The Scottish indie rockers The Fratellis and the Merseyside music legends The Coral brought Llangollen International Musical Eisteddfod 2019 to a tumultuous close.
Llangollen’s Llanfest, the finale festival of the annual International Eisteddfod, drew to a celebratory end last night (Sunday 7th July) with an immense set from joint headliners, The Fratellis and The Coral.
Diweddglo Trydanol The Fratellis yn Cloi Llanfest
Y rocwyr indie o’r Alban The Fratellis a cherddorion enwog Glannau Merswy The Coral yn dod ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019 i ben mewn steil.
Daeth Llanfest Llangollen, diwrnod olaf yr Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, i ben mewn dathliad mawr neithiwr (dydd Sul 7fed Gorffennaf) gyda pherfformiadau gwefreiddiol gan The Fratellis a The Coral.
Dyma oedd gig gyntaf y flwyddyn i’r ddau fand yng Ngogledd Cymru ac un o’r cyfleoedd cyntaf yn 2019 i gefnogwyr yn y rhanbarth eu gweld yn fyw. Heb siomi, fe lwyddodd The Fratellis a The Coral i godi to’r Pafiliwn Brenhinol wrth iddyn nhw gyflwyno ffefrynnau’r dorf.
Fe ddechreuodd y prynhawn ar lwyfannau allanol yr ŵyl, gyda pherfformiadau gan sbectrwm cyfan o fandiau cyfoes o bob cwr o Ogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Merswy a Swydd Amwythig. Yn eu mysg oedd cynrychiolwyr o’r Cavern Club, clwb cerddoriaeth fwyaf adnabyddus y byd, wnaeth ddifyrru’r gynulleidfa gyda churiadauo’r 60au a roc modern.
Y triawd pop o’r nawdegau, Dodgy, wnaeth lansio perfformiadau gyda’r nos yn y Pafiliwn, trwy hel atgofion a chyflwyno’r caneuon eiconig Staying Out for the Summer, Good Enough a If You’re Thinking of Me.
Dilynwyd nhw gan y band indie eiconig o Leeds, The Pigeon Detectives, wnaeth ddyrchafu egni’r dorf i lefel newydd gyda’r alawon enwog Take Her Back a I Found Out.
Ffrwydrodd The Coral i’r llwyfan gyda Jacqueline, gan greu awyrgylch drydanol wnaeth annog y dorf i neidio ar eu traed a chynnal y lefelau egni uchel trwy gydol y set.
Yna, fe ddaeth The Fratellis i’r llwyfan mewn ffordd hyd yn oed mwy dramatig, gan ddechrau eu rhaglen gyda Henrietta a thywys y gynulleidfa i crescendo wrth berfformio rhai o’u caneuon mwyaf enwog, gan gynnwys Whistle for the ChoiraChelsea Dagger.
Llwyddodd y ddau fand i gadw’r egni yn drydanol wrth iddyn nhw rocio y Pafiliwn Brenhinol gyda’u caneuon a chadw aelodau’r dorf ar eu traed o’r dechrau i’r diwedd.
Yn sgil newid yng nghynllun eistedd y Pafiliwn Brenhinol, gyda’r seddi cefn yn cael eu tynnu allan a llefydd sefyll ychwanegol ar gael ar flaen y llwyfan, roedd modd i niferoedd y gig gyrraedd dros 5,200 o bobl – gig fwyaf yr ŵyl hyd yn hyn.
Ers lansio Llanfest wyth mlynedd yn ôl, mae’r ŵyl wedi tyfu i ymestyn dros ddiwrnod llawn a anelir at gynulleidfa iau, er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd i Langollen o bob rhan o’r wlad.
Rhestr Set The Fratellis:
Henrietta, Baby Don’t You Lie, Starcrossed Losers, Whistle for The Choir, Imposters, For The Girl, I’ve Been Blind, Flathead, Stand Up Tragedy, Everybody Knows You Cried Last Night, Medicine, Baby Fratelli, Too Much Wine, Chelsea Dagger a Runaround Sue
Rhestr Set The Coral:
Jacqueline, Pass It On, Bill McCai, In The Morning, Holy Revelation, Sweet Release, Miss Fortune, In The Rain, 1000 Years, Reaching Out, Eyes Like Pearls, Goodbye a Dreaming of You
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle