Innovation and Diversification Wales/Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru 29-09-19

0
440
Wilfred Emmanuel-Jones, The Black Farmer, (credit Phil Rigby)

He’s a pro at farming, can turn his hand to making gluten-free sausages and he’s brilliant at marketing!  The Black Farmer’s next project is to inspire rural entrepreneurs in Wales to embrace innovation and diversify!

Every so often, someone relatively under the radar has a great business idea, follows it through successfully and hits the big time!   Wilfred Emmanuel-Jones is just such a person, and The Black Farmer – the name both he and his famous food company is known by – is coming to Wales to inspire our rural entrepreneurs!

On Thursday, 26 September, Jamaican-born Wilfred, who grew up in inner-city Birmingham and by his own admission is ‘a poor boy done good’  is one of the star attractions at Farming Connect’s Innovation & Diversification Wales show, which takes place at the Royal Welsh Showgound, Llanelwedd from 10am to 4pm on Thursday, 26 September.

Wilfred, one of the UK’s most prominent and successful rural entrepreneurs, is regularly in the headlines, not only for his success in bringing his award-winning produce to leading retailers and customers throughout the UK, but for his outspoken views on diversification, social justice and lots more besides.    Wilfred will be joined by a host of inspiring speakers including 26 year old Scouser Hannah Jackson – the ‘red shepherdess’ who recently starred on Channel 4’s gruelling SAS: Who Dares Wins programme.  What they all have in common is their determination to succeed in their chosen fields and their willingness to share what they’ve learned along the way!

The event has already attracted 100 trade and business exhibitors representing many of the most influential rural players in Wales and beyond.  You could decide you want to meet an Anglesey-born Microsoft executive based in Seattle, who’ll explain why you might want to invest in some of the latest technologies from Silicon City to transform business efficiency!  You may want to find out why precision farming is already a game-changer for farmers throughout the world or you could ask an expert to explain why wireless communication that allows IT devices to communicate over long distances with minimal battery usage, should be the ‘next big thing’ you purchase!

The event is expected to attract hundreds of farmers, landowners and rural business people for what’s being billed as a ‘free day out’ which will offer a level of targeted business exposure that could help you add value to your business and identify ways to increase your income.  You will also be able to meet the individuals who can help you ‘turn ideas into reality’, through one-to-one ‘taster’ meetings with some of Farming Connect’s approved agri-consultants.

Eirwen Williams, director of rural programmes with Menter a Busnes, which together with Lantra Wales delivers Farming Connect, which is funded by Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development,  urges all those working in agriculture and related fields to plan ahead for attending this unique activity-packed event, which is the first of its type in Wales to focus on supporting rural entrepreneurs.

“Innovation and diversification are rapidly becoming the watchwords of many of the UK’s most progressive farmers and foresters.

“Technological developments including changes in science, engineering, data capture and analysis are developing faster today than ever before and this is your chance to learn how you can incorporate all these different elements to help you ensure you have a sustainable, profitable business fit for the challenges and opportunities of the future,” said Mrs. Williams.

The event will take place in the showground’s South Glamorgan Hall, the Food Hall and other adjacent buildings, where, if the timings don’t clash, you can take your pick from 30 interactive seminars, led by individuals who have had the confidence to explore new ideas, the vision to transform them into reality and the business acumen and support to set up successful diversified or new enterprises.

“Although you can drop in at any time during the day, we strongly advise everyone to visit the Farming Connect website as soon as possible, where you can register your intention to attend, and will find a detailed timetable so that even if you only plan a short visit, you won’t miss the speakers you most want to hear.

“This is a unique opportunity for everyone involved in our industry to hear at first-hand from the agricultural innovators, inventors, manufacturers, service providers and producers of tomorrow, from Wales and beyond.” said Mrs. Williams.

Visit www.gov.wales/farmingconnect to register for the event and for detailed information on all speakers, seminar leads, consultants and exhibitors, together with a detailed timetable which will enable you to plan your day in advance and not miss any element of the programme.

Farming Connect is delivered by Menter a Busnes and Lantra Wales and funded by the Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development.

Hannah Jackson- The Red Shepherdess (credit Phil Rigby)

Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru

Mae’n ffermwr medrus, yn gallu troi ei law at wneud selsig heb glwten ac mae’n wych am farchnata! Prosiect nesaf The Black Farmer yw ysbrydoli entrepreneuriaid o gefn gwlad Cymru i arloesi ac arallgyfeirio!

Bob hyn a hyn, mae rhywun yn cael syniad busnes gwych, yn mynd amdani ac yn llwyddo! Mae Wilfred Emmanuel-Jones yn un o’r bobl hynny, ac mae The Black Farmer – yr enw y caiff ef a’i gwmni busnes bwyd ei adnabod wrtho – yn dod i Gymru i ysbrydoli entrepreneuriaid o gefn gwlad!

Ddydd Iau, 26 Medi, bydd Wilfred a aned yn Jamaica, ac a fagwyd yng nghanol dinas Birmingham ac sydd, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun ‘wedi gwneud yn dda iddo’i hun’, yn un o’r prif atyniadau yn sioe Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru Cyswllt Ffermio, a gynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd rhwng 10am a 4pm ddydd Iau, 26 Medi.

 

Mae Wilfred, un o entrepreneuriaid gwledig amlycaf a mwyaf llwyddiannus y DU, yn y penawdau’n gyson, nid yn unig am ei lwyddiant i gyflwyno ei gynnyrch fferm llwyddiannus i brif fanwerthwyr a chwsmeriaid drwy’r DU ond am ei farn ddi-flewyn-ar-dafod am arallgyfeirio, cyfiawnder cymdeithasol a sawl pwnc arall. Bydd nifer o siaradwyr ysbrydoledig yn ymuno â Wilfred yn cynnwys Hannah Jackson 26 oed o Lerpwl – y ‘red shepherdess’ a ymddangosodd yn ddiweddar ar raglen heriol SAS: Who Dares Wins ar Channel 4. Yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt i gyd yw eu penderfyniad i lwyddo yn eu cyfryw feysydd a’u parodrwydd i rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd!

Mae’r digwyddiad eisoes wedi denu bron i 100 o arddangoswyr masnach a busnes yn cynrychioli’r busnesau gwledig mwyaf dylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Efallai byddwch yn penderfynu eich bod eisiau cyfarfod gŵr busnes o Sir Fôn sy’n gweithio i gwmni Microsoft ac wedi’i leoli yn Seattle, fydd yn egluro pam y byddech eisiau buddsoddi yn rhai o’r technolegau diweddaraf o Silicon City i drawsnewid effeithlonrwydd eich busnes! Efallai byddwch chi eisiau darganfod pam fod ffermio manwl gywir eisoes yn golygu bod ffermwyr drwy’r byd yn arloesi neu gallech ofyn i arbenigwr egluro pam mai cyfathrebu diwifr sy’n caniatáu i ddyfeisiau TG gyfathrebu’n bell heb ddefnyddio llawer o fatri, ddylai fod ‘yr eitem fawr nesaf’ i chi ei phrynu!

Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu cannoedd o ffermwyr, perchnogion tir a phobl â busnesau gwledig am ddiwrnod sy’n cael ei hyrwyddo fel ‘diwrnod allan am ddim’ fydd yn rhoi sylw priodol i’ch busnes allai eich helpu i ychwanegu gwerth i’ch busnes a chanfod ffyrdd i gynyddu eich incwm. Hefyd byddwch yn gallu cyfarfod yr unigolion fydd yn gallu eich helpu i ‘droi syniadau’n realiti’ drwy gyfarfodydd ‘blasu’ un-i-un gyda rhai o ymgynghorwyr amaeth cymeradwy Cyswllt Ffermio.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n ynghyd â Lantra Cymru yn darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn annog pawb sy’n gweithio ym maes amaeth a meysydd cysylltiedig i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer mynychu’r digwyddiad unigryw hwn fydd yn llawn gweithgareddau, a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar gefnogi entrepreneuriaid o gefn gwlad.

“Mae arloesi ac arallgyfeirio’n prysur ddod yn ddau arwyddair i nifer o ffermwyr a choedwigwyr mwyaf blaengar y DU.

“Mae datblygiadau technolegol yn cynnwys newidiadau mewn gwyddoniaeth, peirianneg, cipio a dadansoddi data yn datblygu’n gyflymach heddiw nag erioed o’r blaen a dyma eich cyfle i ddysgu sut gallwch chi gynnwys yr holl elfennau gwahanol yma i’ch helpu i sicrhau bod gennych fusnes cynaliadwy, proffidiol sy’n addas ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol,” meddai Mrs. Williams.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Morgannwg, y Neuadd Fwyd ac adeiladau gerllaw ar faes y Sioe, lle gallwch, os nad ydynt yn digwydd yr un pryd, ddewis o blith 30 o seminarau rhyngweithiol, dan arweiniad unigolion sydd â’r hyder i ymchwilio i syniadau newydd, y weledigaeth i’w trawsnewid yn realiti a’r craffter busnes a’r cymorth i sefydlu mentrau newydd neu arallgyfeirio llwyddiannus.

“Er y gallwch alw heibio unrhyw adeg o’r dydd, rydym yn argymell yn gryf i bawb ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio cyn gynted â phosibl, lle gallwch gofrestru eich bwriad i fynd i’r digwyddiad. Bydd amserlen fanwl ar gael, felly os mai dim ond am gyfnod byr hyd yn oed yr ydych yn bwriadu ymweld, fyddwch chi ddim yn colli’r siaradwyr yr ydych eisiau eu clywed fwyaf.

“Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb sy’n rhan o’n diwydiant glywed arloeswyr amaethyddol, dyfeiswyr, gweithgynhyrchwyr, darparwyr gwasanaeth a chynhyrchwyr yfory, o Gymru a thu hwnt yn siarad,” meddai Mrs. Williams.

Ewch i www.gov.wales/farmingconnect/cy i gofrestru ar gyfer y digwyddiad a chael gwybodaeth fanwl am yr holl siaradwyr, arweinwyr y seminarau, ymgynghorwyr ac arddangoswyr, ynghyd ag amserlen fanwl fydd yn eich galluogi i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw heb golli unrhyw ran o’r rhaglen.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle