SAMARITANS PROMOTE WELSH LANGUAGE EMOTIONAL SUPPORT SERVICE LINE AT NATIONAL EISTEDDFOD 2019

0
652

Samaritans are promoting their Welsh Language emotional support service at this year’s National Eisteddfod, as they increase the level of support available to Welsh speakers.

The dedicated Welsh Language line was first set up in 2010 in order to help Welsh speakers who needed emotional support. With an increase in the demand for the service, Samaritans volunteers have worked to increase the level of support through the phoneline.

Over the past year, Samaritans announced their new Welsh Language correspondence service, in which anyone who needs emotional support in Welsh can send a Freepost letter. Writing a letter can be a more personal, thought-provoking way for you to get your feelings across and Samaritans want Welsh speakers to have this opportunity to correspond in Welsh.

Volunteers from Bangor Samaritans will be at the 2019 Eisteddfod on stand S19 in their Samaritans van to promote Samaritans Welsh Language Service. They will also be handing out information on Samaritans emotional support and volunteering.

Margaret Jones, Chair of the Samaritans Welsh Language Advisory Group said –

“This is fantastic progress for our Welsh Language Support Service and is testament to the hard work of our volunteers. We know that accessing emotional support in your first language is crucial and we hope promotion of the line and our letter writing service will encourage more Welsh speakers to get in touch.

We also hope promotion of the service at this year’s Eisteddfod will help attract new Welsh-speaking volunteers. It is vital that we sustain the service and we always need more help”

In order to continue supporting Welsh speakers, Samaritans are also searching for new volunteers.

As a Welsh or English only speaker, there are many ways you can support Samaritans as a volunteer in Wales. Samaritans are known for the support they offer their callers on the phone, but they also offer support by email, face to face and through letters. Helping Samaritans in this way is known as being a listening volunteer. However, you don’t have to be a listening volunteer and you can support them in many other ways which can include marketing, fundraising, outreach or a variety of administrative roles.

You can make an amazing difference at Samaritans helping to support people when they need someone to talk to or they are going through a difficult time in their life. Samaritans welcomes and values every volunteer, from all walks of life.

To find out more about volunteering at one of Samaritans ten locations across Wales, please email volunteering.wales@samaritans.org or call 02922 406305

Y SAMARIAID YN HYRWYDDO EU GWASANAETH CYMORTH EMOSIYNOL CYMRAEG YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2019

I’W RYDDHAU AR UNWAITH

Mae’r Samariaid yn hyrwyddo eu gwasanaeth cymorth emosiynol Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wrth iddyn nhw gynyddu lefel y cymorth sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg.

Sefydlwyd y llinell Gymraeg benodol yn gyntaf yn 2010 i helpu siaradwyr Cymraeg yr oedd arnyn nhw angen cymorth emosiynol. Yn sgil y cynnydd yn y galw am y gwasanaeth, mae gwirfoddolwyr y Samariaid wedi gweithio i gynyddu lefel y cymorth trwy’r llinell ffôn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Samariaid wedi cyhoeddi eu gwasanaeth gohebiaeth Gymraeg newydd, lle gall unrhyw un mae arno angen cymorth emosiynol yn Gymraeg anfon llythyr at gyfeiriad Rhadbost. Gall ysgrifennu llythyr fod yn ffordd fwy personol, un sy’n ysgogi meddyliau, i chi gyfleu’ch teimladau ac mae’r Samariaid eisiau i siaradwyr Cymraeg gael y cyfle hwn i ohebu yn Gymraeg.

Bydd gwirfoddolwyr o Samariaid Bangor yn Eisteddfod 2019ar stondinS19 gyda fan y Samariaid i hyrwyddo gwasanaeth Cymraeg y Samariaid. Byddan nhw hefyd yn dosbarthu gwybodaeth am gymorth emosiynol y Samariaid ac am wirfoddoli gyda’r elusen.

Dywedodd Margaret Jones, Cadeirydd Grŵp Cynghori’r Samariaid ar y Gymraeg –

“Mae hyn yn gynnydd gwych i’n gwasanaeth cymorth Cymraeg ac yn dyst i waith caled ein gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n gwybod bod cael cymorth emosiynol yn eich iaith gyntaf yn hanfodol a’n gobaith yw y bydd hyrwyddo’r llinell a’n gwasanaeth ysgrifennu llythyrau’n annog mwy o siaradwyr Cymraeg i gysylltu â ni.

 

“Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyrwyddo’r gwasanaeth yn yr Eisteddfod eleni’n helpu i ddenu gwirfoddolwyr newydd sy’n siarad Cymraeg. Mae’n hollbwysig inni gynnal y gwasanaeth ac mae arnom ni angen mwy o help bob amser.”

Er mwyn parhau i gynorthwyo siaradwyr Cymraeg, mae’r Samariaid hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr newydd.

Fel siaradwr Cymraeg neu Saesneg, mae llawer o ffyrdd y gallwch gynorthwyo’r Samariaid fel gwirfoddolwr yng Nghymru. Mae’r Samariaid yn adnabyddus am y cymorth maen nhw’n ei gynnig i bobl sy’n eu ffonio ond maen nhw hefyd yn cynnig cymorth trwy e-bost, wyneb yn wyneb a thrwy lythyrau. Yr enw ar helpu’r Samariaid fel hyn yw bod yn wirfoddolwr gwrando. Fodd bynnag, does dim rhaid ichi fod yn wirfoddolwr gwrando a gallwch eu cefnogi mewn llawer o ffyrdd eraill a all gynnwys marchnata, codi arian, allestyn neu amrywiaeth o rolau gweinyddol.

Gallwch wneud gwahaniaeth syfrdanol gyda’r Samariaid trwy helpu i gynorthwyo pobl pan fo arnynt angen rhywun i siarad ag ef neu pan fônt yn mynd trwy gyfnod anodd yn eu bywydau. Mae’r Samariaid yn croesawu ac yn gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr, o bob cefndir.

I gael gwybod mwy am wirfoddoli yn un o ddeg lleoliad y Samariaid ar draws Cymru, anfonwch neges e-bost at volunteering.wales@samaritans.org neu ffoniwch 02922 406305


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle