New event seeks to help aspiring UK farmers break into agriculture/Digwyddiad newydd yn ceisio helpu darpar ffermwyr yn y DU i ddechrau ffermio

0
551

The prospect of establishing a farm business can seem an impossible dream for aspiring farmers so a new one-day event is seeking to help aspiring farmers from across the UK break into the industry.

Farming Connect, a partner in the UK-wide Newbie network, is bringing together farmers of the future to share ideas, best practice and innovation at the ‘Start to Farm’ conference in South Wales on June 4th.

Prospective farmers from Wales, England, Scotland and Northern Ireland will get access to financial and legal guidance and information on land access and business models.

Keynote speakers include Cody Wood, a first-generation livestock farmer based in the USA.

He has proved it is possible to establish a farming business with no family background in agriculture and little money.

With just $1200 to his name, he has built several innovative and successful farming businesses in just 10 years, through collaboration with other businesses and by drawing on the strengths of others to build his own expertise.

Cody admits that breaking into any new industry isn’t easy and that farming has a unique set of challenges, not least the perception that large amounts of capital or inherited land are needed to get started.

“My route into farming has proved that you don’t need either but what you do need is determination, guidance and a willingness to use other people’s strengths to build expertise,’’ he says.

“The Start to Farm conference is an excellent initiative which I am sure will lead to opportunities for those who want to take their aspirations to farm further.’’

Cody will share the keynote speaker role with former city girl Hannah Jackson, otherwise known as The Red Shepherdess, who has carved a successful career for herself farming in Cumbria.

The event will take place at the Celtic Manor Resort, Newport, from 10am-4pm.

Limited spaces have been allocated to each UK country therefore places will be allocated on a first come first served and needs basis. To book a place, contact Del Evans on 01970 600176 or delyth.evans@menterabusnes.co.uk

For further information about the workshops visit the Farming Connect Website

Digwyddiad newydd yn ceisio helpu darpar ffermwyr yn y DU i ddechrau ffermio

 Gall y cysyniad o sefydlu busnes fferm ymddangos yn freuddwyd amhosibl i ddarpar ffermwyr, felly mae digwyddiad undydd newydd wedi cael ei drefnu i helpu darpar ffermwyr o bob rhan o’r DU i ddechrau ffermio.

Bydd Crystallite Ffermio, un o bartneriaid rhwydwaith Newbie y DU, yn dod â ffermwyr y dyfodol ynghyd i rannu syniadau, arfer dda ac arloesedd yn ystod cynhadledd ‘Dechrau Ffermio’ a gynhelir yn Ne Cymru ar 4 Mehefin.

Bydd darpar ffermwyr o Gymru. Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael mynediad at arweiniad ariannol a chyfreithiol yn ymwneud â mynediad at dir a modelau busnes.

Bydd y prif siaradwyr yn cynnwys Cody Wood, ffermwr da byw cenhedlaeth gyntaf o’r UDA.

Mae Cody wedi profi ei bod yn bosibl sefydlu busnes fferm heb unrhyw gefndir teuluol ym myd amaeth, a heb lawer o arian.

Gyda $1200 yn unig yn ei boced, mae wedi adeiladu nifer o fusnesau fferm llwyddiannus ac arloesol o fewn deng mlynedd, drwy gydweithio gyda busnesau eraill a manteisio ar gryfderau eraill er mwyn datblygu ei arbenigedd ei hun.

Mae Cody yn cyfaddef nad yw darganfod ffordd i mewn i unrhyw ddiwydiant newydd yn hawdd, a bod ffermio’n cynnig heriau unigryw, gan gynnwys y syniad bod angen llawer o gyfalaf neu dir wedi’i etifeddu er mwyn cymryd y camau cyntaf.

“Mae fy llwybr i mewn i’r diwydiant amaeth wedi dangos nad oes angen yr un o’r rhain arnoch. Yr hyn sydd ei angen yw agwedd benderfynol, arweiniad a pharodrwydd i ddefnyddio cryfderau pobl eraill er mwyn datblygu arbenigedd,” meddai.

“Mae’r gynhadledd Dechrau Ffermio yn fenter wych, ac rwy’n siŵr y bydd yn arwain at lu o gyfleoedd i’r rhai hynny sydd eisiau gwireddu eu huchelgais i ffermio.”

Yn ymuno â Cody fel prif siaradwr fydd Hannah Jackson, yn wreiddiol yn ferch o’r ddinas, aadnabyddir hefyd fel ‘The Red Shepherdess’, sydd wedi llwyddo i greu gyrfa lwyddiannus iddi hi ei hun drwy ffermio yng Nghymbria.

Cynhelir y digwyddiad yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd, rhwng 10am – 4 pm.

Mae nifer cyfyngedig wedi cael eu neilltuo ar gyfer pob gwlad yn y DU, felly bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Er mwyn archebu lle, cysylltwch â Del Evans ar 01970 600176 neudelyth.evans@menterabusnes.co.uk

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gweithdy, ewch i wefan Cyswllt Ffermio

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle