Farming Connect skills application window open NOW!/Cyfnod ymgeisio ar gyfer sgiliau Cyswllt Ffermio ar agor NAWR!

0
454
Nicolas Veithen at Pexels

Develop your skills, develop your business!’ Farming Connect skills application window open NOW!

 With a number of new training options added to the already comprehensive range of business, technical and practical training courses available through Farming Connect, it’s time to check out your options!

This year’s third and final application window for funding is open now until 17:00 Friday, 1 November 2019.

The programme, delivered by Lantra Wales on behalf of Farming Connect, provides a comprehensive range of training in numerous formats for eligible farm and forestry businesses registered with Farming Connect.  Farming Connect, delivered by Menter a Busnes and Lantra Wales, is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Director of Lantra Wales, Kevin Thomas, says that as the industry gears up for the uncertain trading conditions of the future, it is essential to have the necessary skills to run your business efficiently across all areas of work.

“I urge all registered businesses to consider their training options and apply during this, the final application window of 2019.

“Although there will be more application opportunities next year, we are keen to encourage every eligible member of your family who is not already registered, to sign up now and take advantage of the newly expanded range of courses available.

“All training is subsidised by up to 80% for registered businesses and provided your business is registered with Farming Connect you, your family members and PAYE workers can select any training they require,” said Mr. Thomas.

Farming Connect now offers more than 80 different training courses.  In addition to the topics already available, the most recent training additions include food safety and meat processing courses; drone technology and health and safety training as well as business and animal health related courses such as cattle mobility scoring, safe use and application of slurry and faecal egg counting.

“By remaining responsive to market requirements, the range of training provided is constantly evolving and we believe we have something to offer every individual within every Welsh farm and forestry business,” said Mr. Thomas.

Every business and/or individual who wants to apply for training within the current application window will need to be registered with Farming Connect.  If you are not already registered, contact the Farming Connect Service Centre before 17:00 on Monday, 28 October 2019.   Different rates of funding apply.

Both business improvement and technical skills courses are funded by 80%.  Machinery and equipment courses are funded by 40%.  Other options, including online e-learning modules, IT courses and Animal Health and Welfare workshops are fully funded.

Before applying for training, every applicant will need to complete a Farming Connect online personal development plan (PDP).  Support is available at specialist PDP workshops, arranged either by Farming Connect and attended by a Farming Connect regional development officer or by one of the approved training providers. For dates and locations of upcoming workshops visit https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/face-face-training-courses.

For further information on the skills application process, the Personal Development Plan (PDP) process and to download lists of all Farming Connect training courses and training providers, visit https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/face-face-training-courses or call the Farming Connect Service Centre on 08456 000 813. Alternatively contact your local Farming Connect development officer.

‘Datblygu eich sgiliau, datblygu eich busnes!’ Cyfnod ymgeisio ar gyfer sgiliau Cyswllt Ffermio ar agor NAWR!

 Mae cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant wedi cael eu hychwanegu at y rhestr gynhwysfawr o gyrsiau sgiliau busnes, technegol ac ymarferol a chyrsiau hyfforddiant sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, felly mae’n bryd i chi ystyried eich opsiynau!

  Mae’r trydydd cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar agor nawr hyd 17:00 ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019, a dyma’r cyfnod ymgeisio olaf am eleni.

 Mae’r rhaglen, a ddarperir gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio, yn darparu ystod gynhwysfawr o hyfforddiant mewn sawl fformat ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 Dywed Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, ei bod yn hanfodol i bawb sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol er mwyn rhedeg eu busnesau mewn modd effeithlon wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer amodau masnach ansicr at y dyfodol.

 “Rwy’n annog pob busnes sydd wedi cofrestru i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael yn ystod y cyfnod ymgeisio olaf ar gyfer 2019.

“Er y bydd mwy o gyfle i ymgeisio yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym ni’n awyddus i annog pob aelod cymwys o’ch teulu nad ydynt wedi cofrestru gyda’r rhaglen eisoes i gofrestru nawr ac i fanteisio ar yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael. 

 “Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael tuag at gyrsiau hyfforddiant i fusnesau cofrestredig, ac mae eich busnes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gallwch chi, aelodau’r teulu a gweithwyr PAYE ddewis unrhyw hyfforddiant sy’n angenrheidiol,” meddai Mr Thomas.

 Mae Cyswllt Ffermio bellach yn cynnig dros 80 o gyrsiau hyfforddiant. Ynghyd â’r pynciau sydd eisoes ar gael, mae’r cyrsiau mwyaf diweddar a ychwanegwyd yn cynnwys cyrsiau diogelwch bwyd a phrosesu cig; technoleg drôn a hyfforddiant iechyd a diogelwch, un ogystal â chyrsiau’n ymwneud â busnes ac iechyd anifeiliaid megis sgorio symudedd gwartheg, defnyddio a gwasgaru slyri’n ddiogel a chyfrif wyau ysgarthol.

 “Trwy barhau i ymateb i ofynion y farchnad, mae’r ystod o hyfforddiant a ddarperir yn datblygu’n barhaus, a chredwn fod gennym ni rywbeth i’w gynnig i bob unigolyn ym mhob busnes yng Nghymru,” meddai Mr Thomas.

 Bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) Cyswllt Ffermio ar lein. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ddydd Llun, 28 Hydref 2019. Mae cyfraddau ariannu’n amrywio. Mae cyrsiau gwella busnes a sgiliau technegol yn cael eu hariannu hyd at 80%. Mae cyrsiau defnyddio peiriannau ac offer yn cael eu hariannu hyd at 40%. Mae opsiynau eraill, gan gynnwys modiwlau e-ddysgu ar lein, cyrsiau TG a gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi’u hariannu’n llawn.

 Cyn ymgeisio ar gyfer hyfforddiant, mae’n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau cynllun datblygu personol (PDP) Cyswllt Ffermio ar lein. Mae cefnogaeth ar gael mewn gweithdai PDP arbenigol, wedi’u trefnu naill ai gan Cyswllt Ffermio gyda chefnogaeth swyddog datblygu rhanbarthol Cyswllt Ffermio, neu gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy. Ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cyrsiau-hyfforddiant-wyneb-yn-wyneb am ddyddiadau a lleoliadau ar gyfer y gweithdai nesaf.

 Am ragor o fanylion ynglŷn â’r broses ymgeisio ar gyfer sgiliau, y broses llunio Cynllun Datblygu Personol (PDP) ac i lawr lwytho rhestr lawn o bob cwrs hyfforddiant Cyswllt Ffermio a darparwyr hyfforddiant, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cyrsiau-hyfforddiant-wyneb-yn-wyneb neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Neu gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle