The Pembrokeshire Coast National Park Authority will be celebrating the Year of Discovery at the Pembrokeshire County Show from 13-15 August, showcasing the area’s fascinating heritage, geology and world-class coastline.
On the corner of Central and Main Avenues at stand A12 you’ll find the National Park Authority’s marquee, packed with exciting archaeology-themed activities for everyone, as well as plenty of information on getting out and about in the Park.
The Authority’s Chair Cllr Paul Harries said: “This year the Authority is inviting people to come and enjoy learning about Pembrokeshire’s amazing archaeology and landscape and how we help protect it through storytelling, and entertaining activities.
“Children will love the Dark Skies storytelling grotto with dressing up, free face painting and a sandpit, while National Park Community Archaeologist Tomos will be here leading family-friendly activities. Plus, there’s a chance to find out more about all the great walking opportunities the Park has to offer.”
The Park Authority’s stand will be home to a rockpool tank containing a fantastic range of wildlife from Pembrokeshire’s coastal waters, plus hands-on activities, as well as a giant deckchair and a family-friendly building activity with plastic bricks.
Come and talk to Tenby Museum and Art Gallery staff, who will also be present at the tent with an artefact handling collection plus information on the Beneath our Feet project, a partnership project between Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, The Federation of Museums and Art Galleries of Wales (The FED) and the Portable Antiquities Scheme in Wales (PAS Cymru) promoting the portable archaeological heritage of Wales through acquiring and sharing finds made by the public.
Each day we’ll be giving away discount tickets for our popular visitor attractions, Castell Henllys Iron Age Village and Carew Castle and Tidal Mill, plus a chance to win £50 by taking part in a Find the Fossils treasure hunt activity around the Park Authority’s marquee.
For more information visit www.pembrokeshirecoast.wales. You can also find the National Park Authority on Twitter @PembsCoast or Facebook ‘Pembrokeshire Coast’.
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx
Darganfod ffosiliau a hwyl ym mhabell y Parc Cenedlaethol yn Sioe’r Sir
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu’r Flwyddyn Darganfod yn Sioe Sir Benfro rhwng 13-15 Awst, lle bydd yn dangos treftadaeth a daeareg ddiddorol yr ardal ynghyd â’i harfordir o safon fyd-eang.
Ar y gornel rhwng yr Heol Ganol a’r Brif Heol ar stondin A12, fe welwch chi stondin Awdurdod y Parc Cenedlaethol a fydd yn llawn gweithgareddau cyffrous i bawb ar thema archeoleg, yn ogystal â digonedd o wybodaeth am grwydro o gwmpas y Parc.
Dywedodd y Cyng. Paul Harries, Cadeirydd yr Awdurdod: “Eleni, mae’r Awdurdod yn gwahodd pobl i ddod i fwynhau dysgu am archeoleg a thirwedd anhygoel Sir Benfro ac am sut gallwn ni helpu i’w warchod – fe fyddwn yn adrodd straeon ac yn cynnal gweithgareddau difyr.
“Bydd plant wrth eu boddau â’r hafan adrodd straeon Awyr Dywyll lle bydd gwisg ffansi, peintio wynebau am ddim a blwch tywod, tra bydd Archeolegydd Cymunedol y Parc Cenedlaethol yma i arwain gweithgareddau i’r teulu. Hefyd, bydd modd cael gwybod mwy am y cyfleoedd i fynd i gerdded yn y Parc.”
Ar stondin Awdurdod y Parc, bydd tanc dŵr fel pwll glan môr, yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt o ddyfroedd arfordirol Sir Benfro, yn ogystal â gweithgareddau ymarferol, cadair torheulo enfawr a gweithgaredd adeiladu â brics plastig i’r teulu.
Dewch i siarad â staff Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, a fydd hefyd yn y babell gyda chasgliad trin arteffactau yn ogystal â gwybodaeth am brosiect Dan ein Traed / Beneath our Feet, sef prosiect partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) sy’n hyrwyddo treftadaeth archeolegol gludadwy Cymru drwy gaffael a rhannu darganfyddiadau’r cyhoedd.
Bob dydd, byddwn yn rhoi tocynnau gostyngiad i’n prif atyniadau, sef Pentref Oes Haearn Castell Henllys a Chastell a Melin Heli Caeriw, fel gwobr i’n hymwelwyr, ac fe fydd cyfle i chi ennill £50 drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd helfa drysor Darganfod y Ffosiliau o gwmpas pabell Awdurdod y Parc.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd ar Twitter @PembsCoast a Facebook ‘Pembrokeshire Coast’.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle