Gangsta Granny set to steal the show at Carew Castle/Nana Crwca yn dwyn sylw yng Nghastell Caeriw

0
647

The forbidden fun of David Walliams’ best seller, Gangsta Granny, is set to delight children and adults alike in the iconic setting of Carew Castle on Tuesday 20 August at 6.30pm.

Heartbreak Productions returns to bring the exciting escapades to life on an outdoor stage at the Pembrokeshire Coast National Park Authority managed setting.

Carew Castle Manager Daisy Hughes said: “This adventure story is brilliant; Ben is an 11-year-old who is fed up with spending boring nights in with his Granny, playing Scrabble and eating cabbage, until he stumbles upon her biggest secret.

“Ben’s Granny is an international jewel thief and she needs his help to pull off her biggest heist yet, involving the Crown jewels!

“It could all be hungry work, so please come prepared with picnics, and as always in Pembrokeshire, with appropriate warm or outdoor gear.”

The play is aimed at ages seven plus. Please bring a rug or low-backed chair to sit on, a torch and there will be hot drinks and ice creams to purchase to accompany your picnic.

Booking for this event is essential on 01646 651782 with the following ticket prices: £15 adult, £12.50 concession, £10 child, £46 family (two adults, two children).

Tickets are non-refundable and the performance will go ahead in wet weather. Doors will open at 5.45pm for the 6.30pm performance.

For more information, please visit www.carewcastle.com or call 01646 651782 during Castle opening hours.

Nana Crwca yn dwyn sylw yng Nghastell Caeriw

 Bydd drygioni doniol nofel boblogaidd David Walliams, Cyfrinach Nana Crwca (Gangsta Granny), yn diddanu plant ac oedolion fel ei gilydd yng Nghastell Caeriw ddydd Mawrth 20 Awst am 6:30pm.

Bydd Heartbreak Productions yn dychwelyd i ddod â’r anturiaethau cyffrous yn fyw ar lwyfan awyr agored yn y lleoliad sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Mae’r stori antur hon yn wych; mae Ben yn fachgen 11 oed sydd wedi cael digon ar dreulio nosweithiau diflas yn y tŷ gyda’i fam-gu, yn chwarae Scrabble a bwyta bresych, nes iddo ddod ar draws ei chyfrinach fawr.

“Mae mam-gu Ben yn lleidr gemwaith rhyngwladol ac mae angen ei help ef arni i gyflawni ei lladrad mwyaf erioed, sy’n cynnwys y tlysau brenhinol!

“Gallai’r holl antur godi chwant bwyd arnoch chi, felly dewch â phicnic gyda chi yn ogystal â dillad cynnes priodol – mae angen y rhain bob amser yn Sir Benfro!”

Mae’r sioe wedi’i hanelu at blant 7 oed neu hŷn. Dewch â thortsh a blanced neu gadair â chefn isel i eistedd arni. Bydd digonedd o ddiodydd poeth a hufen iâ i’w prynu i gyd-fynd â’ch picnic.

Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn drwy ffonio 01646 651782. Dyma brisiau’r tocynnau: £15 oedolyn, £12.50 consesiwn, £10 plentyn, £46 teulu (dau oedolyn, dau blentyn).

Nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. Bydd y drysau’n agor am 5.45pm a bydd y perfformiad yn cychwyn am 6.30pm.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu ffonio 01646 651782 yn ystod oriau agor y Castell.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle