Remember to submit your views on major trauma/ Ceisio eich barn ar ofal trawma yn lleol

0
479

Hywel Dda University Health Board’s engagement to gather people’s views on how support and care for people with, or recovering from, major injuries or major trauma is delivered, will end soon.

Engagement events have already been held in Llanelli, Haverfordwest and Aberywtwyth, as well as an online Facebook event. The last event takes place in Carmarthen on Monday July 29, although the health board will accept views in a variety of ways (including online survey) until the engagement closes on Monday August 5 2019.

Dr Stuart Gill Anaesthetics Consultant and Major Trauma Clinical Lead for Hywel Dda University Health Board said: “We’ve had some really good discussions and insights from staff, organisations and our communities and are very grateful to all those who have given their time to get involved.

“We’ve been able to reassure people that this proposal is not taking current emergency or most trauma services out of our other hospitals, or that there will be any building at Glanwgili Hospital for a new unit. Rather this is a new level of service, that will provide enhancements to what we can deliver for people who suffer a major trauma within the boundaries of Hywel Dda University Local Health Board.”

Last year, health boards across Wales, agreed with a recommendation to develop a major trauma network for South and West Wales and South Powys, with a Major Trauma Centre at the University Hospital of Wales, Cardiff. This followed recommendations by a panel of expert clinicians and a Wales-wide public consultation.

Hywel Dda University Health Board now needs to designate a local Trauma Unit which will provide care for moderate/major trauma. The proposal is to designate Glangwili Hospital, Carmarthen, in the years leading up to the building a new Urgent and Planned Care Hospital in the south of the Hywel Dda area.

This is because it is the closest local hospital to meeting national trauma standards with on-site, on-call for surgical specialties, access to an emergency medicine consultant and paediatrics 24/7, plus 24/7 staffing for theatres and a dedicated trauma and orthopaedic theatre most days of the week.

Current trauma and emergency services at Bronglais Hospital, Aberystwyth, and Withybush Hospital, Haverfordwest, would not be downgraded on the basis of this proposal. They would continue to deal with and admit patients with less severe traumatic injury and retain the ability to stabilise and transfer patients with moderate or severe trauma to Glangwili Hospital, or the Major Trauma Centre, Cardiff.

The health board says it would need to strengthen trauma services at the three hospitals currently providing trauma care.

For example, there would need to be an increase in access to physiotherapy, occupational therapy and rehabilitation consultants and psychologists at Glangwili Hospital, as well as increased operating time. The strategic importance of Bronglais and Withybush hospitals in serving remote and rural populations is also recognised, and there would be a need for 24/7 support response from the national trauma desk, including telemedicine from an expert in acute trauma, a policy to support the hospital teams to be prepared to receive and stabilise major or moderate trauma and ongoing education and training for different professional staff.

The health board has had assurances that Wales Air Ambulance Charity and the consultant-led Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS or ‘flying medics’) will benefit from becoming 24/7 services, instead of the current 12 hours.

Dr Gill explained: “The opportunity for us to designate one of our hospitals as a Trauma Unit and for our acute hospitals to benefit from the support of the trauma network will significantly improve the service for our local patients and provide a greater level of support for doctors, nurses and allied health care professionals.

“Improving timely access to specialist care through the network and expansion of Wales Air Ambulance Charity and EMRTS to 24/7 services will save more lives and improve outcomes for major trauma patients such as less long-term disability, less need for long-term NHS care and more support for patients to be able to return to their lives and work and do the things they love.”

Hywel Dda University Health Board’s Executive Director for Planning, Performance and Commissioning Karen Miles added: “There is still time to submit your views. We are particularly keen to hear about what people feel we need to consider, what good rehabilitation should look like and whether there would be any positive or negative affects to individuals or groups of people from the proposal.”

Read our discussion document on trauma services available from www.hywelddahb.wales.nhs.uk/TraumaServices An online survey link is available until Monday August 5: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/TraumaServices  You can watch a video here: https://bit.ly/2Yf9g9F

Alternatively, if you need to contact the health board, you can email Hyweldda.engagement@wales.nhs.uk or phone 01554 899056 (you can leave a message on the answerphone and request a call back so you do not have to pay for the call).

Ceisio eich barn ar ofal trawma yn lleol

Cyn hir, bydd gwaith ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddarpariaeth gofal a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd ag anafiadau mawr neu drawma mawr, neu sy’n gwella ohonynt, yn dod i ben.

Mae digwyddiadau ymgysylltu eisoes wedi’u cynnal yn Llanelli, Hwlffordd ac Aberywtwyth, yn ogystal â digwyddiad ar Facebook. Bydd y digwyddiad olaf yn digwydd yng Nghaerfyrddin ar ddydd Llun 29 Gorffennaf. Mae’r bwrdd iechyd yn barod i gael barn a sylwadau mewn amryw ffyrdd (yn cynnwys arolwg ar-lein) tan i’r ymgysylltu ar hyn ddod i ben ar ddydd Llun 5 Awst 2019.

Meddai Dr Stuart Gill, Ymgynghorydd Anestheteg ac Arweinydd Clinigol Trawma Mawr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi cael rhai trafodaethau da iawn gyda staff, sefydliadau a chymunedau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi cymryd rhan.

“Rydym wedi medru tawelu meddwl pobl gan roi sicrwydd iddynt nad yw’r cynnig hwn yn golygu tynnu gwasanaethau brys na mwyafrif y gwasanaethau trawma presennol o’n hysbytai eraill, ac nid yw ychwaith yn golygu adeilad yn Ysbyty Glanwgili ar gyfer uned newydd. Yn hytrach, mae hyn yn golygu lefel newydd o wasanaeth a fydd yn gwella ein darpariaeth ar gyfer pobl sy’n dioddef trawma mawr o fewn ffiniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.”

Y llynedd, cytunodd byrddau iechyd Cymru ag argymhelliad i ddatblygu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer y De a’r Gorllewin a de Powys, gyda Chanolfan Trawma Mawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd hyn yn dilyn argymhellion gan banel o glinigwyr arbenigol ac ymgynghoriad cyhoeddus ledled Cymru.

Nawr, mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddynodi Uned Drawma leol a fydd yn darparu gofal ar gyfer trawma cymedrol/difrifol. Y cynnig yw dynodi Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, yn y blynyddoedd cyn adeiladu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Drefnu newydd yn ne ardal Hywel Dda.

Cynigir Glangwili oherwydd dyma’r ysbyty lleol sy’n bodloni’r nifer fwyaf o’r safonau trawma cenedlaethol, gydag arbenigeddau llawfeddygol ar-alw 24/7 ar y safle, mynediad 24/7 at ymgynghorydd meddygaeth frys a phediatrig, staffio theatrau 24/7 a theatr trawma ac orthopedeg penodol y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos.

Ar sail y cynnig hwn, ni fydd y gwasanaethau trawma a brys presennol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn cael eu hisraddio. Byddant yn parhau i ddelio â chleifion ag anafiadau trawmatig llai difrifol ac yn cynnal y gallu i sefydlogi a throsglwyddo cleifion â thrawma cymedrol neu ddifrifol i Ysbyty Glangwili, neu’r Ganolfan Trawma Mawr yng Nghaerdydd.

Dywed y bwrdd iechyd y byddai angen iddo gryfhau gwasanaethau trawma yn y tri ysbyty sy’n darparu gofal trawma yn bresennol.

Er enghraifft, byddai angen cynnydd mewn mynediad at ymgynghorwyr adsefydlu, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a seicolegwyr yn Ysbyty Glangwili, yn ogystal â mwy o amser ar gyfer cynnal llawdriniaethau. Cydnabyddir pwysigrwydd strategol ysbytai Bronglais a Llwynhelyg o ran gwasanaethu poblogaethau anghysbell a gwledig, a byddai angen ymateb cefnogaeth 24/7 gan y ddesg trawma genedlaethol, yn cynnwys telefeddygaeth gan arbenigwr mewn trawma acíwt, polisi i gefnogi timau ysbyty i fod yn barod i dderbyn a sefydlogi cleifion trawma mawr neu gymedrol ac addysg ac hyfforddiant parhaus ar gyfer staff proffesiynol amrywiol.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cael sicrwydd y byddai Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS neu ‘meddygon awyr’) dan arweiniad ymgynghorol, yn elwa o ddod yn wasanaethau 24/7, yn hytrach na’r 12 awr y dydd presennol.

Eglurodd Dr Gill: “Bydd y cyfle i ni i ddynodi un o’n hysbytai fel Uned Drawma ac i’n hysbytai acíwt elwa o gefnogaeth y rhwydwaith trawma, yn gwella’r gwasanaeth ar gyfer ein cleifion lleol yn sylweddol ac yn darparu lefel uwch o gymorth i feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd perthynol.

“Bydd gwella mynediad amserol at ofal arbenigol trwy’r rhwydwaith ac ehangiad Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS i fod yn wasanaethau 24/7, yn achub mwy o fywydau ac yn gwella canlyniadau cleifion trawma mawr, megis llai o anabledd hir-dymor, llai o angen am ofal GIG hir-dymor a mwy o gefnogaeth i gleifion allu dychwelyd i’w bywyd a’u gwaith ac i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau.”

Ychwanegodd Karen Miles, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae dal amser i chi gyflwyno eich barn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am yr hyn y mae pobl yn teimlo y dylem ystyried, beth yw adsefydlu da ac a fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol i unigolion neu grwpiau o bobl o ganlyniad i’r cynnig.”

Darllenwch ein dogfen drafod ar wasanaethau trawma: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/GwasanaethauTrawma

Mae dolen i arolwg ar-lein ar gael tan ddydd Llun 5 Awst: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/GwasanaethauTrawma

Gwyliwch y fideo https://bit.ly/2LubYCa

Fel arall, os oes angen i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd, ebostiwch Hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01554 899056 (mae croeso i chi adael neges ar y peiriant ateb yn gofyn i rywun eich ffonio’n ôl fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle