Hywel Dda University Health Board and its partners are celebrating a year since the publication of A Healthier Wales – a Welsh Government plan to make it easier for the NHS and social care to work together and with others, to help people stay healthy and independent for as long as possible.
The Regional Partnership Board, which includes health board, local authority and third sector representation, has received £12 million from the national Transformation Fund. The money will be used to support three ambitious programmes focusing on proactive, technology-enabled care for people in their homes; further integration of health and care within localities and; supporting people to remain independent and fulfilled through enhancing volunteering opportunities and developing grass-routes support within different communities. Delivery of these exciting programmes will commence across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire in the coming months, with a commitment to engage with individuals and local communities in bringing the change about.
These initiatives will complement three transformation programmes being launched by the health board this week to support delivery of its own health and care strategy A Healthier Mid and Wales, aligning with A Healthier Wales principles and objectives. The programmes are:
- Transforming Our Communities
- Transforming Our Hospitals
- Transforming Mental Health and Learning Disabilities
The launch will take place at Llandybie Hall on Friday June 14, at a workshop for staff and stakeholders. The workshop will involve exercises and feedback which will inform the development of the three programmes of work in order to achieve the shared vision for people in our communities to live joyful, healthy and purposeful lives with a strong sense of belonging.
This forms a part of the continuous engagement the health board is undertaking as it works towards delivering the strategy following consultation last year. Further staff, public and stakeholder drop-in events on specific topics will continue to be held across the region as the year one priorities are determined.
A web resource – www.hywelddahb.wales.nhs.uk/healthiermidandwestwales has also been launched so our communities can access information on the bilingual health and care strategy, including alternative versions such as animation, BSL, audio youth, Easy Read and other languages.
Chief Executive Steve Moore said: “One year on from the launch of A Healthier Wales, we are delighted to be working collaboratively with a range of partners on delivering more joined up and innovative care and support for our population. Thanks to this funding, we are now ready to scale up and look at even more transformational change, working with our communities, in the areas of integration, community connections and resilience and technology enabled care. We look forward to sharing our progress in this as this work gets underway. We are also pleased to be launching three programmes of work to support the health board’s health and care strategy – A Healthier Mid and West Wales. This will sit alongside our projects through the Regional Partnership Board, placing us at the cusp of a dramatic, once in a generation shift in how we provide care and support in this part of Wales.”
Health Minister, Vaughan Gething said: “A year ago we launched A Healthier Wales, the Welsh Government’s long-term plan to transform the way we deliver health and social care. I am pleased we’ve already allocated more than £80m of the £100m Transformation Fund to back projects which can eventually be scaled-up to deliver the vision set-out in A Healthier Wales.
A Healthier Wales is the first time we’ve set out a shared plan for health and social care, which emphasises the importance of these services working seamlessly together. In order to meet the demands of the future we need to radically change the way services are delivered. We need to move away from healthcare which focuses on treating people when they become unwell, to one that supports people to stay well, lead healthier lifestyles and live independently for as long as possible.”
Prosiectau Trawsnewid i arwain at Ganolbarth a Gorllewin Iachach
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i bartneriaid yn dathlu blwyddyn ers cyhoeddi Cymru Iachach – cynllun gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn haws i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd a gydag eraill, i helpu pobl i gadw’n iach ac yn annibynnol am gyn hired â phosib.
Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n cynnwys cynrychiolaeth bwrdd iechyd, awdurdod lleol a thrydydd sector, wedi cael £12 miliwn o’r Gronfa Drawsnewid genedlaethol. Defnyddir yr arian i gefnogi tair rhaglen uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ofal rhagweithiol sydd wedi’i alluogi gan dechnoleg ar gyfer pobl yn eu cartrefi; integreiddio iechyd a gofal ymhellach o fewn ardaloedd a; cefnogi pobl i aros yn annibynnol ac yn fodlon trwy wella cyfleoedd gwirfoddoli a datblygu cefnogaeth sylfaenol o fewn gwahanol gymunedau. Bydd y gwaith o gyflwyno’r rhaglenni cyffrous hyn yn dechrau ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn y misoedd nesaf, gydag ymrwymiad i ymgysylltu gydag unigolion a chymunedau yn lleol.
Bydd y mentrau hyn yn ategu tair rhaglen drawsnewid sy’n cael eu lansio gan y bwrdd iechyd yr wythnos hon i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein strategaeth iechyd a gofal ein hun sef Canolbarth a Gorllewin Iachach, gan alinio ag egwyddorion ac amcanion Cymru Iachach. Y rhaglenni yw:
- Trawsnewid ein Cymunedau
- Trawsnewid ein Hysbytai
- Trawsnewid Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
Cynhelir y lansiad yn Neuadd Llandybie ddydd Gwener 14 Mehefin, mewn gweithdy ar gyfer staff a rhanddeiliaid. Bydd y gweithdy’n cynnwys ymarferion ac adborth a fydd yn hysbysu datblygiad y tair rhaglen wait her mwyn cyflawni’r weledigaeth gyffredin o weld pawb yn ein cymunedau’n byw bywydau iach, llawen a phwrpasol gydag ymdeimlad o berthyn.
Mae hyn yn rhan o ymgysylltu parhaus y mae’r bwrdd iechyd yn ei wneud wrth iddo weithio tuag at gyflawni’r Strategaeth yn dilyn ymgynghoriad y llynedd. Bydd digwyddiadau galw-heibio ar bynciau penodol yn parhau i gael eu cynnal ar gyfer staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth wrth i flaenoriaethau ar gyfer blwyddyn un gael eu pennu.
Lansiwyd adnodd ar y we hefyd – www.bihyweldda.wales.nhs.uk/canolbarthagorllewiniachach fel bod ein cymunedau’n gallu cael mynediad at wybodaeth ar y strategaeth iechyd a gofal dwyieithog, gan gynnwys fersiynau amgen megis animeiddio, Iaith Arwyddion Prydain, sain i ieuenctid, Hawdd ei Ddeall ac ieithoedd eraill.
Meddai’r Prif Weithredwr, Steve Moore: “Flwyddyn ar ôl lansio Cymru Iachach, rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid ar ddarparu gofal a chymorth mwy cydlynol ac arloesol i’n poblogaeth. Diolch i’r cyllid hwn, rydym bellach yn barod i edrych ar hyd yn oed mwy o newidiadau trawsnewidiol, gan weithio gyda’n cymunedau, ym meysydd integreiddio, cysylltiadau cymunedol a gwytnwch a gofal wedi’i alluogi gan dechnoleg. Edrychwn ymlaen at rannu ein cynnydd wrth i’r gwaith hwn ddechrau. Rydym hefyd yn falch o lansio tair rhaglen waith i gefnogi strategaeth iechyd a gofal y bwrdd iechyd – Canolbarth a Gorllewin Iachach. Bydd hyn yn eistedd ochr yn ochr â’n prosiectau trwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gan ein gosod ar drothwy newid dramatig, unwaith mewn cenhedlaeth, yn y ffordd yr ydym yn darparu gofal a chymorth yn y rhan hon o Gymru.”
Meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Flwyddyn yn ôl lansiwyd Cymru Iachach, cynllun hir-dymor Llywodraeth Cymru i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n falch ein bod eisoes wedi dyrannu mwy nag £80m o’r Gronfa Drawsnewid £100m i gefnogi prosiectau y gellir eu tyfu’n y pen draw i gyflawni gweledigaeth Cymru Iachach.
Cymru Iachach yw’r tro cyntaf i ni osod cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cyd-weithio di-dor rhwng y gwasanaethau hyn. Er mwyn diwallu gofynion y dyfodol, mae angen i ni newid yn sylweddol y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae angen i ni symud i ffwrdd o ofal iechyd sy’n canolbwyntio ar drin pobl pan maen nhw’n sâl, at ofal iechyd sy’n cefnogi pobl i gadw’n iach, i fyw bywydau iachach ac i fyw’n annibynnol gyn hired â phosib.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle