau da ac iach.Mae ymchwil yn dangos nad yw blynyddoedd olaf bywydau pobl bob amser yn iach.”

‘Rhagorol’ oedd y gair a ddefnyddiodd i ddisgrifio gwaith y Ganolfan, a dywedodd: “Bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth, nid yn unig ar gyfer heneiddio ond ar gyfer unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd.”

 Ar ôl cael ei chroesawu gan yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwr CADR, a Chofrestrydd y Brifysgol,  Andrew Rhodes, cafodd Mrs Morgan gyfle i gwrdd ag aelodau tîm y Ganolfan a chlywed am ei phrosiectau diweddaraf.

Esboniodd aelodau CADR sut maent yn cynnwys y cyhoedd i sicrhau bod ymchwil y Ganolfan yn diwallu anghenion pobl hŷn, pobl â dementia a gofalwyr.

Wrth weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr, defnyddir ymchwil CADR i wella gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru.

Meddai’r Dirprwy Weinidog, “Un o’n syniadau y tu ôl i ddatganoli oedd dod â llunwyr polisi ac ymarferwyr yn nes at y bobl, a dwi’n meddwl bod hwn yn un o lwyddiannau mawr datganoli  – ein gallu i gyfathrebu.”

Fel aelod o grŵp trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar ddementia, mae Mrs Morgan yn rhan o drafodaethau am faterion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru ac yn argymell gwelliannau.

Sefydlwyd CADR yn 2015 ac mae’n gydweithrediad rhwng prifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Mae’r ganolfan ymchwil hon o safon fyd-eang yn dod â gwyddonwyr sy’n arbenigo mewn sawl maes ymchwil ynghyd – gan gynnwys geneteg, seicoleg, gwyddor gymdeithasol a pholisi cymdeithasol – i fynd i’r afael â chwestiynau pwysig ym maes heneiddio a dementia.

Meddai’r Athro Burholt: “Mae CADR yn datblygu math newydd o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol sydd â gweledigaethau newydd i ddatrys heriau gwyddonol y dyfodol.

“Rydym wedi gallu creu partneriaethau a chydweithrediadau ymchwil â’r GIG, y llywodraeth, diwydiant a’r trydydd sector, gan arwain at fanteision go iawn o ran iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn.”

Yn dilyn ymweliad Mrs Morgan, cynhaliodd y Ganolfan ddigwyddiad agored â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth am ei gwaith a’i hymchwil diweddaraf.

Amlygodd y Ganolfan gyfleoedd sydd ar gael i’r cyhoedd fod yn rhan o waith CADR, megis bod yn aelodau’r Bwrdd Ymgynghorol neu helpu i ddatblygu a llywio ymchwil i heneiddio ag anabledd, gwybodaeth adeg gadael yr ysbyty, yr iaith Gymraeg mewn cyd-destunau gofal, a materion ym maes dementia ac ymataliaeth.

Mae hefyd yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr newydd ar gyfer ei Grŵp Aelodau Lleyg, sy’n sicrhau y defnyddir Saesneg clir wrth ysgrifennu canfyddiadau ac adroddiadau ymchwil.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith CADR e-bostio cadr@abertawe.ac.uk neu ffonio 01792 513734.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle