Crimestoppers vows to keep up the fight against ‘County Lines’

0
607

The charity Crimestoppers is today launching a fresh campaign across Dyfed Powys to highlight the issue of ‘County Lines’ drug gangs and is asking for your help by reporting any information about this criminal activity anonymously.

County Lines commonly involves drug dealers expanding their business by supplying drugs from urban to rural areas across the country using dedicated mobile phone lines. Vulnerable drug users and young people are targeted with the promise of gifts and cash, but instead are used and abused to support a network of organised crime. The gangs can move into new areas for a short time, taking over the home of a vulnerable adult and exploiting children to act as drug runners, using intimidation, violence and weapons.

After a successful campaign last year, the charity is running a new series of digital adverts throughout Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion and Powys, aimed at giving you more information on this crime and how you can help by reporting to Crimestoppers charity anonymously.

Crimestoppers is encouraging landlords, letting agents and those running hotel and guest accommodation, including Airbnb hosts, to be alert to County Lines gangs. Advice from the Home Office working in conjunction with Crimestoppers, says signs to spot about potential tenants involved in County Lines, may include:

  • Offers to pay upfront in cash
  • Appears affluent but wants to rent an inexpensive property
  • Unable to provide landlord or employment references
  • Prefers to pay rent in cash without good justification
  • Prevents you from inspecting your property when given reasonable notice

Ella Rabaiotti, Crimestoppers Wales Manager, said:

“Whilst Dyfed Powys is one of the safest places to live in the UK, we are not complacent about the broad and determined reach of organised crime across rural areas. Our relentless campaign activity against County Lines gangs is so important because as one organised crime group is identified, another will try and take its place.”

“We’re helping to make Dyfed Powys a hostile place to County Lines and organised crime. Your information can help put a stop the exploitation and damage these criminals inflict on our residents and communities.”

“We are asking you to contact us anonymously and safely through our 0800 555 111 number, or via our secure online form at Crimestoppers-uk.org – both methods are 100% anonymous. Always. Together we can stop the harm.”

If you have any information on those from cities who have recently travelled or moved into an area to set up a drugs network, those who are exploiting vulnerable children and adults and who may be using violence or abuse to carry out their activities, Crimestoppers is here to take your information. You can contact us anonymously on 0800 555 111 or can send an untraceable online form at Crimestoppers-uk.org.

More details about this campaign can be found here.

Crimestoppers yn addo dal ati er mwyn trechu ‘Llinellau Sirol’

Heddiw, mae elusen Crimestoppers yn lansio ymgyrch newydd ar draws ardal Dyfed Powys er mwyn amlygu problem gangiau cyffuriau ‘Llinellau Sirol’ ac mae’n gofyn am eich help chi ac yn gofyn i chi adrodd unrhyw wybodaeth am y gweithgarwch troseddol hwn mewn ffordd ddienw.

Fel arfer, bydd Llinellau Sirol yn cynnwys gwerthwyr cyffuriau yn ehangu eu busnes trwy gyflenwi cyffuriau o ardaloedd trefol i rai gwledig ar draws y wlad trwy ddefnyddio llinellau ffôn symudol penodedig.  Targedir pobl ifanc a defnyddwyr cyffuriau sy’n agored i niwed trwy addo rhoddion ac arian iddynt, ond yn lle hynny, cânt eu defnyddio a’u cam-drin er mwyn cynorthwyo rhwydwaith troseddu cyfundrefnol.  Gall y gangiau symud i ardaloedd newydd am gyfnod byr, gan gymryd drosodd cartref oedolyn agored i niwed a chamfanteisio ar blant trwy drefnu eu bod yn cludo cyffuriau, a thrwy fygwth a defnyddio trais ac arfau.

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y llynedd, bydd yr elusen yn cynnal cyfres newydd o hysbysebion digidol ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys, gyda’r nod o roi rhagor o wybodaeth i chi am y math hwn o droseddu a sut y gallwch chi helpu trwy adrodd amdano i Crimestoppers mewn ffordd ddienw.

Mae Crimestoppers yn annog landlordiaid, asiantau gosod a’r rhai sy’n rhedeg gwestai a llety ar gyfer gwesteion, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig llety Airbnb, i fod yn effro i gangiau Llinellau Sirol.  Mae cyngor gan y Swyddfa Gartref, sy’n cydweithio gyda Crimestoppers, yn nodi y gallai’r arwyddion er mwyn adnabod tenantiaid posibl sy’n ymwneud â Llinellau Sirol gynnwys y canlynol:

  • Cynnig talu ymlaen llaw mewn arian parod
  • Maent yn ymddangos yn gyfoethog ond maent yn dymuno rhentu eiddo rhad
  • Nid ydynt yn gallu darparu geirda gan landlordiaid na chyflogwyr
  • Mae’n well ganddynt dalu eu rhent mewn arian parod, heb gyfiawnhad da dros wneud hynny
  • Byddant yn eich atal rhag archwilio eich eiddo pan roddir rhybudd rhesymol iddynt

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Crimestoppers Cymru:

“Er mai ardal Dyfed Powys yw un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU, nid ydym yn ddi-hid am gyrhaeddiad eang a phenderfynol troseddu cyfundrefnol ar draws ardaloedd gwledig.  Mae’n gweithgarwch ymgyrchu di-baid yn erbyn gangiau Llinellau Sirol mor bwysig oherwydd wrth ddarganfod un grŵp troseddu, bydd un arall yn ceisio cymryd ei le.”

“Rydym yn helpu i sicrhau nad yw ardal Dyfed Powys yn lle cyfeillgar i Linellau Sirol a throseddu cyfundrefnol.  Gall eich gwybodaeth chi helpu i roi terfyn ar y camfanteisio a’r difrod y mae’r troseddwyr hyn yn ei wneud i’n preswylwyr a’n cymunedau.”

“Rydym yn gofyn i chi gysylltu â ni mewn ffordd ddienw a diogel trwy ddefnyddio ein rhif 0800 555 111, neu trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddiogel ar Crimestoppers-uk.org – mae’r ddau ddull yn rhai hollol dienw.  Bob tro.  Gyda’n gilydd, gallwn atal y niwed.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am bobl o’r dinasoedd sydd wedi teithio i ardal neu symud i ardal yn ddiweddar i sefydlu rhwydwaith cyffuriau, neu’r rhai sy’n camfanteisio ar blant ac oedolion agored i niwed ac y gallent fod yn defnyddio trais neu’n cam-drin er mwyn cyflawni eu gweithgareddau, mae Crimestoppers yma i gymryd eich gwybodaeth.  Gallwch gysylltu â ni yn ddienw ar 0800 555 111 neu gallwch anfon ffurflen ar-lein na ellir eich olrhain ohoni at Crimestoppers-uk.org.

Gellir gweld rhagor o fanylion am yr ymgyrch hwn yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle