University prepares to welcome leading Shakespeare scholars to landmark conference

0
555

Shakespeare experts from across the world will gather in Swansea this month for a prestigious international conference.

Swansea University is hosting the annual gathering of the British Shakespeare Association from Wednesday, July 17 to Saturday, July 20 which this year has the theme Shakespeare Race and Nation

Over the four days 150 delegates will enjoy keynote talks by leading academics, workshops and theatrical performances.

One of the particular highlights will be a production of Pembroke Arcadia, the first-ever stage dramatisation of Sir Philip Sidney’s famous Renaissance prose and poetry work Arcadia by the University’s Professor David Britton

Specially commissioned by National Theatre Wales and presented by Fluellen Theatre Company at Taliesin Arts Centre, it features cross-dressing, sword-fighting, ferocious wild beasts and  poetic shepherds – all in a Classical paradise which bears an uncanny resemblance to South Wales.

The performance is one of the conference events that is open not only to delegates but also to members of the public.

Lead organiser for the conference Dr Eoin Price, senior lecturer in the Department of English Literature and Creative Writing, was delighted Swansea University was hosting the event in such a momentous year.

“The theme of this year’s conference is particularly relevant in the year that Britain faces Brexit and we are all questioning our views on what nation means to us.

“Shakespeare is often praised as a universal writer with global appeal but his plays have complicated histories that reveal legacies of racism and imperialism.

“At the conference we are asking our delegates to consider the fraught relationship Shakespeare has with these important and contentious subjects and what his work can tell us about nationhood and race,” he said.

The British Shakespeare Association promotes the study, practice and enjoyment of Shakespeare throughout the UK and its annual conference provides an opportunity for academics, practitioners, and educators to get together to discuss his work.

Local teachers will be able to take advantage of the gathering of world-leading experts and are invited to join the final day of the conference for free.

The conference will then be brought to a close with a performance of Pericles staged at Oystermouth Castle by The Willow Globe, a company based near Llandrindod Wells who specialize in outdoor performances of Shakespeare’s plays.

This event, arranged in partnership with Swansea Council, is open to the public. To book tickets go to

https://www.swansea.gov.uk/ShakespearesPericles

Also on the Saturday the Glynn Vivian Gallery in Alexandra Road, Swansea is marking the conference by running a family Shakespeare day, which includes several film screenings.

For information and to book your place go to https://www.swansea.gov.uk/article/51199/Midsummers-Family-Fun-Day

To book tickets for the Pembroke Arcadia go to https://www.taliesinartscentre.co.uk/en/performances.php?id=58338

Y Brifysgol yn paratoi i groesawu ysgolheigion Shakespeare blaenllaw i gynhadledd fawr

 

 

Bydd arbenigwyr Shakespeare o ledled y byd yn dod i Abertawe fis nesaf ar gyfer cynhadledd ryngwladol bwysig.

 

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal cynulliad blynyddol Cymdeithas Shakespeare Prydain o ddydd Mercher, 17 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf ar y thema ‘Shakespeare, Hil a Chenedl’.

 

Dros y pedwar diwrnod, bydd 150 o gynadleddwyr yn mwynhau darlithoedd cyweirnod gan academyddion blaenllaw, gweithdai, a pherfformiadau theatraidd.

 

Un o’r uchafbwyntiau fydd cynhyrchiad o PembrokeArcadia, y dramodiad cyntaf erioed o waith rhyddiaith a barddoniaeth enwog Syr PhilipSidney, Arcadia, gan yr Athro David Britton o’r Brifysgol.

 

Wedi’i gomisiynu’n arbennig gan National Theatre Wales a’i gyflwyno gan FluellenTheatreCompany yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, mae’n cynnwys croeswisgo, gornestau cleddyfau, bwystfilod gwyllt ffyrnig a bugeiliaid barddonol – oll mewn paradwys glasurol sy’n hynod debyg i dde Cymru.

 

Y perfformiad yw un o ddigwyddiadau’r gynhadledd sy’n agored i’r cyhoedd yn ogystal â’r cynadleddwyr.

 

Roedd prif drefnwr y gynhadledd, Dr Eoin Price, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn hynod falch bod Prifysgol Abertawe’n cynnal y digwyddiad mewn blwyddyn mor bwysig.

 

“Mae thema’r gynhadledd eleni yn hynod berthnasol yn y flwyddyn pan fo Prydain yn wynebu Brexit ac rydym oll yn cwestiynu ein barn ar ystyr cenedl i ni.

 

“Caiff Shakespeare ei ganmol yn aml fel awdur rhyngwladol ag apêl fyd-eang, ond mae hanes cymhleth i’w ddramâu sy’n datgelu etifeddiaeth o hiliaeth ac imperialaeth.

 

“Yn y gynhadledd hon, rydym yn gofyn i’n cynadleddwyr ystyried perthynas ofidus Shakespeare â’r pynciau pwysig a dadleuol hyn, a beth mae ei waith yn dweud wrthym am ei genedligrwydd a hil,” meddai.

 

Mar Cymdeithas Shakespeare Prydain yn hyrwyddo astudio, ymarfer a mwynhau Shakespeare ledled y Deyrnas Gyfunol, ac mae ei chynhadledd flynyddol yn rhoi cyfle i academyddion, ymarferwyr ac addysgwyr ddod ynghyd i drafod ei waith.

 

Bydd athrawon lleol yn gallu manteisio ar y cynulliad o arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, a gwahoddir hwy i ymuno ar ddiwrnod olaf y gynhadledd am ddim.

 

Yna daw’r gynhadledd i ben â pherfformiad o Pericles yng Nghastell Ystumllwynarth gan The WillowGlobe, cwmni ger Llandrindod sy’n arbenigo mewn perfformiadau awyr agored o ddramâu Shakespeare.

 

Mae’r digwyddiad, a drefnir mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn agored i’r cyhoedd. Mae tocynnau ar gael yn www.abertawe.gov.uk/ShakespearesPericles.

 

Hefyd ar ddydd Sadwrn, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian ar Heol Alexandra yn Abertawe yn nodi’r gynhadledd â Diwrnod Hwyl i’r Teulu ar Thema Shakespeare, a fydd yn cynnwys dangos sawl ffilm.

Am wybodaeth ac i gadw lle, ewch i www.abertawe.gov.uk/article/51200/Diwrnod-Hwyl-ir-Teulu-ar-Thema-Straeon-Shakespearaidd.

I brynu tocynnau ar gyfer PembrokeArcadia, ewch i www.taliesinartscentre.co.uk/cy/performances.php?id=58339.

 

Nodiadau i olygyddion:

Prifysgol dau gampws yw Prifysgol Abertawesy’n cael ei harwain gan ymchwil. Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 a bellach mae’n cynnig oddeutu 330 o gyrsiau israddedig a 120 o gyrsiau ôl-raddedig i 16,800 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

 Mae Campws Parc Singleton wedi’i lleoli mewn parcdir prydferth â golygfeydd ar draws Bae Abertawe. Mae Campws y Bae yn gampws gwyddoniaeth ac arloesi sydd wedi’i leoli ar safle 65 acer ar y ffordd i mewn i Abertawe o gyfeiriad y dwyrain.  Hwn yw un o’r ychydig gampysau yn y byd sydd â mynediad uniongyrchol at draeth a’i bromenâd glan môr ei hun. Mae’r ddau gampws ar gyrion penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y Deyrnas Gyfunol.

Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod y Brifysgol wedi  cyflawni ei huchelgais i fod yn y 30 uchaf o brifysgolion ymchwil, gan neidio i safle 26 yn nhabl cynghrair y Deyrnas Gyfunol, gyda’r ‘naid fwyaf ymysg sefydliadau ymchwil- dwys’ (TimesHigherEducation, Rhagfyr 2014) yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae gan y Brifysgol gynlluniau ehangu uchelgeisiol wrth iddi symud tuag at ei chanmlwyddiant yn 2020, ac wrth iddi barhau i ehangu ei chyrhaeddiad byd-eang , mae’r brifysgol yn symud yn nes at wireddu ei huchelgais o ddod yn y 200 uchaf o brifysgolion byd-eang.

Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig. Rhif 1138342. Ewch i www.abertawe.ac.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle