Welsh school children create poem for Wales Squad

0
886

The Football Association of Wales in partnership with Literature Wales, have released a poem written by school children supporting Wales’ UEFA Women’s Euro 2021 qualifying campaign.

 

*Watch Video Here*

 

The inspirational Welsh-language poem, written by Year 6 pupils from Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon in Newport, is the result of a unique partnership between the two organisations, formed through the Bardd Plant Cymru scheme.

The Bardd Plant Cymru scheme (Welsh-language Children’s Laureate) introduces literature to children in an energetic, dynamic and exciting way through workshops, performances and activities. Through working in partnership, FAW and Literature Wales have been able to introduce both creative writing and football to children through an innovative special edition of the programme.

As part of the project, thirty schoolchildren aged 10-11 joined the Wales squad at an open training session and press conference held at Rodney Parade ahead of Wales’ friendly fixture against Czech Republic in April. The schoolchildren also had the opportunity to meet with the players before partaking in their own football training session led by FAW Trust coaches.

Following a day which increased the children’s appreciation for the Welsh squad, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon pupils joined Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam at Dragon Park to engage in a poetry workshop, which created ‘Cymru ar Ben y Byd’, a poem on the nerve wracking and exhilarating experience of a Wales match.

Lleucu Siencyn, CEO of Literature Wales said, “It’s fantastic to work in partnership with FAW to inspire the children of Wales. Literature Wales, the FAW, and the FAW Trust are committed to engaging with children and young people to increase participation in and enjoyment of literature and football respectively, and to support and advocate the various ways literature and sport can contribute positively to the nation’s health and well-being.”

“Seeing the film play in front of a full Rodney Parade in September is something the children can be proud of for years to come and is an experience to treasure.”

On writing the poem for the Wales squad, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon pupil Louis said, “I feel very proud because I love my country and football is one of my favourite sports. I really hope we’ve made a great poem for the team that will represent them.”

When discussing the Welsh language used throughout the Bardd Plant Cymru project, Ian Gwyn Hughes, Head of Public Affairs at the FAW added, ”It shows that Welsh is a living and modern language that’s not just for the classroom. We look forward to working together with Literature Wales on future projects to offer exciting and varied experiences to youngsters across Wales, especially in connecting with difficult-to-reach individuals and communities”.

Disgyblion ysgol yn creu cerdd i Garfan Cymru

Mae Cymdeithas BĂȘl-droed Cymru (CBDC) mewn partneriaeth Ăą Llenyddiaeth Cymru wedi rhyddhau cerdd a ysgrifennwyd gan blant ysgol i gefnogi ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA Cymru.

 

*Gwyliwch y fideoyma*

 

Mae’r gerdd Gymraeg ysbrydoledig, a ysgrifennwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yng Nghasnewydd, yn ganlyniad partneriaeth gyffrous rhwng y ddau sefydliad, a ffurfiwyd trwy gynllun Bardd Plant Cymru.

Trwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae cynllun Bardd Plant Cymru yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl. Trwy weithio mewn partneriaeth, mae CBDC a Llenyddiaeth Cymru wedi gallu cyflwyno ysgrifennu creadigol a phĂȘl-droed i blant mewn ffordd unigryw.

Fel rhan o’r prosiect, mynychodd y deg ar hugain disgybl 10-11 oed sesiwn hyfforddi agored carfan Cymru a chynhadledd i’r wasg a gynhaliwyd yn Rodney Parade cyn gĂȘm gyfeillgar Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym mis Ebrill. Cafodd y plant gyfle hefyd i gwrdd Ăą’r chwaraewyr cyn cymryd rhan mewn sesiwn ymarferarbennig dan ofal hyfforddwyr Ymddiriedolaeth CBDC.

Yn dilyn y diwrnod a gynyddodd werthfawrogiad a diddordeb y plant yng ngharfan Cymru, daeth y cyfle iddynt dreulio diwrnod gyda Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam ym Mharc y Ddraig, Casnewydd i greu cerdd ar y cyd i gefnogi ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA Cymru. Mae ‘Cymru ar Ben y Byd’ yn sĂŽn am y cyffro sy’n gysylltiedig Ăą gĂȘm bĂȘl-droed Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae’n wych gweithio mewn partneriaeth Ăą CBDC i ysbrydoli plant Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru, CBDC, ac Ymddiriedolaeth CBDC wedi ymrwymo i ymgysylltu Ăą phlant a phobl ifanc i gynyddu cyfranogiad a mwynhad mewn llenyddiaeth a phĂȘl-droed, ac i gefnogi a hyrwyddo’r gwahanol ffyrdd y gall llenyddiaeth a chwaraeon gyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a llesiant y genedl. ”

“Bydd gweld y fideo yn chwarae o flaen torf fawr yn Rodney Parade ym mis Medi yn brofiad i’w drysori i’r plant, ac yn rhywbeth y gallant fod yn falch ohono am flynyddoedd i ddod.”

Wrth ysgrifennu’r gerdd ar gyfer carfan Cymru, dywedodd Louis o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, “Rwy’n teimlo’n falch iawn oherwydd fy mod i’n caru fy ngwlad ac mae pĂȘl-droed yn un o fy hoff chwaraeon. Rwy’n gobeithio ein bod ni wedi creu cerdd wych i’r tĂźm a fydd yn eu cynrychioli nhw. ”

Wrth sĂŽn am y defnydd o’r Gymraeg yn y prosiect, ychwanegodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus CBDC, ”Mae’n dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw a modern sydd ddim ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn unig. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar brosiectau yn y dyfodol i gynnig profiadau cyffrous ac amrywiol i bobl ifanc ledled Cymru, yn enwedig unigolion a chymunedau anoddach eu cyrraedd ”.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle