Pembrokeshire Coast project in exciting UK partnership launch

0
607

Five of the UK’s National Parks, including the Pembrokeshire Coast, are running major conservation projects as part of an exciting new partnership launched this week between the National Parks and Clif Bar.

These projects, under the new National Parks Protectors Fund, are funded by Clif Bar, which has a long history of supporting environmental schemes in the USA and Canada. However, this is the first time the company – which sells a range of energy bars for active lifestyles – has worked in the UK.

In the Pembrokeshire Coast National Park the pilot project – entitled ‘Paths, Pollinators and People’ which involves the creation of a new Pollinator Warden role, aims to enhance the biodiversity alongside a lengthy section of the Pembrokeshire Coast Path, from Newgale to Abereiddi.

This project is the first step towards a longer-term aim of maintaining the Pembrokeshire Coast Path in a way that improves biodiversity and wildlife interest for visitors, whilst at the same time ensuring its quality as a National Trail.

The Pembrokeshire Coast is the only Welsh National Park to have a Clif Bar supported project but all 15 UK Parks will benefit. Those not running a special project will receive a smaller grant to support their choice of conservation work during the year.

Tegryn Jones, Chief Executive of the Pembrokeshire Coast National Park, said: “The Pembrokeshire Coast Path is one of the world’s finest long-distance walking routes, attracting one million visitors every year. The support of Clif Bar will make a vital contribution to improving the biodiversity of such an iconic stretch of the Coast Path.”

Catherine Hawkins, Chair of National Parks Partnerships, said: “Clif Bar is really stepping up to help the UK National Parks to protect and conserve their precious landscapes. The National Parks work year-round on projects that protect and conserve important habitats and wildlife. But with so much work to do, we need the support of partners like Clif Bar to help protect these landscapes for now and the future.”

David Smith, Senior Marketing Manager at Clif Bar Europe, added: “Clif Bar is a purpose-led company committed to sustaining five bottom lines. These are our Five Aspirations – sustaining our business, brands, people, community and planet. Our partnership with the UK National Parks truly embodies these aspirations by supporting the communities we live in and the planet we share. We are confident that the projects supported through the UK National Parks Protectors Fund will help ensure that these outstanding landscapes we are so lucky to share with nature are available for generations to visit and enjoy.”

For further information please contact Lisa Sensier, National Parks Partnerships lisa.sensier@nationalparks.co.uk  07767 885824

Prosiect Arfordir Penfro mewn lansiad partneriaeth cyffrous

 Mae pump o Barciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Arfordir Penfro, yn cynnal prosiectau cadwraeth cyffrous fel rhan o bartneriaeth newydd gyffrous a lansiwyd yr wythnos hon rhwng y Parciau Cenedlaethol a Clif Bar.

Mae’r prosiectau hyn, o dan Gronfa Amddiffynwyr newydd y Parciau Cenedlaethol, yn cael eu hariannu gan Clif Bar, sydd â hanes hir o gefnogi cynlluniau amgylcheddol yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf y mae’r cwmni – sy’n gwerthu amryw o farrau egni ar gyfer ffyrdd egnïol o fyw – wedi gweithio yn y DU.

Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, nod y prosiect peilot – o dan y teitl ‘Llwybrau, Peillwyr a Phobl’, sy’n cynnwys creu rôl newydd i Warden Peillwyr – yw cynyddu bioamrywiaeth ar hyd darn hir o Lwybr Arfordir Penfro, o Niwgwl i Abereiddi.

Y prosiect hwn yw’r cam cyntaf tuag at nod tymor hwy o gynnal a chadw Llwybr Arfordir Penfro mewn ffordd sy’n gwella bioamrywiaeth a’r diddordeb o ran bywyd gwyllt i ymwelwyr. Ar yr un pryd, bydd yn sicrhau bod ansawdd y llwybr fel Llwybr Cenedlaethol yn cael ei gynnal.

Arfordir Penfro yw’r unig Barc Cenedlaethol yn Nghymru sydd â phrosiect a noddir gan Clif Bar, ond bydd y 15 Parc yn y DU yn elwa. Bydd y rhai nad ydyn nhw’n rhedeg prosiect arbennig yn cael grant llai i gefnogi gwaith cadwraeth o’u dewis nhw yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Llwybr Arfordir Penfro yw un o lwybrau cerdded hir gorau’r byd, yn denu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd cefnogaeth Clif Bar yn gyfraniad hollbwysig tuag at wella bioamrywiaeth darn mor eiconig o Lwybr yr Arfordir.”

Dywedodd Catherine Hawkins, Cadeirydd Partneriaethau’r Parciau Cenedlaethol: “Mae Clif Bar yn bwrw iddi o ddifrif i helpu Parciau Cenedlaethol y DU i amddiffyn a chadw eu tirweddau gwerthfawr. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gweithio gydol y flwyddyn ar brosiectau sy’n amddiffyn a chadw cynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig. Ond gyda chymaint o waith i’w wneud, mae angen cefnogaeth partneriaid fel Clif Bar arnom i helpu i amddiffyn y tirweddau hyn yn awr ac i’r dyfodol.”

Ychwanegodd David Smith, Uwch Reolwr Marchnata gyda Clif Bar Ewrop: “Mae Clif Bar yn gwmni yn cael ei arwain gan bwrpasau, sydd wedi ymrwymo i gynnal pum egwyddor. Dyma ein Pum Dyhead – cynnal ein busnes, brandiau, pobl, y gymuned a’r blaned. Mae ein partneriaeth gyda Pharciau Cenedlaethol y DU yn ymgorffori’r dyheadau hyn drwy gefnogi’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddynt a’r blaned rydyn ni’n ei rhannu. Rydym yn hyderus y bydd y prosiectau sy’n cael cefnogaeth drwy Gronfa Amddiffynwyr Parciau Cenedlaethol y DU yn helpu i sicrhau bod y tirweddau eithriadol hyn rydyn ni mor lwcus i’w rhannu gyda natur ar gael am genedlaethau, i ymweld â nhw a’u mwynhau.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Lisa Sensier, Partneriaethau’r Parciau Cenedlaethol lisa.sensier@nationalparks.co.uk  07767 885824


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle