Hywel Dda Health Board: Lung Cancer Chest X Ray Pharmacy referral pilot launched in Hywel Dda / Lansio cynllun peilot yn ardal Hywel Dda: Atgyfeiriad gan Fferyllfa i gael Pelydr X o’r Frest i ganfod Canser yr Ysgyfaint

0
904

Within Wales, over 2,300 people are diagnosed with lung cancer each year. Of these, only 20% are diagnosed when the lung cancer is at an early stage when they are able to have surgery. This is partly because Wales has the lowest awareness of symptoms compared to the rest of the UK and Europe. Symptoms include an on-going cough, feeling tired, shortness of breath, chest pain, unexplained weight loss, and coughing up blood.

It is important to diagnose lung cancer early as this allows for a better response to treatment.   Although campaigns and advertising on TV have increased the awareness of lung cancer symptoms, these ads often do not reach everyone in the community.

So, from May residents in the Hywel Dda region who are experiencing symptoms that could be due to lung cancer will be able to access a new service.  In this new, innovative chest x-ray referral service, participating Community Pharmacies in the Llanelli and Burry Port area can discuss symptoms with patients and if suitable, they can refer people to Prince Philip Hospital for a chest x-ray.

The PLUS (Pharmacy Referral for Lung Cancer Symptoms) study, funded by Health and Care Research Wales is a collaboration between Hywel Dda University Health Board, Cardiff University, and Swansea University. They are working together to look at new ways to help people get diagnosed with lung cancer earlier.   It is the first time that community pharmacists in Wales can refer people to hospital for an x-ray if they have lung cancer symptoms.  This study will involve 16 pharmacies as well as consultant physicians at Prince Philip Hospital, Llanelli.

Dr Gareth Collier MBE, respiratory consultant at Prince Philip Hospital and lead researcher on the study, said that he wants to “increase the number of patients we diagnose with lung cancer at an early stage, because finding lung cancer earlier can save lives.”

“Studies have suggested late-stage presentation of lung cancer is associated with a low awareness of symptoms, as well as difficulty in accessing primary care and tests to diagnose cancer” he said.

“GPs are often concerned that awareness campaigns will overload their already stretched services. The PLUS study combines a public awareness campaign, developed with members of the local population, and can help people to more easily access healthcare advice and tests by using our very knowledgeable and accessible community pharmacy resource,” he said, adding that he hopes “this combination will result in a greater proportion of patients diagnosed at an early stage, while at the same time not overloading general practice.”

Part of this study will look to see if allowing pharmacies to refer people to hospital can reduce the time it takes to get a diagnosis of lung cancer. Pharmacies have previously helped with diagnosing diabetes and with helping people to stop smoking, and the expectation is that pharmacists will encourage patients who are experiencing symptoms to seek medical attention sooner.

It is anticipated that the research results will provide an understanding of which services can be developed to help patients get the most appropriate treatment for symptoms and will add to an area of research that is improving earlier diagnosis. This would mean patients would not need to see their GP first, and that diagnoses could be made earlier. This research will also help raise awareness of lung cancer symptoms for the whole community too.

There are some eligibility criteria for this study. Patients need to be:

*     Aged 40 or over

*     A current or ex-smoker (and have smoked for 10 years or more) Have one or more of the symptoms listed below (where these symptoms cannot be explained by obvious causes such as current lower respiratory tract infection, known heart failure or known cancer):

*     coughing up blood, persistent cough, chest/shoulder pain, dyspnoea (difficult or laboured breathing), unexplained weight loss, chest signs, finger clubbing (changes in the shape of the fingers or finger nails), hoarseness, persistent or recurrent chest infections and cervical/supraclavicular lymphadenopathy (enlargement of lymph nodes in the neck).

Commenting on the study, Jamie Thorne from Gravells Pharmacy, Llangennech said “we could not wait to get involved with the Hywel Dda Chest X-Ray referral pathway. It is very important that patients get fast tracked to earlier diagnosis of chronic conditions like COPD, Asthma, Bronchitis and even Lung Cancer. Rather than referring them to a GP and then waiting weeks for another referral we can directly send them to hospital within 48 hours, saving valuable time to the patient and vastly improving patient care. As community pharmacists we are interacting with hundreds of patients every day and as we are open 5 and a half days a week, patients can pop in anytime to consult a pharmacist and discuss their symptoms.”

If you would like to know more look out for the posters at eligible pharmacies, visit the Hywel Dda website: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/98900 <http://track.vuelio.uk.com/z.z?l=aHR0cDovL3d3dy53YWxlcy5uaHMudWsvc2l0ZXNwbHVzLzg2Mi9wYWdlLzk4OTAw&r=12198046372&d=8861839&p=1&t=h&h=b906e877e4bc3153a996967efca4578d>

or contact the study team at Prince Philip Hospital on 01554 779307.


Yng Nghymru, mae dros 2,300 o bobl yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn. O blith y rhain, caiff dim ond 20% ddiagnosis pan fo’r canser yn y cam cynnar, a phan fyddant yn gallu cael llawdriniaeth. Mae hyn yn rhannol oherwydd mai yng Nghymru y mae’r ymwybyddiaeth isaf o symptomau o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae’r symptomau yn cynnwys pesychiad parhaus, blinder, bod yn fyr o anadl, poen yn y frest, colli pwysau heb esboniad a phesychu gwaed.

Mae’n bwysig cael diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint gan fod hyn yn galluogi’r claf i ymateb yn well i’r driniaeth. Er bod ymgyrchoedd a hysbysebion ar y teledu wedi cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint, yn aml iawn nid yw’r hysbysebion hyn yn cyrraedd pawb yn y gymuned.

Felly, o mis Mai, bydd trigolion yn ardal Hywel Dda a fydd yn profi symptomau a allai fod oherwydd canser yr ysgyfaint yn gallu cael mynediad at wasanaeth newydd. Yn y gwasanaeth newydd hwn o atgyfeirio at belydr-X o’r frest, gall Fferyllwyr Cymunedol cyfrannog yn ardaloedd Llanelli a Phorth Tywyn drafod y symptomau â’r cleifion ac, os yn briodol, yn cyfeirio pobl at Ysbyty’r Tywysog Philip i gael pelydr-X o’r frest.

Mae’r astudiaeth PLUS (Atgyfeiriadau gan Fferyllwyr ar gyfer Symptomau Canser yr Ysgyfaint), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, sy’n cydweithio i edrych ar ffyrdd newydd o helpu pobl i gael diagnosis cynharach. Dyma’r tro cyntaf i fferyllwyr cymunedol yng Nghymru allu atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol am beledr-X os oes ganddynt symptomau canser yr ysgyfaint. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys 16 o fferyllfeydd, yn ogystal â meddygon ymgynghorol yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli.

Dywedodd Dr Gareth Collier MBE, meddyg ymgynghorol anadlol yn Ysbyty’r Tywysog Philip, ac ymchwilydd arweiniol yr astudiaeth, ei fod am “gynyddu nifer y cleifion yr ydym yn rhoi diagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint iddynt” oherwydd “gall dod o hyd i ganser yr ysgyfaint yn gynnar achub bywydau.”

“Mae astudiaethau wedi dangos bod canfod canser yr ysgyfaint yn y camau diweddar yn gysylltiedig ag ymwybyddiaeth isel o’r symptomau, yn ogystal ag anhawster o ran cael mynediad at ofal sylfaenol a phrofion i ddiagnosio canser,” meddai.

“Mae meddygon gofal sylfaenol yn aml yn poeni y bydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth yn gorlwytho eu gwasanaethau, sydd eisoes yn cael eu hymestyn. Mae’r astudiaeth PLUS yn cyfuno ymgyrch ymwybyddiaeth, a ddatblygir gyda’r boblogaeth leol, a gall helpu pobl i gael mynediad haws at gyngor gofal iechyd a phrofion ddefnyddio adnodd ein fferyllfeydd cymunedol hynod wybodus a hygyrch,” meddai. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio “y bydd y cyfuniad hwn yn arwain at gyfran uwch o’r cleifion yn cael diagnosis cynnar, a hynny heb orlwytho ymarfer cyffredinol ar yr un pryd.”

Bydd rhan o’r astudiaeth hon yn edrych i weld a fydd caniatĂĄu i fferyllfeydd atgyfeirio pobl at yr ysbyty yn gallu lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Mae fferyllwyr eisoes yn helpu i ddiagnosio diabetes a helpu pobl i roi’r gorau i smygu, a disgwylir y bydd fferyllwyr yn annog cleifion sy’n profi symptomau i ofyn am help meddygol yn gynt.

Rhagwelir y bydd canlyniadau’r ymchwil yn darparu dealltwriaeth o ba wasanaethau y gellir eu datblygu i helpu cleifion i gael y driniaeth fwyaf priodol ar gyfer y symptomau, ac y bydd yn ychwanegu at faes ymchwil sy’n gwella diagnosis cynharach. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen i gleifion weld eu meddyg teulu gyntaf, a chael diagnosis yn gynharach. Bydd y gwaith ymchwil hwn hefyd yn helpu i feithrin ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint ar gyfer y gymuned gyfan.

Mae yna feini prawf cymhwysedd ar gyfer yr astudiaeth hon; rhaid bod y cleifion:

  • Dros 40 oed
  • Yn smygwyr neu’n gyn-smygwyr (sydd wedi smygu am dros 10 mlynedd)
  • Yn profi un neu ragor o’r symptomau a restrir isod (lle na ellir eu hesbonio trwy achosion amlwg tebyg i haint cyfredol yn rhan isaf y llwybr resbiradol, methiant y galon sy’n hysbys neu ganser hysbys).
  • Pesychu gwaed, pesychiad parhaus, poen yn y frest/yr ysgwydd, dyspnoea (anhawster anadlu), colli pwysau heb esboniad, arwyddion yn y frest, y bysedd yn clybio (newidiadau i siâp y bysedd neu’r ewinedd), crygni, heintiau cyson neu reolaidd yn y frest a lymffadenopathi gyddfol/uwchglafiglaidd (nodau lymff y gwddf yn chwyddo).

Wrth wneud sylw ar yr astudiaeth, dywedodd Jamie Thorne o Fferyllfa Gravells, Llangennech, “Roeddem yn awyddus iawn i fod yn rhan o lwybr atgyfeirio Hywel Dda ar gyfer cael pelydr-X o’r frest. Mae’n bwysig iawn bod cleifion yn cael eu rhoi ar lwybr carlam i gael diagnosis cynnar o gyflyrau cronig tebyg i Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, Asthma, Broncitis a hyd yn oed Canser yr Ysgyfaint. Yn hytrach na’u hatgyfeirio at feddyg teulu, ac yna aros am wythnosau am atgyfeiriad arall, gallwn eu hanfon yn uniongyrchol i’r ysbyty o fewn 48 awr, gan arbed amser gwerthfawr i’r cleifion a gwella eu gofal yn sylweddol. Rydym ni fferyllwyr cymunedol yn rhyngweithio â channoedd o gleifion bob dydd, a chan ein bod ar agor bum niwrnod a hanner yr wythnos, gall cleifion alw heibio unrhyw bryd i ymgynghori â fferyllydd a thrafod eu symptomau.”

Os hoffech wybod rhagor, cadwch olwg am y posteri mewn fferyllfeydd cymwys, ewch i wefan Hywel Dda http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/98918, neu cysylltwch â’r tĂŽm astudio yn Ysbyty’r Tywysog Philip trwy ffonio 01554 779307.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle