FIVE THINGS YOU NEED TO KNOW TO ENJOY THE SUMMER

0
413

Dyfed-Powys Police has launched its summer campaign to help people who live in, work in and visit Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire and Powys make the most of the summer.

The campaign, known as #EnjoyDPP, offers practical advice to help people enjoy the towns, beaches, countryside and events in the communities served by the force. They will be working closely with partners who provide specialist help, to keep people as safe as possible.

The region is home to a variety of attractions and hosts locally and nationally renowned events. People come in their droves during the summer months, boosting population numbers significantly.

As towns of their own emerge at campsites and caravan parks across the four counties the force is asking people to look out for one another. One of the big issues they will be focusing efforts on is domestic abuse, which figures suggest rises over the summer months.

 Temporary Assistant Chief Constable, Vicki Evans, said: 

“We receive more reports of domestic abuse during July and August than at any other time of the year. We want to work with you to help people enjoy their holiday or day out – if you suspect or witness domestic abuse, please tell us.

“We understand it isn’t easy to talk about, so we have dedicated, specialist officers who can provide support. Domestic abuse is not only violence – physical, sexual, emotional or financial abuse, threats and damage are also ways to control people.

“Many people worry that they will be interfering if they get involved, or think that it is a private matter, but your support can make a difference. We urge anyone concerned about a friend, neighbour or family member to pass us information so we can take action.

“Report concerns by calling 101. If someone is at immediate risk of harm, call 999.”

The influx of visitors over the summer combined with the diversity of their patch brings challenges for the force, which they are experienced at dealing with. However, they’re asking for your help to ease pressure on the front line.

 Temporary Assistant Chief Constable, Vicki Evans, continued:

“We’re appealing to our communities to help us out and this summer are offering some simple advice to help people enjoy our unique region, safely.

“We’re encouraging people to be sensible and mindful of risks they perceive around them – don’t ignore warning signs and pay attention to local weather forecasts.

“We police the safest area in England and Wales and want to support you by maintaining that over the summer months.

“We’ve broken the advice down in to five categories, which we think are the most helpful.”

 Advice to Help You #EnjoyDPP

  •  Enjoy Our Towns

 

Antisocial behaviour rises over the summer months and can cause distress to local communities. Police officers can direct people to leave certain areas if their behaviour is considered unacceptable, and can confiscate items that are contributing to antisocial behaviour.**

Parents are reminded that the actions of their children are not the responsibility of the police. Be aware of what your children are doing, and where they are spending their evenings.

Officers are working with licensees to enforce Behave or Be Banned (BOBB) – a scheme which sees people banned from pubs, clubs and bars for bad behaviour. Problem customers are banned not just from the one pub but all that have signed up in the area. The scheme tackles both alcohol and drug misuse.

Neighbourhood Policing Teams will be on their usual patrols throughout the summer to help everyone enjoy themselves safely and with consideration for others.

  • Enjoy Our Events

 

Police officers and Police Community Support Officers will be attending events throughout the summer. Speak to them about crime prevention advice and to report any concerns.

Before you leave the house, consider taking a photograph of your child so you know what they’re wearing in case they become lost. Put a piece of paper with your contact number on their person, so you can be easily reunited.

Before you head in to an event, make sure your vehicle is locked and any valuables are safely out of sight.

  • Enjoy Our Waterways

 

RNLI’s Respect the Water campaign promotes a key piece of advice for people who find themselves unexpectedly in cold water. The charity says that a high proportion of people who drown off the UK’s coast are likely to have died after experiencing cold water shock. The campaign focuses on the simple skills people need to save a life. Here is the advice:

  1. If you find yourself unexpectedly in the water, float for 60-90 seconds to increase your chances of survival. That period of time will allow the effects of cold water shock to pass.
  2. If you see someone else in trouble in the water, call 999 or 112 and ask for the Coastguard.

Visit www.respectthewater.com for more information.

Be aware of the tide times when you are visiting the beach – People can become cut off very quickly. Visit: www.metoffice.gov.uk/public/weather/tide-times for local timetables.

Respect local wildlife and never swim with dolphins, seals or porpoises – which can be safely observed from the coastal path or on a boat trip.

  • Enjoy Our Countryside

 

When you visit the countryside, small things make a big difference. Stick to these rules of thumb to help the locals and enjoy yourself considerately:

  • Close gates after you;
  • Keep dogs on leads;
  • Don’t rely on satnav – bring a road map;
  • Take note of road and footpath signs;
  • Always lock up your vehicle; and
  • Be patient with farm vehicles – they’re hard at work.

If you’re planning a walk in the hills or mountains, follow Brecon Mountain Rescue’s advice to help you enjoy yourself safely:

  • Plan before you set out;
  • Carry plenty of water;
  • Take food with you;
  • Bring a map and compass.  Know how to use them;
  • Monitor the conditions constantly; and
  • Turn back if you are uncertain.

Visit www.breconmrt.co.uk for more mountain safety advice.

The risk of illegal raves rises with the good weather. These types of illegal gatherings can be distressing for the communities they set up in and cause real concerns for emergency services.

There are certain types of suspicious behaviour that are worth being aware of. If you see or experience any of these call police on 101.

  • Unusual numbers of vehicles, especially camper vans, vans or trucks, seen in the locality.
  • Illegal trespassers may recce sites in advance of any rave
  • People may approach landowners and ask around for land, in the guise of hiring it for acceptable activities such as gymkhanas or scout camps.
  • If you suspect anyone who approaches you for land hire might not be who they say they are, please do not hesitate to contact police.
  • Social networks make it easier for organisers to spread the word – rave attendance numbers can grow hugely in short spaces of time, and locations can change quickly.
  • Enjoy Your Health

 

If you become unwell during your visit, the Choose Well guidance can help if you are unsure of the best health service to meet your needs. Access advice and local contacts from the webpage: www.choosewellwales.org.uk, or download the Choose Well app.

If you need to contact police, consider the situation you’re reporting and make the right call. In an emergency call 999, if the matter is less urgent call 101. To check if the thing you wish to report is a police matter or not visit our new contact us page on our website: https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/.

PUM PETH SYDD ANGEN I CHI WYBOD ER MWYN MWYNHAU’R HAF

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio ei ymgyrch haf, sy’n helpu pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, a phobl sy’n ymweld â’r siroedd hynny, i wneud y mwyaf o’r haf.

Mae’r ymgyrch, sef #JoioHDP, yn cynnig cyngor ymarferol i helpu pobl i fwynhau’r trefi, traethau, cefn gwlad a digwyddiadau yn y cymunedau a wasanaethir gan yr heddlu. Byddant yn gweithio’n agos â phartneriaid sy’n cynnig cymorth arbenigol er mwyn cadw pobl mor ddiogel â phosibl.

Mae’r ardal yn gartref i amryw o atyniadau, ac mae’n cynnal digwyddiadau sy’n adnabyddus yn lleol ac yn genedlaethol. Mae pobl yn heidio i’r ardal yn ystod misoedd yr haf, sy’n hwb mawr i’r boblogaeth.

Wrth i drefi eu hunain ffurfio mewn gwersylloedd a meysydd carafán ledled y pedair sir, mae’r heddlu’n gofyn i bobl fod yn ofalus o’i gilydd. Un o’r prif faterion y byddant yn canolbwyntio arno yw cam-drin domestig. Mae ffigurau’n awgrymu bod troseddau o’r fath yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Vicki Evans: 

“Rydyn ni’n derbyn mwy o adroddiadau am gam-drin domestig yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi er mwyn helpu pobl i fwynhau eu gwyliau neu ddiwrnod allan. Rhowch wybod i ni os ydych chi’n amau bod cam-drin domestig yn digwydd os gwelwch chi’n dda.

“Rydyn ni’n deall nad yw’n hawdd siarad am gam-drin domestig, felly mae gennym swyddogion arbenigol penodol sy’n medru rhoi cymorth. Nid yw cam-drin domestig yn ymwneud â thrais yn unig – mae difrod, bygythiadau a cham-drin corfforol, rhywiol, emosiynol neu ariannol hefyd yn ddulliau a ddefnyddir gan droseddwyr i reoli pobl.

“Mae llawer o bobl yn poeni y byddant yn busnesu os wnawn nhw ymyrryd, neu’n teimlo mai mater preifat ydyw, ond gall eich cymorth chi wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n poeni am ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu i roi gwybod i ni fel ein bod ni’n medru gweithredu.

“Rhowch wybod am bryderon drwy alw 101. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, galwch 999.”

Mae’r llif o ymwelwyr dros yr haf, ynghyd ag amrywiaeth ein hardal, yn cyflwyno heriau i’r gwasanaeth heddlu, ac maen nhw’n hen gyfarwydd ag ymdrin â hyn. Fodd bynnag, maen nhw’n gofyn am eich helpu chi i leihau’r baich ar y rheng flaen.

Ychwanegoddy Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Vicki Evans:

“Rydyn ni’n apelio ar i’n cymunedau ein helpu, a’r haf hwn, rydyn ni’n cynnig cyngor syml i helpu pobl i fwynhau ein hardal unigryw yn ddiogel.

“Rydyn ni’n annog pobl i fod yn synhwyrol ac ystyried y peryglon o’u cwmpas – peidiwch ag anwybyddu arwyddion rhybudd a thalwch sylw i ragolygon tywydd lleol.

“Rydyn ni’n plismona’r ardal fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr ac rydyn ni eisiau’ch cefnogi drwy gynnal hynny dros fisoedd yr haf.

“Rydyn ni wedi rhannu’r cyngor yn bum categori, sydd fwyaf defnyddiol yn ein barn ni.”

Cyngor i’ch Helpu i #JoioHDP

  • Joiwch Ein Trefi

 

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf, a gall hyn achosi gofid i gymunedau lleol. Gall swyddogion heddlu gyfarwyddo pobl i adael ardal benodol os ystyrir bod eu hymddygiad yn annerbyniol, ac atafaelu eitemau sy’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Atgoffir rhieni nad cyfrifoldeb yr heddlu yw gweithredoedd eu plant. Gwenwch yn siŵr eich bod chi’n gwybod beth mae’ch plant yn gwneud, a ble maen nhw’n treulio eu nosweithiau.

Mae swyddogion yn gweithio gyda thrwyddedigion er mwyn gorfodi’r cynllun Bihafio neu Cewch Eich Banio (BOBB) – cynllun sy’n gweld pobl yn cael eu gwahardd o dafarndai, clybiau a barrau am ymddygiad gwael. Mae cwsmeriaid problemus yn cael eu gwahardd o bob tafarn yn yr ardal sydd wedi cofrestru â’r cynllun. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau.

Bydd ein Timoedd Plismon Bro’n patrolio yn ôl yr arfer drwy gydol yr haf er mwyn helpu pawb i fwynhau eu hunain yn ddiogel, gan ystyried eraill.

  • Joiwch Ein Digwyddiadau

 

Bydd Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu’n bresennol mewn digwyddiadau drwy gydol yr haf. Siaradwch â nhw er mwyn cael cyngor atal trosedd a rhoi gwybod iddynt am unrhyw bryderon.

Cyn i chi adael y tŷ, tynnwch lun o’ch plentyn fel eich bod chi’n gwybod beth mae’n gwisgo rhag ofn y bydd yn mynd ar goll. Rhowch ddarn o bapur â’ch rhif cyswllt arno i’ch plentyn fel bod modd ei ddychwelyd atoch yn hawdd.

Cyn i chi fynd mewn i ddigwyddiad, gwnewch yn siŵr bod eich car ar glo a bod eitemau gwerthfawr o’r golwg yn ddiogel.

  • Joiwch Ein Dyfrffyrdd

 

Mae ymgyrch Parchwch y Dŵr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn hyrwyddo darn allweddol o gyngor ar gyfer pobl sy’n canfod eu hunain yn annisgwyl mewn dŵr oer. Mae’r elusen yn dweud bod llawer iawn o bobl sy’n boddi oddi ar arfordir y DU yn debygol o fod wedi marw ar ôl dioddef sioc dŵr oer. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y sgiliau syml sydd eu hangen er mwyn achub bywyd. Dyma’r cyngor:

  1. Os ydych chi’n canfod eich hun yn y dŵr yn annisgwyl, arnofiwch am 60 – 90 eiliad er mwyn cynyddu’ch siawns o bara’n fyw. Bydd yr amser hwnnw’n galluogi effeithiau sioc dŵr oer i fynd heibio.
  2. Os ydych chi’n gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr, galwch 999 neu 112 a gofynnwch am Wyliwr y Glannau.

Galwch heibio i www.respectthewater.com am ragor o wybodaeth.

Byddwch yn ymwybodol o’r amserau llanw pan fyddwch chi’n ymweld â’r traeth – gall pobl gael eu hynysu’n gyflym iawn. Galwch heibio i www.metoffice.gov.uk/public/weather/tide-times am amserlenni lleol.

Parchwch fywyd gwyllt lleol a pheidiwch byth â nofio gyda dolffiniaid, morloi neu lamidyddion – medrwch wylio’r rhain yn ddiogel o lwybr yr arfordir neu ar daith mewn cwch.

  • Joiwch ein Cefn Gwlad

 

Pan fyddwch chi’n ymweld â chefn gwlad, mae pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dilynwch y canllawiau cyffredinol isod er mwyn helpu trigolion lleol a mwynhau eich hun mewn modd ystyriol:

  • Caewch gatiau ar eich ôl;
  • Cadwch gŵn ar denynnau;
  • Peidiwch â dibynnu ar system llywio â lloeren – ewch â map o’r ffordd gyda chi;
  • Cymerwch sylw o arwyddion ffyrdd ac arwyddion llwybrau troed;
  • Clowch eich cerbyd bob amser; a
  • Byddwch yn amyneddgar â cherbydau fferm – maen nhw’n gweithio’n galed.

Os ydych chi’n bwriadu cerdded y mynyddoedd neu’r bryniau, dilynwch gyngor Tîm Achub Mynydd Aberhonddu i’ch helpu i fwynhau mewn modd diogel:

  • Cynlluniwch cyn cychwyn ar eich taith;
  • Ewch â digon o ddŵr gyda chi;
  • Ewch â bwyd gyda chi;
  • Ewch â map a chwmpawd, gan wybod sut i’w defnyddio;
  • Cadwch lygad ar yr amodau yn gyson;
  • Trowch yn ôl os ydych chi’n ansicr.

Galwch heibio i www.breconmrt.co.ukam ragor o gyngor ynghylch diogelwch mynydd.

Mae’r perygl o rêfs anghyfreithlon yn cynyddu pan mae’r tywydd yn braf. Mae’r crynoadau anghyfreithlon hyn o bobl yn achosi pryderon gwirioneddol i’r gwasanaethau brys gan fod pobl sy’n mynd iddynt yn cymryd risgiau na fyddent fel arfer yn eu cymryd.

Mae’n werth fod yn ymwybodol o fathau penodol o ymddygiad. Os fyddwch chi’n gweld neu’n profi ymddygiad o’r fath, galwch yr heddlu ar 101.

  • Nifer anghyffredin o gerbydau, yn arbennig faniau gwersylla, faniau neu dryciau yn yr ardal.
  • Tresmaswyr anghyfreithlon a fydd efallai’n rhagchwilio safleoedd cyn unrhyw ref.
  • Unigolion sy’n cysylltu â thirfeddianwyr neu’n ymholi ynghylch tir, a hynny drwy roi’r argraff eu bod yn dymuno llogi ar gyfer gweithgareddau sy’n ymddangos yn dderbyniol, fel merlogampau neu wersylloedd sgowtiaid.
  • Os ydych chi’n amau bod rhywun sy’n eich holi ynghylch llogi tir yn dweud celwydd am bwy ydyw, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r heddlu.
  • Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n haws i drefnwyr ledaenu’r gair – gall nifer y bobl mewn ref dyfu’n sylweddol mewn amser byr, a gall lleoliadau newid yn gyflym.
  • Joiwch Eich Iechyd

 

Os fyddwch chi’n teimlo’n sâl yn ystod eich ymweliad, gall canllawiau Dewis Doeth eich helpu os ydych chi’n ansicr ynghylch y gwasanaeth iechyd gorau ar gyfer eich anghenion. Cewch fynediad i gyngor a chysylltiadau lleol ar y wefan: www.choosewellwales.org.uk, neu drwy lawrlwytho ap Dewis Doeth ar eich ffôn symudol.

Os ydych chi angen cysylltu â’r heddlu, ystyriwch y sefyllfa rydych chi’n adrodd amdani a dewiswch y rhif ffôn cywir. Mewn argyfwng, galwch 999. Os nad yw’n argyfwng, galwch 101. I weld pa un ai a yw’r hyn rydych chi eisiau rhoi gwybod i’r heddlu amdano’n fater i’r heddlu ai peidio, galwch heibio i’n tudalen ‘Cysylltwch â Ni’ newydd ar ein gwefan:https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cysylltwch-a-ni/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle