Educational film tackles `County Lines’ gang exploitation and violence

0
788


Fearless.org, the youth service of the charity Crimestoppers, is launching a new film this week to raise awareness of how ‘County Lines’ drug gangs exploit young people to move and sell drugs.

The film – ‘Running the Lines’ – was made for the Fearless Wales project by ‘It’s My Shout’ productions. It follows the character Evan who is groomed, exploited and threatened into becoming a drug runner for a London-based organised crime gang. The fictional story is inspired by accounts of real-life County Lines cases, including the use of violence by such gangs.

As part of a South Wales Police and Crime Commissioner-led serious violence prevention partnership project, Running the Lines will be launched in screenings across all four police force areas in Wales during June, and forms part of a new Fearless educational workshop and awareness campaign.

Alun Michael, South Wales Police and Crime Commissioner, said: “County Lines is a growing issue within our communities, targeting the most vulnerable and luring young people through the superficial attraction of drugs and exploitation as an alternative to what seems a barren future bereft of opportunity. This project has a key role to play in prevention and awareness raising, allowing us to intervene early in areas where young, vulnerable people are more likely to be exploited by organised crime groups to ensure they have the resilience and the opportunities to divert them away from serious violence.

“Our focus must be on a public health approach to crime reduction and I am encouraged by the way in which partners are collaborating to tackle immediate issues, particularly around knife crime and exploitation and are working to a long-term aim that ensures young people in Wales can live a life free of serious violence.”

Fearless.org, which now has youth workers covering all parts of Wales, will help tackle the underreporting of crime by young people. Through its website, young people can pass on information about crime they’ve witnessed to Fearless.org 100% anonymously and safely.

Ella Rabaiotti, Wales National Manager at Crimestoppers charity, said: “Young people can become involved with criminal gangs but often do not recognise they’re being exploited or feel confident to seek help.

“We will use the film to start a conversation with young people – especially by de-glamorising drug gangs and challenging any misconceptions around carrying knives. We hope through our Running the Lines project we can empower young people to be aware of the issues, feel safer and be confident to report crime – including the option to use Fearless.org anonymously”

The film is the second produced by Pencoed-based It’s My Shout. The first film, made in partnership with the joint schools police programme launched in 2017. ‘Are you Fearless?’, available on the ‘FearlessORG’ YouTube site, encouraged young people to recognise and report crime.

To find out more information about the Fearless project, visit Fearless.org.

Ffilm addysgol yn mynd i’r afael â thrais a chamfanteisio gan gangiau ‘Llinellau Sirol’

Ffilm addysgol yn mynd i’r afael â thrais a chamfanteisio gan gangiau ‘Llinellau Sirol’
Bydd Fearless, gwasanaeth ieuenctid elusen ‘Crimestoppers’, yn lansio ffilm newydd yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae gangiau cyffuriau ‘llinellau sirol’ yn camfanteisio ar bobl ifanc er mwyn symud a gwerthu cyffuriau.
Cynhyrchwyd y ffilm – ‘Running the Lines’ – ar gyfer prosiect Fearless Cymru gan gwmni cynhyrchu ‘It’s My Shout’.  Mae’n dilyn cymeriad Evan, a gaiff ei baratoi, ei gamfanteisio a’i fygwth i gludo cyffuriau ar gyfer gang troseddu cyfundrefnol o Lundain.  Ysbrydolwyd y stori ffuglennol gan achosion Llinellau Sirol go iawn, gan gynnwys y ffordd y mae gangiau o’r fath yn defnyddio trais.
Fel rhan o brosiect partneriaeth atal trais difrifol a arweinir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, caiff Running the Lines ei lansio wrth iddo gael ei sgrinio ar draws ardal y pedwar heddlu yng Nghymru yn ystod mis Mehefin, ac mae’n rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth a gweithdai addysgol newydd gan Fearless.
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:
“Mae Llinellau sirol yn broblem gynyddol yn ein cymunedau, gan dargedu’r rhai mwyaf agored i niwed a chan ddenu pobl ifanc trwy gyfrwng atyniad arwynebol cyffuriau a chamfanteisio fel dewis amgen i’r hyn sy’n ymddangos fel dyfodol heb unrhyw gyfleoedd.  Mae gan y prosiect hwn rôl allweddol i’w gyflawni wrth atal a chodi ymwybyddiaeth, gan ganiatáu i ni ymyrryd yn gynnar mewn ardaloedd lle y mae pobl ifanc agored i niwed yn fwy tebygol o fod yn destun camfanteisio gan grwpiau troseddu cyfundrefnol, er mwyn sicrhau eu bod yn gydnerth ac yn gallu manteisio ar y cyfleoedd i’w dargyfeirio o drais difrifol.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar ddull gweithredu iechyd y cyhoedd wrth geisio lleihau troseddu, ac rydw i wedi cael fy nghalonogi gan y ffordd y mae partneriaid yn cydweithio er mwyn mynd i’r afael â materion uniongyrchol, yn enwedig mewn perthynas â throseddau cyllyll a chamfanteisio, ac rydym yn gweithio ar nod hirdymor er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghymru fyw bywyd sy’n rhydd rhag trais difrifol.”
Bydd Fearless, y mae ganddo weithwyr ieuenctid ar draws Cymru erbyn hyn, yn mynd i’r afael â’r ffaith bod pobl ifanc yn tanadrodd am droseddau.  Trwy ei wefan, gall pobl ifanc gyfleu gwybodaeth am unrhyw droseddau y maent wedi bod yn dyst iddynt i Fearless mewn ffordd hollol ddienw a diogel.

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cenedlaethol Cymru elusen Crimestoppers:  “Gall pobl ifanc gael cyswllt gyda gangiau troseddol ond yn aml, ni fyddant yn ymwybodol o’r ffaith eu bod yn destun camfanteisio neu ni fyddant yn teimlo’n hyderus i geisio help.”
“Byddwn yn defnyddio’r ffilm i gychwyn sgwrs gyda phobl ifanc – yn arbennig trwy beidio glamoreiddio gangiau cyffuriau a thrwy herio unrhyw gamdybiaethau ynghylch cario cyllyll.  Trwy ein prosiect Fearless, mawr obeithiwn y gallwn rymuso pobl ifanc i fod yn ymwybodol o’r materion, i deimlo’n fwy diogel ac i deimlo’n hyderus i adrodd am droseddau – gan gynnwys y dewis o ddefnyddio Fearless.org mewn ffordd ddienw”
Hon yw’r ail ffilm a gynhyrchwyd gan gwmni cynhyrchu It’s My Shout o Ben-coed.  Lansiwyd y ffilm gyntaf, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â’r rhaglen ar y cyd rhwng ysgolion a’r heddlu, yn 2017.  Roedd ‘Are you Fearless?’, sydd ar gael ar safle YouTube ‘FearlessORG’, yn annog pobl ifanc i adnabod troseddau ac i adrodd amdanynt.

I gael gwybod mwy am brosiect Fearless, trowch at Fearless.org.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle