Demystifying the myths of social media marketing – Farming Connect’s training workshop will get you started on the right road!

0
366

Remove the roadblocks which might be keeping you from getting the most out of your social media marketing – Farming Connect’s fully funded social media training workshops, delivered by Lantra Wales approved training providers, will pave the way!

In some more traditional farming families, the idea of using social media for marketing purposes is often either dismissed completely or treated with scepticism!  For many others, integrating digital platforms such as Facebook, Twitter and Instagram into their digital marketing strategy has significantly helped increase visibility of the brand or product and boosted sales.

Farming Connect is urging eligible farm and forestry businesses to sign up for a social media marketing workshop which should leave you with fresh ideas and the know-how to fine tune your social media activities and get the results you’re after.

Director of Lantra Wales, Kevin Thomas says learning how to promote your brand, service or produce on social media platforms could be one of the most cost-efficient and effective ways of reaching your target audiences.

“Knowing how to utilise social media platforms has transformed the way many farm and forestry businesses promote diversified ventures, such as tourist accommodation, farm shops and cafes through to poultry, forestry and horticulture enterprises.

“Some businesses will find they can link their social media activities and drive customers back to their websites, while for others a Facebook or Instagram presence, which is very easy to set up and update with short, sharp messages and promotional photos or videos, might obviate the need for a website,” said Mr. Thomas.

Taking place at venues around Wales this autumn, each two-hour session will explain the basic capabilities of the key social network platforms before the focus switches to teaching you how you can create your own tailor-made digital marketing strategy and use social media to successfully engage with both existing and potential customers.

You will also learn about low-cost social media advertising strategies that will be appropriate for all businesses, from small or niche enterprises right through to those operating on a larger scale.

“We hope that these workshops will dispel any myths that social media marketing is complicated and that social media advertising may not be the best use of a marketing budget,” said Mr. Thomas.

As spaces are limited to a maximum of 50 eligible individuals who will need to be registered with Farming Connect, you are advised to book as soon as possible to be assured of a place.

If you are not already registered with Farming Connect and/or are ready to book your place, visit www.gov.wales/farmingconnect or call the Farming Connect Service Centre on 08456 000 813

Each workshop will run from 4pm – 6pm

  • 29.08.2019   Lantra Wales, Builth Wells LD2 3WY
  • 18.09.2019   Glasdir, Llanrwst LL26 ODF
  • 23.10.2019   Lamphey Court Hotel, Pembs SA71 5NT
  • 20.11.2019   Castle of Brecon Hotel, Brecon LD3 9DB

Farming Connect is delivered by Menter a Busnes and Lantra Wales, and funded by the Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development.

Cael gwared â’r camargraffiadau am farchnata ar gyfryngau cymdeithasol – bydd gweithdy hyfforddi Cyswllt Ffermio yn eich rhoi ar ben ffordd!

 Chwalwch y rhwystrau a allai fod yn eich atal rhag manteisio i’r eithaf ar farchnata ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd gweithdai hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio yn eich rhoi ar ben ffordd. Mae’r gweithdai wedi’u hariannu’n llawn a byddant yn cael eu darparu gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Lantra Cymru.

Mewn rhai teuluoedd ffermio mwy traddodiadol mae’r syniad o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i farchnata yn aml naill ai’n cael ei ddiystyru’n llwyr neu’n cael ei drin yn amheus!  I nifer o rai eraill, mae integreiddio llwyfannau digidol fel Facebook, Twitter ac Instagram i’w strategaeth marchnata digidol wedi helpu i wneud eu brand neu eu cynnyrch yn fwy amlwg ac wedi rhoi hwb i’w gwerthiant.

Mae Cyswllt Ffermio yn annog busnesau ffermio a choedwigaeth cymwys i gofrestru ar gyfer gweithdy marchnata cyfryngau cymdeithasol a ddylai roi syniadau newydd i chi a’r sgiliau i wella eich gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a chyflawni’r canlyniadau rydych chi’n chwilio amdanyn nhw.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn dweud bod dysgu sut mae hyrwyddo eich brand, eich gwasanaeth neu eich cynnyrch ar lwyfannau chyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithlon ac effeithiol o gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed.

“Mae gwybod sut mae defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi gweddnewid y ffordd mae nifer o fusnesau ffermio a choedwigaeth yn hyrwyddo mentrau lle maen nhw wedi arallgyfeirio, fel llety i dwristiaid, caffis a siopau fferm i fentrau dofednod, coedwigaeth a garddwriaeth.

“Bydd rhai busnesau’n gweld eu bod yn gallu cysylltu eu gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a denu cwsmeriaid yn ôl i’w gwefannau. Mae eraill yn gweld bod presenoldeb ar Facebook neu Instagram, sy’n hawdd iawn i’w sefydlu a’i ddiweddaru gyda negeseuon byr a bachog a lluniau neu fideos hyrwyddo, yn gallu golygu nad oes angen gwefan,” meddai Mr Thomas.

Bydd y sesiynau dwy awr o hyd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru’r hydref yma. Bydd y sesiynau’n egluro galluoedd sylfaenol y prif lwyfannau rhwydwaith cymdeithasol cyn i’r ffocws newid ar eich dysgu chi sut gallwch chi greu eich strategaeth marchnata digidol personol eich hun a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu’n llwyddiannus â’ch cwsmeriaid a chwsmeriaid newydd.

Byddwch hefyd yn dysgu am strategaethau hysbysebu rhad ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn briodol i bob busnes, o fusnesau bach neu niche i’r rheini sy’n gweithredu ar raddfa fawr.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gweithdai hyn yn chwalu unrhyw gamargraff bod marchnata ar gyfryngau cymdeithasol yn gymhleth ac nad hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol ydy’r defnydd gorau o gyllideb marchnata o bosib,” meddai Mr Thomas.

Gan fod nifer y lleoedd wedi’u cyfyngu i hyd at 50 o unigolion cymwys y bydd angen iddyn nhw fod wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, mae’n syniad da cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn cadw eich lle.

Os nad ydych chi wedi cofrestru’n barod â Cyswllt Ffermio a/neu eich bod yn barod i gadw eich lle, ewch i www.businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813

Bydd pob gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 6pm.

  • 29.08.2019   Lantra Cymru, Llanfair-ym-Muallt LD2 3WY
  • 18.09.2019   Glasdir, Llanrwst LL26 ODF
  • 23.10.2019   Gwesty’r Lamphey Court, Sir Benfro SA71 5NT
  • 20.11.2019   Gwesty’r Castle of Brecon, Aberhonddu LD3 9DB

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle