‘Thrilling’ Garden makes UK’s Top 500 hotlist/Gardd Wefreiddiol yn cyrraedd y Rhestr 500 Uchaf

0
444

The National Botanic Garden of Wales is “hands down one of Britain’s most phenomenal gardens . . . wholly deserving of a full day’s exploration”.

Not our words but what has been written about us by the world’s most iconic travel guide publisher, Lonely Planet.

Their latest title, the Ultimate United Kingdom Travelist – which is out today (August 13) – features the very best of Britain’s unmissable destinations.

It describes the National Botanic Garden as “a thrilling floral romp” which “commands sensational views” and features the biggest single-span glasshouse in the world.

The Garden’s head of marketing, David Hardy said: “We are very honoured to be featured in the ultimate UK travel hot-list. Lonely Planet is the world’s No 1 travel guidebook brand and sells guides and travel apps by the hundreds of millions so this a fantastic accolade for our attraction and for everyone who has helped make it such an unmissable experience.”

The new guide ranks “in order of their brilliance” tiny pubs, giant cathedrals, inky lochs, world-class museums, gardens and all things great about Britain. Each entry gives a taste of what to expect, plus practical advice for planning your trip.  Mr Hardy added: “It is pretty special to be ranked here alongside the likes of the Lake District, Stonehenge, Hadrian’s Wall and Notting Hill Carnival.”

Set in the beautiful Carmarthenshire countryside, the National Botanic Garden of Wales is a fascinating blend of the modern and historic.

There you will find, along with the world’s largest single-span glasshouse, an inspiring range of themed gardens, the British Bird of Prey Centre, a tropical Butterfly House, play areas and a national nature reserve, all set in a Regency landscape which provides the stage for a packed programme of events and courses throughout the year. And you can develop your horticultural skills and knowledge with the Garden’s Growing the Future project, with a variety of gardening and beekeeping-based courses on throughout the year.

Other tourist honeypots in Wales included are: Snowdon, Llyn-y-Fan Fach, Skomer, Portmeirion, Pembrokeshire Coast National Park, St David’s Cathedral, Pontcysyllte Aqueduct, Caernarfon Castle, Barafundle Bay, St Fagan’s and the Royal Welsh Show.

To find out more about the Garden, go to https://botanicgarden.wales/ email info@gardenofwales.org.uk or call 01558 667148.

The Garden’s Lonely Planet listing in full:

Branch out at the National Botanic Garden of Wales

SOUTH WALES // Spreading across a 560-acre Regency Park developed
by Sir William Paxton, the National Botanic Garden of Wales commands
sensational views across the hills and Towy Valley. Its centrepiece is the
Norman Foster–designed Great Glasshouse, the world’s largest single-span
glasshouse, presenting a thrilling floral romp through California,
Australia, the Canaries, Chile, South Africa and the Mediterranean.
And there’s more: a double-walled garden showcasing the evolution
of flowering plants, an apothecary’s garden of healing herbs, a Welsh
apple orchard full of uncommon varieties, a bee garden with a behind-the-
hive window, a bird of prey centre, and a glasshouse aflutter
with rare butterflies. Hands down one of Britain’s most phenomenal
gardens, it’s wholly deserving of a full day’s exploration.

SEE IT ! The garden is a 10-minute drive from the M4 and two
minutes from the A48 in Carmarthenshire.

 

Gwaharddiad caeth: mae’r datganiad newyddion hwn yn cael ei gwaharddiad  tan un munud wedi hanner nos (00.01awr) ddydd Mawrth Awst 13. Peidiwch â chyhoeddi cyn y gwaharddiad caeth hwn. Diolch yn fawr

Gardd Wefreiddiol yn cyrraedd y Rhestr 500 Uchaf

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw, heb amheuaeth, un o erddi mwyaf rhyfeddol Prydain … yn llawn haeddu diwrnod cyfan i’w harchwilio.

Nid ein geiriau ni ond yr hyn sy’n cael ei ddweud amdanom gan gyhoeddwr arweinlyfr teithio mwyaf eiconig y byd, sef Lonely Planet.

Mae ei gyhoeddiad diweddaraf, Ultimate United Kingdom Travelist – a gyhoeddir heddiw (Awst 13) – yn cynnwys y gorau oll o gyrchfannau Prydain na ellir eu hepgor.

Mae’n disgrifio’r Ardd Fotaneg fel taith wefreiddiol, flodeuog sy’n meddu ar olygfeydd syfrdanol ac sy’n cynnwys y tŷ gwydr un rhychwant mwyaf yn y byd.

Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata yr Ardd: “Mae’n anrhydedd mawr i ni gael ein cynnwys ar brif restr deithio orau’r Deyrnas Unedig. Lonely Planet yw’r Rhif 1 o ran brandiau arweinlyfrau teithio, ac mae’n gwerthu cannoedd ar filoedd o lyfrau ac apiau teithio; felly, mae hwn yn anrhydedd arbennig i’n hatyniad ac i bawb sydd wedi ein helpu i’w wneud yn brofiad na ellir ei hepgor.”

Mae’r arweinlyfr newydd yn rhestru tafarnau bach, eglwysi cadeiriol anferthol, llynnoedd inciog, amgueddfeydd a gerddi o’r radd flaenaf, a phopeth sy’n wych am Brydain, a hynny yn nhrefn eu rhagoriaeth. Mae pob cofnod yn rhoi blas o’r hyn y gellir ei ddisgwyl, yn ogystal â rhoi cyngor ymarferol i gynllunio eich taith. Ychwanegodd Mr Hardy: “Mae’n eithaf arbennig cael ein rhestru yma ochr yn ochr ag atyniadau tebyg i Ardal y Llynnoedd, Côr y Cewri, Mur Hadrian a Charnifal Notting Hill.”

Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad hyfryd Sir Gaerfyrddin, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfuniad cyfareddol o’r cyfoes a’r hanesyddol.

Yn ogystal â thŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd, fe welwch yno amrywiaeth ysbrydoledig o erddi â themâu, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, Plas Pili-pala trofannol, ardaloedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol, oll wedi’u gosod yn nhirwedd y Rhaglywiaeth sy’n llwyfan i raglen lawn o ddigwyddiadau a chyrsiau trwy gydol y flwyddyn. A gellwch ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth arddwriaethol rwy gyfrwng prosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd, ynghyd â manteisio ar amrywiaeth o gyrsiau garddio a chadw gwenyn trwy gydol y flwyddyn.

Mae trysorau twristaidd eraill yng Nghymru yn cynnwys: Yr Wyddfa, Llyn y Fan Fach, Skomer, Portmeirion, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Traphont Pontcysyllte, Castell Caernarfon, Bae Barafundle, Sain Ffagan a Sioe Frenhinol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardd, ewch i https://garddfotaneg.cymru/, anfonwch neges e-bost i info@gardenofwales.org.uk, neu ffoniwch 01558 667148.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle