New chemical engineering dual degree brings world of opportunity to students

0
573

Students will be able to take advantage of learning on both sides of the Atlantic as a pioneering partnership between Swansea University and colleagues at Trent University in Canada is extended.

The latest collaboration between the two institutions follows on from the development of a dual Law degree – which welcomes its first cohort of students in September – and will open up opportunities in the fields of Science and Engineering.

It sees students spending two years of their first degree at the Ontario university before coming to Wales to study Chemical Engineering and going on to graduate with both a BSc from Trent and a BEng from Swansea University.

Swansea University’s academic lead on the project, Professor Cris Arnold, from the College of Engineering, explained that the dual degree agreement offered exciting opportunities for students.

He said: “As far as we are aware, this degree is unique. The aim of this programme is to produce qualified engineers who are also scientists with international experience.

“Not only will the students travel, live and study for a significant period in another country but they will also have the opportunity of undertaking placements which will contribute towards professional engineer status in Canada.”

Professor Arnold said the BEng from Swansea is accredited by the Institution of Chemical Engineers and this would apply to the graduates from the scheme.

He added:Our colleagues at Trent now hope to recruit 20 students and there has already been significant interest in the course.”

Trent, which currently has more than 8,000 students, is listed among the top 3.4 per cent of universities in the world and is Canada’s top ranked university for scholarships and bursaries.

Dr Leo Groarke, President and Vice Chancellor of Trent University, said: “It’s exciting to be building upon our strong partnership with Swansea University and together creating opportunities that provide students interested in engineering with the ability to take on a dual degree while enhancing their education with a global experience.

“This innovative new programme is another example that showcases Trent’s commitment to providing students with significant, meaningful educational experiences that go beyond the ordinary in preparing them for success.”

The link between the Canadian university and Swansea was first established in 1988 by the School of Business as a student exchange link and since 2009 12 students have gone on to benefit from the exchange programme.

In 2016 Swansea’s School of Law expanded the relationship by teaming up with Trent to offer a dual BA/BBA LLB degree and the first cohort of about 22 students will be welcomed to Swansea in September.

The collaboration with Trent is just one of many already established by the university with academic institutions and businesses across the world.

Bernadette Stratford, of the Academic Partnership Directorate which oversees the relationships and a Trent alumna herself, said: We aim to bring together institutions and organisations to create and develop innovative international programmes, collaborations and strategic partnerships with world-class universities to benefit our students.” 

 

Gradd Peirianneg Gemegol ddeuol newydd yn cynnig byd llawn cyfle i fyfyrwyr

Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar ddysgu ar ddwy ochr yr Iwerydd wrth i bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Abertawe a chydweithwyr ym Mhrifysgol Trent, Canada, gael ei hymestyn.

Mae’r cydweithrediad diweddaraf rhwng y ddau sefydliad yn dilyn gradd ddeuol yn y Gyfraith – a fydd yn croesawu ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi – ac a fydd yn agor cyfleoedd ym meysydd Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd o’u gradd gyntaf ym Mhrifysgol Ontario cyn dod i Gymru i astudio Peirianneg Gemegol ac yna byddant yn mynd ymlaen i raddio gyda gradd BSc o Trent a gradd BEng o Brifysgol Abertawe .

Esboniodd arweinydd academaidd y Prosiect ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Chris Arnold, o’r Coleg Peirianneg, fod y cytundeb gradd ddeuol yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr.

Meddai: “Hyd y gwyddwn, mae’r radd hon yn unigryw.  Nod y rhaglen hon yw creu peirianwyr cymwys sydd hefyd yn wyddonwyr gyda phrofiad rhyngwladol.

 “Yn ogystal â theithio, byw ac astudio am gyfnod sylweddol mewn gwlad arall, caiff y myfyrwyr gyfle i fwynhau lleoliadau gwaith a fydd yn cyfrannu at statws peiriannydd proffesiynol yng Nghanada.”

 Meddai’r Athro Arnold fod yBEng o Abertawe wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol ac y byddai hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sy’n graddio o’r cynllun.

Ychwanegodd:“Mae ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Trent bellach yn awyddus i recriwtio 20 o fyfyrwyr a gwelwyd cryn ddiddordeb yn y cwrs eisoes.”

A hithau wedi’i rhestru ymhlith y 3.4 y cant o brifysgolion gorau yn y byd, mae gan Brifysgol Trent 8,000 o fyfyrwyr ar hyn o bryd ac mae yn y safle uchaf yng Nghanada ar gyfer bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Meddai Dr Leo Groarke, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Trent: “Mae’n gyffrous ein bod wrthi’n adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda Phrifysgol Abertawe ac rydym yn gweithio ar y cyd i greu cyfleoedd sy’n galluogi myfyrwyr â diddordeb mewn peirianneg i wneud gradd ddeuol wrth gyfoethogi eu haddysg gyda phrofiad byd-eang.

“Mae’r rhaglen arloesol newydd hon yn enghraifft arall sy’n dangos ymrwymiad Trent i ddarparu profiadau addysgol arwyddocaol ac ystyrlon i fyfyrwyr. Mae’r profiadau hyn yn mynd y tu hwnt i brofiadau arferol ac yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant.”

Sefydlwyd y cysylltiad rhwng y Brifysgol yng Nghanada ac Abertawe am y tro cyntaf ym 1988 gan yr Ysgol Fusnes fel cysylltiad ar gyfer cynlluniau cyfnewid myfyrwyr ac ers 2009 mae 12 o fyfyrwyr wedi manteisio ar y rhaglen gyfnewid.

Yn 2016 ehangodd Ysgol y Gyfraith Abertawe’r berthynas drwy ymuno â Phrifysgol Trent i gynnig gradd ddeuol BA/BBA LLB a chroesewir y garfan gyntaf o oddeutu 22 o fyfyrwyr i Abertawe ym mis Medi.

Mae’r cydweithrediad â Phrifysgol Trent yn un o sawl cydweithrediad a sefydlwyd gan y Brifysgol gyda sefydliadau academaidd a busnesau ledled y byd.

Meddai BernadetteStratford, o’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd sy’n goruchwylio’r perthnasoedd: “Ein nod yw dod â sefydliadau ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol, cydweithrediadau a phartneriaethau strategol gyda phrifysgolion o safon fyd-eang er budd ein myfyrwyr.”

 

Print

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle