Hywel Dda gives special thanks to its volunteers / Hywel Dda yn diolch yn arbennig i’w wirfoddolwyr

0
534
Volunteers at Glangwili Hospital.Pic Jeff connell 26/06/12

In celebration of this year’s Volunteers Week Hywel Dda is saying the biggest thank-you to our army of volunteers for giving their time to help us deliver a first class service to our patients.

Volunteers’ Week is a special week in the calendar as it focuses our attention on the valuable contributions so many residents in Hywel Dda make that in turn make such a difference to our patient’s lives every day when they are being treated by us.

Our volunteers help out in many ways including spending time chatting with a patient or providing support to the patient’s relatives and friends, such as helping them to find the right ward at visiting times. Our volunteers work in the grounds of our hospitals, in our reception areas, on hospital wards, A&E and in our pharmacies to name but a few.

Talking about our Volunteers David Fretwell, Volunteer Manager for Hywel Dda said, “there are many reasons for people wanting to volunteer, sometimes they have been a patient or had a relative in hospital and want to give something back. All our volunteers have a story and some of these we will share during the week. Thank you each and every one of you for your support.”

Lisa Gostling, Director of Workforce and Occupational Development at Hywel Dda added, “volunteering plays an important part in people’s lives and in society and can help individuals develop both personally and professionally. It can improve their confidence, self-esteem, and communication skills and, overall it can be very rewarding.

“One of the greatest benefits volunteers can bring to the NHS is the support and comfort they bring to our patients. We are incredibly grateful to all our volunteers here in Hywel Dda – thank you.”

The volunteering for health service will have a promotional stand at the following locations throughout the week.

  • Monday 3rd June – 9am to 3pm Glangwili General Hospital (restaurant)
  • Tuesday 4th June – 9am to 2pm Prince Philip Hospital (restaurant)
  • Wednesday 5th June 9am to 2pm Withybush General Hospital (Main Corridor)
  • Thursday 6th June 9am to 2pm Bronglais General Hospital (Restaurant)

If you’d like to find out more about volunteering with us we’d be more than happy to see you.

==============================================

I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, mae Hywel Dda yn dweud y diolch mwyaf i’n byddin o wirfoddolwyr am roi o’u hamser i’n helpu i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleifion.

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig yn y calendr, gan ei bod yn canolbwyntio ein sylw ar y cyfraniad gwerthfawr y mae cynifer o bobl yn ardal Hywel Dda yn ei wneud, sydd yn ei dro yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau ein cleifion yn ddyddiol pan fyddant yn cael eu trin gennym.

Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys treulio amser yn sgwrsio â chleifion, neu’n rhoi cymorth i berthnasau a ffrindiau cleifion, er enghraifft eu helpu i ddod o hyd i’r ward iawn yn ystod yr amseroedd ymweld. Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio ar dir ein hysbytai, yn ardaloedd ein derbynfeydd, ar wardiau’r ysbytai, yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn ein fferyllfeydd, i enwi dim ond ychydig.

Wrth siarad am ein Gwirfoddolwyr, dywedodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr ar gyfer Hywel Dda, “mae pobl yn awyddus i wirfoddoli am lawer o resymau, weithiau maent wedi bod yn glaf neu wedi cael perthynas yn yr ysbyty ac maent am roi rhywbeth yn ôl. Mae gan ein holl wirfoddolwyr stori, a byddwn yn rhannu rhai ohonynt yn ystod yr wythnos. Diolch i bob un ohonoch am eich cymorth.”

Ychwanegodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn Hywel Dda, “Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl ac yn y gymdeithas, a gall helpu unigolion i ddatblygu ar lefel bersonol a phroffesiynol. Gall wella eu hyder, eu hunan-barch, a’u sgiliau cyfathrebu, a gall fod yn werthfawr iawn yn gyffredinol.

“Un o’r manteision gorau y gall gwirfoddolwyr ei chynnig i’r GIG yw’r cymorth a’r cysur y maent yn eu cynnig i’n cleifion. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr yma yn Hywel Dda – diolch yn fawr i chi.”

Bydd gan y gwasanaeth gwirfoddoli dros iechyd stondin hyrwyddo yn y lleoliadau canlynol drwy gydol yr wythnos.

  • Dydd Llun 3 Mehefin – rhwng 9am a 3pm Ysbyty Cyffredinol Glangwili (y bwyty)
  • Dydd Mawrth 4 Mehefin – rhwng 9am a 2pm Ysbyty’r Tywysog Philip (y bwyty)
  • Dydd Mercher 5 Mehefin – rhwng 9am a 2pm Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg (y prif goridor)
  • Dydd Iau 6 Mehefin – rhwng 9am a 2pm Ysbyty Cyffredinol Bronglais (y bwyty)

Os hoffech wybod rhagor am wirfoddoli gyda ni, byddem yn fwy na pharod i’ch gweld.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle