Your views sought on local trauma care / Ceisio eich barn ar ofal trawma yn lleol

0
503

People in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire are being asked for their views on how support and care for people with, or recovering from, major injuries or major trauma is delivered.

Last year, health boards across Wales, agreed with a recommendation to develop a major trauma network for South and West Wales and South Powys, with a Major Trauma Centre at the University Hospital of Wales, Cardiff. This followed recommendations by a panel of expert clinicians and a Wales-wide public consultation.

Hywel Dda University Health Board now needs to designate a local Trauma Unit which will provide care for moderate trauma. The proposal is to designate Glangwili Hospital, Carmarthen, in the years leading up to the building a new Urgent and Planned Care Hospital in the south of the Hywel Dda area.

This is because it is the closest local hospital to meeting national trauma standards with on-site, on-call for surgical specialties, access to an emergency medicine consultant and paediatrics 24/7, plus 24/7 staffing for theatres and a dedicated trauma and orthopaedic theatre most days of the week.

Current trauma and emergency services at Bronglais Hospital, Aberystwyth, and Withybush Hospital, Haverfordwest, would not be downgraded on the basis of this proposal. They would continue to deal with less severe traumatic injury and retain the ability to stabilise and transfer patients with moderate or severe trauma to Glangwili Hospital, or the Major Trauma Centre, Cardiff.

The health board says it would need to strengthen trauma services at the three hospitals currently providing trauma care.

For example, there would need to be an increase in access to physiotherapy, occupational therapy and rehabilitation consultants and psychologists at Glangwili Hospital, as well as increased operating time. The strategic importance of Bronglais and Withybush hospitals in serving remote and rural populations is also recognised, and there would be a need for 24/7 support response from the national trauma desk, including telemedicine from an expert in acute trauma, a policy to support the hospital teams to be prepared to receive and stabilise major or moderate trauma and ongoing education and training for different professional staff.

The health board has had assurances that Wales Air Ambulance Charity and the consultant-led Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS or ‘flying medics’) will benefit from becoming 24/7 services, instead of the current 12 hours.

Dr Stuart Gill Anaesthetics Consultant and Major Trauma Clinical Lead for Hywel Dda University Health Board said: “The opportunity for us to designate one of our hospitals as a Trauma Unit and for our acute hospitals to benefit from the support of the trauma network will significantly improve the service for our local patients and provide a greater level of support for doctors, nurses and allied health care professionals.

“Improving timely access to specialist care through the network and expansion of Wales Air Ambulance Charity and EMRTS to 24/7 services will save more lives and improve outcomes for major trauma patients such as less long-term disability, less need for long-term NHS care and more support for patients to be able to return to their lives and work and do the things they love.”

Hywel Dda University Health Board’s Executive Director for Planning, Performance and Commissioning Karen Miles added: “We are looking forward to talking further with our staff and communities about the proposal and to hear people’s views and answer any questions. We are particularly keen to hear about what people feel we need to consider, what good rehabilitation should look like and whether there would be any positive or negative affects to individuals or groups of people from the proposal.”

Further information and an online survey link will be available from a web resource from the launch of six weeks of engagement on Monday June 24, running until Monday August 5. This can be accessed at www.hywelddahb.wales.nhs.uk/TraumaServices

Alternatively, if you need to contact the health board, you can email Hyweldda.engagement@wales.nhs.uk or phone 01554 899056 (you can leave a message on the answerphone and request a call back so you do not have to pay for the call).

Drop-in events will be held as follows and a date for an online Facebook event will be advertised shortly.

24 June 2019 3pm – 6pm Post Graduate Lecture Theatre, Prince Philip Hospital, LLANELLI SA14 8QF
11th July 2019 3pm – 6pm Pembrokeshire Archives, HAVERFORDWEST SA61 2PE
18 July 2019

 

3pm – 6pm Mudiad Ysgolion Meithrin,

Boulevard de Saint-Brieuc,

ABERYSTWYTH

SY23 1PD
Carmarthen event to be organised and date confirmed

 

What would happen to me if I suffered traumatic injuries?
Fewer than two out of every 1,000 people attending their local Emergency Department will suffer major trauma. For Hywel Dda UHB, it is estimated approximately 80 people each year will suffer major trauma that will benefit from care at the Major Trauma Centre. If major injuries are suspected, depending on the severity, your care will ultimately be provided at:

  • The Rural Trauma Facility (the nearest hospital with an Emergency Department such as Bronglais or Withybush hospitals) for mild trauma – for example, a trip or fall at ground level, which may lead to a less complex isolated fracture (for example ankle, wrist or hip); or on occasion, help to stabilise and transfer moderate or severe trauma to the Major Trauma Centre or Trauma Unit
  • The Trauma Unit (proposed to be Glangwili Hospital) if it is moderate trauma – for example, multiple limb fractures arising from a fall at height but no brain, spinal or significant torso injury
  • The Major Trauma Centre (University Hospital of Wales, in Cardiff) if it is severe major trauma with multiple injuries which require specialist care – for example, brain and spine injuries; or multiple injuries to chest, abdomen or pelvis, arising from a road traffic accident for instance

Where possible, the Welsh Ambulance Services NHS Trust will aim to take you directly to the most appropriate hospital from the scene of your accident.

Some patients need higher levels of medical care to ensure they survive their transfer to specialist services. The consultant-led Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS) supports the Welsh Ambulance Services NHS Trust via the Wales Air Ambulance Charity helicopter and response cars. EMRTS can provide the same level of care as an Accident and Emergency Department at the scene of an accident. Assurances have been given that the service will be extended from 12 hours a day to 24.

If EMRTS/Wales Air Ambulance Charity is not able to get to you soon after having your accident and if you need immediate life-saving treatment that requires more skills than an Ambulance Paramedic has, you will be taken to the nearest most appropriate Accident and Emergency Department. Where possible this will be a Trauma Unit, but local hospitals with Emergency Departments will remain equipped to provide this service when needed.

Read our discussion document on trauma services available from June 24 www.hywelddahb.wales.nhs.uk/TraumaServices to read a story using a Teulu Jones family member to describe what trauma care looks like now and what it could look like in the future.

———————————————————————————-

Gofynnir i bobl yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro am eu barn ar ddarpariaeth cefnogaeth a gofal ar gyfer pobl sydd ag anafiadau mawr neu drawma mawr, neu sy’n gwella ohonynt.

Y llynedd, cytunodd byrddau iechyd Cymru ag argymhelliad i ddatblygu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer y De a’r Gorllewin a de Powys, gyda Chanolfan Trawma Mawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd hyn yn dilyn argymhellion gan banel o glinigwyr arbenigol ac ymgynghoriad cyhoeddus ledled Cymru.

Nawr, mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddynodi Uned Drawma leol a fydd yn darparu gofal ar gyfer trawma cymedrol. Y cynnig yw dynodi Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, yn y blynyddoedd cyn adeiladu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Drefnu newydd yn ne ardal Hywel Dda.

Cynigir Glangwili oherwydd dyma’r ysbyty lleol sy’n bodloni’r nifer fwyaf o’r safonau trawma cenedlaethol, gydag arbenigeddau llawfeddygol ar-alw 24/7 ar y safle, mynediad 24/7 at ymgynghorydd meddygaeth frys a phediatrig, staffio theatrau 24/7 a theatr trawma ac orthopedeg penodol y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos.

Ar sail y cynnig hwn, ni fydd y gwasanaethau trawma a brys presennol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn cael eu hisraddio.  Byddant yn parhau i ddelio ag anafiadau trawmatig llai difrifol ac yn cynnal y gallu i sefydlogi a throsglwyddo cleifion â thrawma cymedrol neu ddifrifol i Ysbyty Glangwili, neu’r Ganolfan Trawma Mawr yng Nghaerdydd.

Dywed y bwrdd iechyd y byddai angen iddo gryfhau gwasanaethau trawma yn y tri ysbyty sy’n darparu gofal trawma yn bresennol.

Er enghraifft, byddai angen cynnydd mewn mynediad at ymgynghorwyr adsefydlu, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a seicolegwyr yn Ysbyty Glangwili, yn ogystal â mwy o amser ar gyfer cynnal llawdriniaethau. Cydnabyddir pwysigrwydd strategol ysbytai Bronglais a Llwynhelyg o ran gwasanaethu poblogaethau anghysbell a gwledig, a byddai angen ymateb cefnogaeth 24/7 gan y ddesg trawma genedlaethol, yn cynnwys telefeddygaeth gan arbenigwr mewn trawma acíwt, polisi i gefnogi timau ysbyty i fod yn barod i dderbyn a sefydlogi cleifion trawma mawr neu gymedrol ac addysg ac hyfforddiant parhaus ar gyfer staff proffesiynol amrywiol.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cael sicrwydd y byddai Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS neu ‘meddygon awyr’) dan arweiniad ymgynghorol, yn elwa o ddod yn wasanaethau 24/7, yn hytrach na’r 12 awr y dydd presennol.

Meddai Dr Stuart Gill, Ymgynghorydd Anestheteg a Arweinydd Clinigol Drawma Mawr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y cyfle i ni i ddynodi un o’n hysbytai fel Uned Drawma ac i’n hysbytai acíwt elwa o gefnogaeth y rhwydwaith trawma, yn gwella’r gwasanaeth ar gyfer ein cleifion lleol yn sylweddol ac yn darparu lefel uwch o gymorth i feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd perthynol.

“Bydd gwella mynediad amserol at ofal arbenigol trwy’r rhwydwaith ac ehangiad Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS i fod yn wasanaethau 24/7, yn achub mwy o fywydau ac yn gwella canlyniadau cleifion trawma mawr, megis llai o anabledd hir-dymor, llai o angen am ofal GIG hir-dymor a mwy o gefnogaeth i gleifion allu dychwelyd i’w bywyd a’u gwaith ac i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau.”

Ychwanegodd Karen Miles, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn edrych ymlaen at siarad ymhellach gyda’n staff a’n cymunedau am y cynnig ac i glywed barn pobl ac ateb eu cwestiynau. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am yr hyn y mae pobl yn teimlo y dylem ystyried, beth yw adsefydlu da ac a fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol i unigolion neu grwpiau o bobl.”

Bydd gwybodaeth bellach a dolen i arolwg ar-lein ar gael o adnodd gwe o lansiad yr ymgynghoriad chwe wythnos ar ddydd Llun 24 Mehefin tan ddydd Llun 5 Awst. Trowch at www.bihyweldda.wales.nhs.uk/GwasanaethauTrawma

Fel arall, os oes angen i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd, ebostiwch Hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01554 899056 (mae croeso i chi adael neges ar y peiriant ateb yn gofyn i rywun eich ffonio’n ôl fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad).

Cynhelir digwyddiadau galw-heibio fel â ganlyn a bydd dyddiad ar gyfer digwyddiad ar Facebook yn cael ei hysbysebu cyn bo hir.

 

24 Mehefin 2019 3pm – 6pm Darlithfa Ôl-raddedigion, Ysbyty Tywysog Philip, LLANELLI SA14 8QF
11 Gorffennaf 2019 3pm – 6pm Archifdy Sir Benfro, HWLFFORDD SA61 2PE
18 Gorffennaf 2019

 

3pm – 6pm Mudiad Ysgolion Meithrin,

Boulevard de Saint-Brieuc,

ABERYSTWYTH

SY23 1PD

 Digwyddiad Caerfyrddin i’w drefnu – dyddiad i ddilyn

Beth fyddai’n digwydd i mi pe bawn i’n dioddef anafiadau trawmatig?
Mae llai na dau berson ym mhob mil sy’n mynychu Adran Achosion Brys lleol yn dioddef trawma mawr. Yn BIP Hywel Dda, rydym yn amcangyfrif y bydd tua 80 person y flwyddyn yn dioddef trawma mawr a fyddai’n elwa o ofal yn y Ganolfan Trawma Mawr. Os amheuir anafiadau mawr – yn dibynnu ar y difrifoldeb – bydd eich gofal yn cael ei ddarparu yn y pen draw yn:

  • Y Cyfleuster Trawma Gwledig (yr ysbyty agosaf sydd ag Uned Achosion Brys megis ysbytai Bronglais a Llwynhelyg) os ydyw’n drawma ysgafn – er enghraifft, baglu neu gwympo ar lefel daear, a allai arwain at dor-asgwrn unigol llai cymhleth (er enghraifft pigwrn, arddwrn neu clun); neu weithiau, help i sefydlogi a throsglwyddo trawma cymedrol neu ddifrifol i’r Ganolfan Trawma Mawr neu’r Uned Drawma
  • Yr Uned Drawma (Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn arfaethedig), os ydyw’n drawma cymedrol – er enghraifft, tor-asgwrn lluosog i goesau a breichiau yn deillio o gwymp o uchder ond heb anaf i’r ymenydd a’r asgwrn cefn nac anaf sylweddol i’r torso
  • Y Ganolfan Trawma Mawr (Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd), os ydyw’n drawma mawr difrifol gydag anafiadau lluosog sy’n gofyn am ofal arbenigol – er enghraifft, anafiadau i’r ymennydd a’r asgwrn cefn; neu anafiadau lluosog i’r frest, yr abdomen neu’r pelfis, yn deillio o ddamwain traffig ar y ffordd er enghraifft.

Lle bo modd, bydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ceisio mynd â chi’n syth i’r ysbyty mwyaf priodol o leoliad eich damwain.

Mae angen lefelau uwch o ofal meddygol ar rai cleifion i sicrhau eu bod yn goroesi eu trosglwyddiad i wasanaethau arbenigol. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) dan arweiniad ymgynghorydd yn cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru trwy’r ddefnydd o hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru a cheir ymateb. Gall EMRTS ddarparu’r un lefel o ofal ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn y fan a’r lle pan mae damwain. Rhoddwyd sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn o 12 awr y dydd i 24 awr y dydd.

Os na all EMRTS eich cyrraedd yn fuan wedi eich damwain a bod angen triniaeth achub bywyd ar unwaith sy’n gofyn am fwy o sgiliau na sydd gan Barafeddyg Ambiwlans, cewch eich cludo i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys mwyaf priodol agosaf. Lle bo modd, Uned Drawma bydd hwn, ond bydd ysbytai lleol sydd ag Adrannau Achosion Brys yn dal i allu darparu’r gwasanaeth hwn pan fo angen.

Darllenwch ein dogfen drafod ar wasanaethau trawma, sydd ar gael o 24 Mehefin www.bihyweldda.wales.nhs.uk/Gwasanaethau Trawma lle mae stori am aelod o’r Teulu Jones sy’n disgrifio gofal trawma nawr a’r hyn allai fod yn y dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle