Craft and food fair – Blas o Sir Gaerfyrddin

0
518
Botanic Gardens of Wales

Fabulous local food and craft on the menu

The pride of Carmarthenshire’s creativity will be on display at the National Botanic Gardens of Wales on Saturday and Sunday 1st and 2nd June 2019.

More than 50 local artisan businesses will be present offering a wide selection of goods that have been made with local resources (wherever possible) and which perfectly showcase the huge variety of imagination, skill and creativity that abounds within the ‘Garden of Wales’.

You’ll be able to browse stalls offering delicious foods made in small batches to secret family recipes, gins and ciders brewed nearby and irresistible artworks, all made by local craftsmen and women.

A team of local, high-profile chefs will be displaying their skills and tips at cook-offs throughout both days so you’ll get to see some of the finest Welsh cooking up close and personal as they turn everyday local ingredients into something out of the ordinary in all the best ways – be prepared to discover your new favourite!

If you’re looking forward to a brisk, rewarding walk around the beautiful parklands with a delicious treat, you’ll be spoilt for choice as exhibitors will have an abundance of options for you to choose from – and dietary restrictions shouldn’t be a problem as many stallholders are mindful of the increasing need for goodies that meet certain requirements.

This leads them to be even more creative as they find a way to make their wares taste wonderful while being suitable for all. Think it can’t be done? You’ll be surprised!

Thanks to businesses like Calon Cakes, the Cothi Valley herd and their bakes, Coalpit Welshcakes and Marsh Marloes, there will be a huge choice of goodies for you to take away, sit down and savour or nibble at as you browse – and if you’re thirsty, suppliers like Jin Talog, Levicta Wines, My Vintage Delights and Afal y Graig will be on hand to help you find something quaffable to slake that thirst – as long as you’re not driving afterwards, of course.

If you’re interested in selecting something delicious to take home and enjoy at a later date or even order at an appropriate time, good news: Rhosyn Farm Produce will be there with its high-quality farm-2-fork goods, as will Fruits of Eden Carmarthen, Oscar’s Kitchen, Good Carma Foods and Tast Natur – not forgetting Squire’s Kitchen ambassador Jan Clement-May and her Too Good To Eat Cakes.

But it’s not all food and drink: we’re proud to also introduce the best of the county’s artistic creativity who work in a variety of mediums; there will be hand-turned bowls made from purely sustainable sources thanks to Jason’s Woodcraft, jewellery courtesy of Eva Hrynash and Toni Marriner, fusion artwork by Coppertop Crafts (the home of the Celtangle) and lovely Siramik pottery, amongst many others. Whether you want to treat yourself or pick up a truly home-grown gift, we’re confident that, whatever your budget, a day enjoying the Taste of Carmarthenshire and Carmarthenshire Craft Creatives Food, Drink and Crafts Fair will leave you spoiled for choice and falling in love with the county all over again.

Normal admission fees for the Garden apply but the Fair is open to all once you are through the entrance and don’t forget that you can enjoy free and unlimited re-entry to the gardens for seven days after initial purchase.

The Garden is open from 10am to 6pm. Entry is free for members and parking is free for all.

Bwydydd a chrefftau lleol godidog ar y fwydlen

Bydd y gorau o greadigrwydd Sir Gaerfyrddin i’w weld yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Mehefin 2019.

Bydd dros 50 o fusnesau crefft lleol yn bresennol gan gynnig detholiad eang o nwyddau sydd wedi’u gwneud o adnoddau lleol (lle bynnag mae hynny’n bosibl) ac sy’n dangos yn berffaith yr amrywiaeth anferth o ddychymyg, sgiliau a chreadigrwydd sydd mor doreithiog yng ‘Ngardd Cymru’.

Gallwch edrych o gwmpas stondinau yn cynnig bwydydd blasus wedi’u gwneud mewn niferoedd bach yn ôl rysetiau teuluol cyfrinachol, diodydd jin a seidr wedi’u bragu gerllaw, a gweithiau celf deniadol iawn, i gyd wedi’u gwneud gan grefftwyr lleol.

Bydd tîm o gogyddion lleol adnabyddus yn arddangos eu sgiliau ac awgrymiadau mewn sesiynau coginio yn ystod y ddau ddiwrnod, felly cewch gyfle i weld enghreifftiau o’r coginio Cymreig gorau yn uniongyrchol wrth iddyn nhw droi cynhwysion cyffredin pob dydd  yn rhywbeth anghyffredin yn y ffyrdd gorau – byddwch yn barod i ddarganfod eich ffefryn newydd!

Os ydych yn edrych ymlaen at fynd am dro bywiog o gwmpas y parcdir hardd gyda danteithion blasus, bydd gormod ichi ddewis ohonynt oherwydd bydd gan yr arddangosfa ddigon o ddewis ar eich cyfer – ac ni ddylai cyfyngiadau deiet fod yn broblem gan fod nifer o stondinwyr yn ymwybodol o’r galw cynyddol am fwydydd sy’n bodloni gofynion penodol.

Mae hyn yn golygu eu bod hyd yn oed yn fwy creadigol wrth iddyn nhw ddarganfod ffordd i wneud i’r bwydydd flasu’n rhagorol ond bod yn addas hefyd ar gyfer pawb. Ydych chi’n amau y gellir gwneud hynny? Byddwch yn synnu!

Diolch i fusnesau fel Calon Cakes, criw Dyffryn Cothi a’u bwydydd popty, Coalpit Welshcakes a Marsh Marloes, bydd dewis anferth o bethau da ichi fynd â nhw adre gyda chi, i eistedd i’w blasu wrth ichi edrych – ac os bydd arnoch syched bydd cyflenwyr fel Jin Talog, Levicta Wines, My Vintage Delights ac Afal y Graig wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i rywbeth dymunol i dorri’r syched – cyn belled na fyddwch yn gyrru adre wedyn, wrth gwrs.

Os hoffech fwynhau rhywbeth blasus i fynd adre gyda chi a’i fwynhau’n ddiweddarach, neu hyd yn oed i’w archebu ar adeg addas, newyddion da: bydd Rhosyn Farm Produce yno gyda’u nwyddau rhagorol o’r-fferm-i’r-fforc, a hefyd Fruits of Eden Caerfyrddin, Oscar’s Kitchen, Good Carma Foods a Tast Natur – heb anghofio llysgennad Squire’s Kitchen, Jan Clement-May, a’i theisennau Too Good To Eat Cakes.

Ond nid bwyd a diod fydd popeth: rydyn ni’n falch hefyd cael cyflwyno’r gorau o weithwyr artistig y sir sy’n gweithio mewn amrywiol gyfryngau; bydd powlenni wedi’u turnio â llaw o ffynonellau lleol yn unig, diolch i Jason’s Woodcraft, gemwaith gan Eva Hrynash a Toni Marriner, gwaith celf cyfuniadol gan Coppertop Crafts (cartref Celtangle) a chrochenwaith hardd Siramik, ymhlith nifer o rai eraill. P’un a fyddwch am eich plesio’ch hun neu brynu anrheg sy’n wirioneddol wedi’i gwneud yn lleol, rydyn ni’n hyderus, faint bynnag o arian fydd yn eich poced, y bydd diwrnod o Flasu Sir Gaerfyrddin a Ffair Creu Crefftau, Bwyd a Diod Sir Gaerfyrddin yn cynnig mwy na digon o ddewis ichi, ac y byddwch yn syrthio mewn cariad â’r sir unwaith eto.

Defnyddir prisiau mynediad arferol yr Ardd, ond bydd y Ffair ar agor i bawb ar ôl dod drwy’r fynedfa. A chofiwch y gallwch fwynhau ymweld â’r gerddi am ddim lawer gwaith am saith diwrnod ar ôl prynu’r tocyn cychwynnol.

Mae’r Ardd ar agor o 10am i 6pm. Mynediad am ddim i aelodau, a pharcio am ddim i bawb.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle