Staff from across Hywel Dda have been praised for their “remarkable achievement” in helping to reduce patient waiting times for many planned operations by 100% in under four years.
In August 2015 over 7,000 patients were waiting more than 36 weeks for treatment across a number of specialities. However by March 2019 that figure was reduced to zero and Chief Executive Steve Moore has paid tribute to everyone involved in what he described as a “real team effort.”
He added: “First and foremost I’d like to say a tremendous thank you to everyone who has been involved in helping us to reduce our Referral to Treatment Targets. We’ve hit a really important milestone through the hard work of the teams across the health board, and with support from Welsh Government.
“We recognise too that while this is a significant achievement, 36 weeks still represents a significant time period for patients to wait for treatment, particularly when in pain, and we will continue our focus to further improve waiting times through the year ahead.”
Jeremy Thomas, Senior Charge Nurse in Theatres at Prince Philip Hospital in Llanelli, added: “At the moment a lot of the patients are being seen and operated on in an extremely short period of time – we’re very efficient. We don’t have the sort of bed issues that we’ve had over previous winters and the last financial year has been very good to us in that respect, so times have reduced considerably and that’s why I think we’ve achieved our targets.”
“Cyflawniad rhyfeddol” wrth i staff Hywel Dda helpu i dorri amseroedd aros am nifer o lawdriniaethau gan 100%
Mae staff ledled Hywel Dda wedi cael eu canmol am eu “cyflawniad rhyfeddol” wrth helpu i leihau amseroedd aros cleifion 100% ar gyfer nifer o lawdriniaethau cynlluniedig, a hynny mewn llai na phedair blynedd.
Ym mis Awst 2015, roedd dros 7,000 o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos i gael triniaeth ledled nifer o arbenigeddau. Fodd bynnag, erbyn mis Mawrth 2019, roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i sero, ac mae’r Prif Weithredwr, Steve Moore, wedi talu teyrnged i bawb a fu’n rhan o hynny, gan ddisgrifio’r cyflawniad yn “ymdrech tîm wirioneddol”.
Ychwanegodd: “Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech i’n helpu i leihau ein targedau o ran Atgyfeirio at Driniaethau. Eleni, rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig iawn trwy waith caled y timau ledled y bwrdd iechyd, yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru.
“Er bod hyn yn gyflawniad arwyddocaol, rydym hefyd yn cydnabod bod 36 wythnos yn dal i fod yn gyfnod sylweddol o amser i gleifion aros am driniaeth, yn enwedig pan maent mewn poen, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella’r amseroedd aros ymhellach trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.”
Ychwanegodd Jeremy Thomas, Uwch-brif Nyrs yn Theatrau Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli: “Ar hyn o bryd, rydym yn gweld pobl ac yn cynnal eu llawdriniaethau mewn cyfnod byr iawn o amser – rydym yn effeithlon dros ben. Nid ydym wedi gweld yr un heriau o ran gwelyau a welwyd dros aeafau blaenorol, ac mae’r flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi bod yn dda iawn i ni yn hynny o beth. Felly, mae amseroedd aros wedi lleihau’n sylweddol a chredaf mai dyna pham yr ydym wedi cyflawni ein targedau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle