Get ready for a Roman invasion at Castell Henllys

0
437
Mae’r Rhufeiniaid yn dod i Bentref Oes Haearn Castell Henllys ar 17 a 18 Awst gan ail-greu hanes a chyflwyno arddangosiadau coginio, crefftau a mwy rhwng 11am a 4.30pm.

On 17 and 18 August, Castell Henllys Iron Age Village near Newport will be invaded by Roman Legionaries for two action-packed days of fighting, cookery and crafts.

The Pembrokeshire Coast National Park Authority-owned site will play host to members of Legio VIII Augusta MGV Roman Living History Society, who will offer visitors an insight into how the Roman Army trained, fought and lived.

Castell Henllys Manager, Delun Gibby said: “This weekend offers a unique opportunity to travel back in time and experience the clash of two cultures as Roman Legionaries come face to face with the Iron Age villagers.

“Re-enactments will be accompanied by other Roman-themed experiences, including authentic cookery and the chance to prove your marksmanship with a Roman bow.”

As well as a Roman market, the two-day event will feature demonstrations of cooking and crafts between 11am and 4.30pm and dramatic arena displays at 11.30am and 2.30pm.”

Other themed activities will include minting a Roman coin, watching Legionaries shoot their artillery and having your name written in Roman lettering.

Normal admission fees apply, with an additional small charge for activities.

For more information about Castell Henllys Iron Age Village and all events visit www.castellhenllys.com, or email celts@castellhenllys.com.

Mae’r Rhufeiniaid yn dod i Bentref Oes Haearn Castell Henllys ar 17 a 18 Awst gan ail-greu hanes a chyflwyno arddangosiadau coginio, crefftau a mwy rhwng 11am a 4.30pm.

Y Rhufeiniaid yn Goresgyn Castell Henllys

Ar 17 a 18 Awst, bydd Llengfilwyr Rhufeinig yn goresgyn Pentref Oes Haearn Castell Henllys ger Trefdraeth dros ddau ddiwrnod prysur yn llawn ymladd, coginio a chrefftau.

Bydd y safle, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn croesawu aelodau o Gymdeithas Hanes Byw Rhufeinig Legio VIII Augusta MGV, a fydd yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar sut roedd y Fyddin Rufeinig yn hyfforddi, yn brwydro ac yn byw.

Dywedodd Delun Gibby, Rheolwr Castell Henllys: “Mae’r penwythnos yma’n gyfle unigryw i deithio’n ôl mewn amser a phrofi’r gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant wrth i Lengfilwyr Rhufeinig ddod wyneb yn wyneb â phentrefwyr yr Oes Haearn.

“Yn ogystal â gwylio’r sioeau ail-greu hanes, bydd cyfle i chi gael profiadau Rhufeinig eraill, yn cynnwys coginio bwyd y cyfnod a rhoi cynnig ar eich sgiliau saethu gyda bwa Rhufeinig.”

Ynghyd â marchnad Rufeinig, bydd y digwyddiad deuddydd yn cynnwys arddangosiadau coginio a chrefftau rhwng 11am a 4.30pm a sioeau dramatig yn yr arena am 11.30am a 2.30pm.”

Ymhlith y gweithgareddau thematig eraill bydd bathu arian Rhufeinig, gwylio Llengfilwyr yn saethu eu harfau tanio a gweld eich enw wedi’i ysgrifennu mewn llythrennau Rhufeinig.

Codir ffioedd mynediad arferol, gyda thâl bach ychwanegol am weithgareddau.

I gael rhagor o wybodaeth am Bentref Oes Haearn Castell Henllys a’r holl ddigwyddiadau ewch i www.castellhenllys.com, neu anfonwch e-bost i celts@castellhenllys.com.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle