Romeo and Juliet set for modern day makeover at Carew Castle/Romeo a Juliet yn barod am wedd fodern yng Nghastell Caeriw

0
464
Caption: Carew Castle will be rolling out the red carpet for a glitzy performance of Romeo and Juliet on Tuesday 30 July. Pennawd: Bydd Castell Caeriw yn estyn y carped coch ar gyfer perfformiad mawreddog o Romeo a Juliet nos Fawrth 30 Gorffennaf

This summer’s open air theatre season starts at Carew Castle on Tuesday 30 July, with a glittering red-carpet rendition of William Shakespeare’s tragedy Romeo and Juliet.

You are invited to this exclusive, glamourous gala event attended by two notorious celebrity families, the Montagues and the Capulets.

Carew Castle Manager Daisy Hughes said:  “With the press reporting their every move and social media abuzz with their escapades, tensions are running high.

There’s only one question on everybody’s lips – will these two families behave or will it be another fiery battle at dawn as the fabulous feud continues?

“Join us for this super glam outdoor adaptation featuring Shakespeare’s star crossed lovers, Romeo and Juliet.”

Tickets for the event are £15 for adults, £12.50 for concessions and £10 for children. A family ticket (two adults and two children) is £46.

To ensure a comfortable evening, bring a rug or low backed chair, warm clothing and a torch. Picnics are welcome but hot drinks will be available.

Booking is essential. Reserve your place by calling 01646 651782. Tickets are non-refundable and the performance will go ahead in wet weather. Doors open 6pm, show starts at 7pm.

For details of other events at Carew Castle, including upcoming open air theatre performances of Blackadder II and Gangsta Granny visit: www.carewcastle.com.

Romeo a Juliet yn barod am wedd fodern yng Nghastell Caeriw

Mae tymor theatr awyr agored yr haf yma’n dechrau yng Nghastell Caeriw nos Fawrth 30 Gorffennaf gyda pherfformiad carped coch mawreddog o drasiedi William Shakespeare, Romeo a Juliet.

Estynnir gwahoddiad i chi i’r gala fawreddog ac arbennig yma y bydd dau deulu enwog yn bresennol ynddi, y Montagues a’r Capulets.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Gyda’r wasg yn cofnodi pob un symudiad ganddyn nhw a’r cyfryngau cymdeithasol yn ferw gwyllt gyda’u campau, mae llawer o densiwn yma. Dim ond un cwestiwn sydd ar wefusau pawb – a fydd y ddau deulu yma’n bihafio neu a fydd yn frwydr danllyd arall fel mae’r wawr yn torri wrth i’r gynnen barhau?

“Ymunwch â ni ar gyfer yr addasiad awyr agored hyfryd yma yng nghwmni cariadon enwog Shakespeare, Romeo a Juliet.”

Pris y tocynnau yw £15 i oedolion, £12.50 am ostyngiadau a £10 i blant. Pris tocyn teulu (dau oedolyn a dau blentyn) yw £46.

I gael noson gyfforddus braf, dewch â ryg neu gadair cefn isel, dillad cynnes a fflachlamp. Mae croeso i chi ddod â phicnic ond bydd diodydd poeth ar gael.

Mae’n rhaid i chi archebu lle. Cadwch eich lle drwy ffonio 01646 651782. Nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. Bydd y drysau’n agor am 6pm, a’r sioe yn dechrau am 7pm.

Mae Castell Caeriw a Melin Heli Caeriw yn cael eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Am fanylion am ddigwyddiadau eraill yng Nghastell Caeriw, gan gynnwys perfformiadau theatr awyr agored o Blackadder II a Gangsta Granny yn y dyfodol, ewch i: www.castellcaeriw.com.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle